Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says he fears local councils are having to bear the brunt of the disastrous roll out of the default 20mph speed limit.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a harsh critic of the policy which was introduced last September, said he was extremely concerned about the impact the policy is having on cash strapped local authorities.
He said:
Once again we are seeing the Welsh Government desperately trying to back peddle on this ridiculous legislation and leaving local councils to pick up the pieces.
The Minister responsible for introducing this crazy law is telling people to write to their local councils telling them why their road should be returned to a 30mph speed limit. You really could not make it up.
Local councils are also now having to post public notices telling people which roads are changing back to the original speed limit. It is a complete and utter farce, especially when local authorities should be focusing on balancing their budgets instead of clearing up a mess that the Welsh Government has created.
The roll out of this ridiculous blanket speed limit continues to be a complete shambles, clearly ill thought out, and at great cost to everyone.
I am sure most people in North Wales would prefer to see their council tax spent on vital services rather than helping the Welsh Labour Government with their vanity projects.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at y costau cynyddol i gynghorau o gyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol ar ein ffyrdd
Dywed Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, ei fod yn ofni bod cynghorau lleol yn gorfod ysgwyddo baich y broses drychinebus o gyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol a beirniad llym o'r polisi a gafodd ei gyflwyno fis Medi diwethaf, ei fod yn hynod bryderus am yr effaith mae'r polisi yn ei chael ar awdurdodau lleol sydd heb fawr ddim arian.
Meddai:
Unwaith eto, rydyn ni’n gweld Llywodraeth Cymru yn ymdrechu'n daer i wneud tro pedol ar y ddeddfwriaeth hurt hon gan adael cynghorau lleol i glirio’r llanast.
Mae'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gyflwyno'r gyfraith wallgo hon yn dweud wrth bobl am ysgrifennu at eu cynghorau lleol i ddweud wrthyn nhw pam y dylid dychwelyd eu ffordd i derfyn cyflymder o 30mya. Mae’n anodd amgyffred yr holl wallgofrwydd.
Mae cynghorau lleol hefyd bellach yn gorfod rhoi hysbysiadau cyhoeddus yn dweud wrth bobl pa ffyrdd sy'n newid yn ôl i'r terfyn cyflymder gwreiddiol. Mae'n ffars lwyr, yn enwedig pan ddylai awdurdodau lleol fod yn canolbwyntio ar gydbwyso eu cyllidebau yn hytrach na chlirio’r llanast y mae Llywodraeth Cymru wedi'i greu.
Mae cyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol chwerthinllyd hwn yn parhau i fod yn draed moch llwyr, dydy’r cynllun heb ei weithio allan yn iawn, ac mae pawb yn talu crocbris amdano.
Dwi’n siŵr y byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl y Gogledd weld eu treth gyngor yn cael ei gwario ar wasanaethau hanfodol yn hytrach na helpu Llywodraeth Lafur Cymru gyda'u prosiectau gwallgo.