As a former council leader, I know how difficult it is when the time comes to set the budget for the year. There are huge pressure on local budgets, from social care to schools, which together make up over 60% of local government expenditure.
Now, as councils prepare to set their council tax rates for the next year, the average planned rise across Wales is above 8%. In Pembrokeshire, the council has consulted on raising council tax by as much as 25%. These sorts of rises will place an unsustainable amount of pressure on household budgets at a time when people are already struggling thanks to global pressures caused by, among other things, the war in Ukraine.
So why are we seeing such massive council tax rises on the cards? It’s all because of how councils are funded.
The Welsh Government’s revenue support grant, which is essentially a pot of money Welsh Government gives to councils for their budgets, makes up by far the largest chunk of local authority funding. The Welsh Government’s most recent budget has granted a measly 3.1% uplift for councils. Councils have already warned the Welsh Government that an increase this small will inevitably result in cuts to services that people rely on day-to-day, and significant increases to council tax rises.
An example of how this funding doesn’t make sense is in my region of North Wales. For Conwy residents, their neighbours in Denbighshire received an extra £256 per head in the last financial year, which, if applied to Conwy, would mean an additional £20 million in their budget. These discrepancies arise in some part because the funding formula, which uses over 70 different measurements to determine the sum that should be awarded, relies on out-of-date data. If you don’t have up to date data on the people who live in our counties and the challenges they face, you can’t properly meet their funding requirements. That’s self-evident.
The independent leader of Conwy Council, Charlie McCoubrey, has called the local government funding formula “outdated and unfair”. It’s easy to see why, when Conwy’s new funding amounts to just £4 million, despite £4.4 million being required for teacher and staff pay awards alone. How can our teachers be sustainably recruited and retained when, thanks to the funding formula, councils have to cut services in order to pay our teachers?
This just scratches the surface of why the council funding formula is out of date and unfair. North Wales routinely gets a rough deal, seeing lower funding settlements than local authorities in South Wales. This all means that, come every December when the settlement is published, there are winners and there are losers. We have to move away from this, because each percentage point makes a huge difference when it comes to delivering the services people rely on every day.
I continue to call for an independent review of this funding formula. Beyond being unfair, it also places additional pressure on hard-pressed families. On average, council tax makes up 20-25% of council funding. A much larger proportion comes from the central Welsh Government. So when the funding formula isn’t working, we see councils having to balance budgets through massive council tax rises.
These rises are indicative of the enormous burdens that local authorities are expected to shoulder thanks to a raw deal from Welsh Government, who have spent huge amounts of money on vanity projects while the provision of public services in Wales suffer and council budgets are balanced on the backs of households in Wales. This is a political choice.
This is why I’m also calling for a cap on council tax rises. The cap would mean that any rise over a 5% threshold would have to be approved by a local referendum. This would not only ensure that council budgets are focused on the things that really matter, but would also ensure that Welsh Government funded councils properly, instead of giving them a raw deal and expecting them to levy the difference on local residents. It would protect families from ridiculous rises, like the potential 25% rise we’ve seen in Pembrokeshire.
A cap would also mean that councils would have to give consideration to the idea of using their reserves. Councils save money into a rainy-day fund. They’re rightly reluctant to dip into it unless times are really hard. But I would argue that those times are now. People are feeling the pinch at the moment, and many councils could use just a very small portion of their reserves to keep council tax rises at a more realistic level. With some councils sitting on more than £200 million in usable reserves, they should be strongly encouraged to use some of this money to cover shortfalls, even if it’s just a short term measure to help people while cost of living pressures continue to have an impact.
There are huge pressures on councils at the moment, piled onto them by the Welsh Government’s failure to properly prioritise their funding. Unless we reform the funding model, Welsh Government will continue to force councils to pass those pressures onto struggling families at the worst possible time.
Fel cyn-arweinydd cyngor, rwy'n gwybod pa mor anodd yw hi pan ddaw'r amser i bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn. Mae pwysau enfawr ar gyllidebau lleol, o ofal cymdeithasol i ysgolion, a gyda'i gilydd mae’r gwahanol elfennau hyn yn cyfrif am dros 60% o wariant llywodraeth leol.
Wrth i gynghorau baratoi i bennu eu cyfraddau treth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae'r cynnydd cyfartalog sydd wedi’i gynllunio ledled Cymru yn uwch nag 8%. Yn Sir Benfro, mae'r cyngor wedi ymgynghori ar godi treth gyngor gymaint â 25%. Bydd y mathau hyn o godiadau yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar gyllidebau cartrefi ar adeg pan fo pobl eisoes yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd oherwydd pwysau byd-eang sydd wedi’u hachosi gan wahanol ffactorau, yn cynnwys y rhyfel yn Wcráin.
Felly pam fod codiad mor sylweddol ar y gweill i’r dreth gyngor? Mae'r cyfan yn digwydd oherwydd y ffordd mae cynghorau'n cael eu hariannu.
Grant cynnal refeniw a ddaw gan Lywodraeth Cymru, sef cronfa o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei dosbarthu i gynghorau ar gyfer eu cyllidebau, sy’n cyfrif am ran fwyaf cyllid awdurdodau lleol, a hynny o bell ffordd. Mae cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru wedi rhoi codiad o 3.1% i gynghorau. Mae cynghorau eisoes wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru y bydd cynnydd mor fach yn gorfod arwain at doriadau i wasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw o ddydd i ddydd, a chynnydd sylweddol i godiadau’r dreth gyngor.
