Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, welcomes news that more money is available for schemes across Wrexham.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I am delighted to see the UK Shared Prosperity Fund is now offering grants totalling £1 million for three more grant schemes in Wrexham.
Applications are now open for new projects and I would urge anyone who fits the criteria to make sure they apply as the money is there to help with suitable schemes.
Last year over £2.5 million was awarded to more than 50 Wrexham based businesses and community projects which is great news for the area.
The UK Government’s Shared Prosperity Fund is a huge part of the UK Government’s Levelling Up agenda and it is heartening to see the interest in this funding from the UK Government to help projects in North Wales.
The Shared Prosperity Funded grant schemes re-opens on January 22, so you can enter an expression of interest in the following categories.
The Multiply Key Fund will support projects that aim to improve numeracy skills for adults aged 19+ who have not previously attained a Level 2/SCQF Level 5 or higher maths qualification (equivalent of GCSE Grade C/4). The scheme offers funding from £10,000 to £200,000 to support projects
The People and Skills Key Fund will support projects that help adults improve their maths and IT skills, and move them closer to entering employment. It offers funding from £3,000 to £125,000
The Communities and Place Key Fund will support community projects that strengthen local pride, including events and activities, access to local amenities, and improvements to local facilities and open spaces. It will also support innovative approaches to crime prevention and community safety and offers funding from £3,000 to £125,000
These grants are open to a variety of Wrexham-based organisations, groups, charities and businesses. Councillor Mark Pritchard, leader of Wrexham Council and lead member for finance, said: “This is fantastic news and we want local businesses, groups and organisations to take full advantage.
“If you have a project that could benefit Wrexham and your community, please take a look at the criteria and consider putting in an application.
“We want this money to work hard for Wrexham, and so we need to hear from people with good ideas that can really make a difference.
“These opportunities don’t come around very often – please make sure you don’t miss out on applying for these grants.”
You can find out more by visiting the UK Shared Prosperity Key Funds page on the council website.
Sam Rowlands AS yn falch o weld rhagor o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer prosiectau yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn croesawu'r newyddion bod mwy o arian ar gael ar gyfer cynlluniau ledled ardal Wrecsam.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig:
Rwy'n falch iawn o weld bod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU bellach yn cynnig grantiau gwerth cyfanswm o £1 miliwn ar gyfer tri chynllun grant arall yn Wrecsam.
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer prosiectau newydd a byddwn yn annog unrhyw un sy'n bodloni’r meini prawf i sicrhau eu bod yn gwneud cais gan fod yr arian yno i helpu gyda chynlluniau addas.
Y llynedd, dyfarnwyd dros £2.5 miliwn i fwy na 50 o fusnesau a phrosiectau cymunedol yn Wrecsam, sy'n newyddion gwych i'r ardal.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn rhan enfawr o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae'n galonogol gweld y diddordeb yn y cyllid hwn gan Lywodraeth y DU i helpu prosiectau yn y Gogledd.
Mae'r cynlluniau grant hyn a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ailagor ar 22 Ionawr, ac mae modd mynegi diddordeb yn y categorïau canlynol.
Bydd y Gronfa Allweddol Lluosi yn cefnogi prosiectau sydd â’r nod o wella sgiliau rhifedd ymysg oedolion 19+ oed nad ydyn nhw wedi ennill cymhwyster Lefel 2/SCQF Lefel 5 neu fathemateg uwch yn flaenorol (sy'n cyfateb i TGAU Gradd C/4). Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o £10,000 i £200,000 i gefnogi prosiectau
Bydd y Gronfa Allweddol Pobl a Sgiliau yn cefnogi prosiectau sy'n helpu oedolion i wella eu sgiliau mathemateg a TG, ac yn eu symud yn agosach at fynd i mewn i gyflogaeth. Mae'n cynnig cyllid o £3,000 i £125,000
Bydd y Gronfa Allweddol Cymuned a Lle yn cefnogi prosiectau cymunedol sy'n cryfhau balchder lleol, gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau, mynediad at amwynderau lleol, a gwelliannau i gyfleusterau lleol a mannau agored. Bydd hefyd yn cefnogi dulliau arloesol o atal troseddu a diogelwch cymunedol ac yn cynnig cyllid o £3,000 i £125,000
Mae'r grantiau hyn yn agored i amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau, elusennau a busnesau yn Wrecsam. Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a'r Aelod Arweiniol dros Gyllid: "Mae hyn yn newyddion gwych ac rydyn ni eisiau i fusnesau, grwpiau a sefydliadau lleol fanteisio ar hyn yn llawn.
"Os oes gennych chi brosiect a allai fod o fudd i Wrecsam a'ch cymuned, edrychwch ar y meini prawf ac ystyriwch gyflwyno cais.
"Rydyn ni eisiau i'r arian hwn weithio'n galed dros Wrecsam, ac felly mae angen i ni glywed gan bobl sydd â syniadau da a all wneud gwahaniaeth go iawn.
"Dyw'r cyfleoedd hyn ddim ar gael yn aml iawn - gofalwch nad ydych chi'n colli cyfle i wneud cais am y grantiau hyn."
Gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â thudalen Cronfeydd Allweddol Ffyniant Gyffredin y DU ar wefan y cyngor.