Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, recently took part in the Farmers’ Union of Wales’ Farmhouse Breakfast initiative.
Last Saturday, Mr Rowlands joined representatives of the local farming community at Neuadd Bentref in Rhosesmor for breakfast.
He said:
I was delighted to support this annual event again and encourage people to start the day with family, friends and neighbours and raise awareness of mental health.
Breakfast is one of the most important meals of the day and I was happy to be able to attend attend a local event in North Wales.
The initiative is a great idea as not only does it encourage everyone to have a catch up before the day begins in a healthy and positive way but it also helps to raise money for charity.
It is also a wonderful opportunity to showcase the breadth and wealth of quality breakfast produce which is available all over Wales and spotlight the importance to our rural economy.
The FUW Farmhouse Breakfast is one of the key campaigns organised by the union and runs from January 15 -21 with FUW teams across the country hosting a variety of farmhouse breakfasts.
The aim of the event is to promote the health benefits and have a good catch up before the day starts.
Sam Rowlands AS yn helpu i hyrwyddo manteision dechrau'r diwrnod gyda brecwast da
Yn ddiweddar, cymerodd Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, ran ym menter Dros Frecwast Undeb Amaethwyr Cymru.
Ddydd Sadwrn diwethaf, ymunodd Mr Rowlands â chynrychiolwyr y gymuned ffermio leol yn Neuadd Bentref Rhosesmor am frecwast.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gefnogi'r digwyddiad blynyddol hwn eto ac annog pobl i ddechrau'r diwrnod gyda theulu, ffrindiau a chymdogion a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac roeddwn i’n hapus i allu mynychu digwyddiad lleol yn y Gogledd.
Mae'r fenter yn syniad gwych - nid yn unig mae’n annog pawb i ddod at ei gilydd am sgwrs cyn i'r diwrnod ddechrau mewn ffordd iach a chadarnhaol ond mae hefyd yn helpu i godi arian i elusen.
Mae hefyd yn gyfle gwych i arddangos ehangder a chyfoeth y cynnyrch brecwast o safon sydd ar gael ledled Cymru a thynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig.
Mae Brecwast Ffermdy FUW yn un o'r ymgyrchoedd allweddol a drefnir gan yr undeb ac mae'n cael ei gynnal o 15 i 21 Ionawr gyda thimau FUW ar draws y wlad yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy.
Nod y digwyddiad yw hyrwyddo'r manteision iechyd a chael clonc cyn i'r diwrnod ddechrau.