Mae enghraifft o’r diffyg synnwyr sy’n perthyn i’r ffordd hon o gyllido yn bodoli yn fy rhanbarth i yn y Gogledd. Derbyniodd cymdogion trigolion Conwy yn Sir Ddinbych £256 y pen yn fwy na thrigolion Conwy yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Pe bai’r un peth wedi bod yn wir yn Sir Conwy, byddai’n golygu £20 miliwn ychwanegol yn eu cyllideb. Mae'r anghysondebau hyn yn codi i ryw raddau oherwydd bod y fformiwla ariannu, sy'n defnyddio dros 70 o wahanol fesuriadau i benderfynu ar y swm y dylid ei ddyfarnu, yn dibynnu ar ddata sydd wedi dyddio. Os nad yw’r data diweddaraf ar gael am y bobl sy'n byw yn ein siroedd a'r heriau sy'n eu hwynebu, nid oes modd bodloni eu gofynion am arian yn iawn. Mae hynny'n amlwg.
Mae arweinydd annibynnol Cyngor Conwy, Charlie McCoubrey, wedi galw'r fformiwla ar gyfer ariannu llywodraeth leol yn "hen ffasiwn ac annheg". Mae'n hawdd gweld pam, pan fo cyllid newydd Conwy yn £4 miliwn yn unig, er bod angen £4.4 miliwn ar y sir ar gyfer dyfarniadau cyflog athrawon a staff. Sut y gellir recriwtio a chadw ein hathrawon mewn ffordd gynaliadwy pan mae cynghorau yn gorfod torri gwasanaethau er mwyn talu athrawon, diolch i'r fformiwla ariannu?
Dim ond un agwedd ar sut mae fformiwla ariannu'r cyngor wedi dyddio ac yn annheg yw hyn. Mae’r Gogledd yn cael bargen wael byth a hefyd, ac yn cael llai o setliadau cyllidebol nag awdurdodau lleol yn y De. O’r herwydd, bob mis Rhagfyr pan gyhoeddir y setliad, mae rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled. Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth y system hon, oherwydd mae pob pwynt canran yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.
Rwy'n parhau i alw am adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu hon. Mae’n hollol annheg, ond mae hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd sydd eisoes dan bwysau. Ar gyfartaledd, mae'r dreth gyngor yn cyfrif am 20-25% o gyllid y cyngor. Daw cyfran llawer mwy gan Lywodraeth ganolog Cymru. Felly pan nad yw'r fformiwla ariannu yn gweithio, gwelwn gynghorau yn gorfod mantoli eu cyllidebau trwy godiadau treth gyngor enfawr.
Mae'r codiadau hyn yn arwydd o'r beichiau enfawr y mae disgwyl i awdurdodau lleol eu hysgwyddo yn sgil y fargen wael a gânt gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi gwario symiau enfawr o arian ar brosiectau gwagedd tra bod darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dioddef a chyllidebau cynghorau yn cael eu mantoli ar draul aelwydydd Cymru. Mae hwn yn ddewis gwleidyddol.
Dyna pam rydw i hefyd yn galw am osod cap ar godiadau treth gyngor. Byddai'r cap yn golygu y byddai'n rhaid cymeradwyo unrhyw gynnydd dros drothwy o 5% drwy gynnal refferendwm lleol. Nid yn unig fyddai hyn yn sicrhau bod cyllidebau cynghorau yn canolbwyntio ar y pethau sy'n wirioneddol bwysig, ond byddai hefyd yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ariannu cynghorau yn iawn, yn hytrach na’u rhoi dan anfantais a disgwyl iddyn nhw gael yr hyn sy’n weddill gan drigolion lleol. Byddai'n diogelu teuluoedd rhag codiadau chwerthinllyd, fel y cynnydd posibl o 25% sydd wedi’i drafod yn Sir Benfro.
Byddai cap hefyd yn golygu y byddai'n rhaid i gynghorau ystyried y syniad o ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn. Mae cynghorau'n arbed arian a’i roi o’r neilltu tan fod ei angen. Mae’n berffaith iawn iddynt fod yn amharod i ddefnyddio’r arian hwn oni bai bod cyfnod anodd iawn ar droed. Ond fe fyddwn i'n dadlau bod yr amser hwnnw wedi dod. Mae pobl yn teimlo'r caledi ar hyn o bryd, a gallai llawer o gynghorau ddefnyddio cyfran fach iawn o'u cronfeydd wrth gefn i gadw cynnydd yn y dreth gyngor ar lefel fwy realistig. Mae rhai cynghorau'n eistedd ar fwy na £200 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, a dylid eu hannog i ddefnyddio rhywfaint o'r arian hwn i wneud iawn am ddiffygion, hyd yn oed os mai dim ond mesur tymor byr ydyw i helpu pobl tra bod pwysau costau byw yn parhau i gael effaith.
Mae pwysau enfawr ar gynghorau ar hyn o bryd, ac mae’r rhain wedi'u dwysau gan fethiant Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu eu cyllid yn iawn. Oni bai ein bod yn diwygio'r model cyllido, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi cynghorau i drosglwyddo'r pwysau i deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, a hynny ar yr amser gwaethaf posibl.