Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales is urging Welsh Government to take radical action to keep council tax increases as low as possible.
Mr Rowlands proposals include councils being required to seek the consent of local ratepayers for excessive council tax increases by a local referendum, and better use of local government reserves, currently sitting at £2.75 billion across Wales.
He said:
I really can’t believe what I am hearing about the possible eye watering tax hikes in my constituency of North Wales and I am extremely concerned for my constituents.
In Conwy where the council is struggling to make ends meet the figure of 16% has been mentioned, and in Denbighshire 9.34% has been approved by the council.
How does the Welsh Labour Government expect our hardworking public to find the extra money.
The council tax rises we are seeing put forward in Wales are going to put a huge amount of stress on people.
Councils go above and beyond to deliver for residents, but at a time when household budgets are stretched as a result of global pressures, people across Wales must be protected from massive council tax rises.
The Welsh Government should properly fund councils and require councils to hold a referendum if they want to implement excessive council tax hikes.
Sam Rowlands AS yn rhannu ei bryder ynghylch y codiadau arfaethedig yn y dreth gyngor yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau radical i gadw unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor mor isel â phosib.
Mae cynigion Mr Rowlands yn cynnwys ei gwneud hi’n ofynnol i gynghorau geisio cydsyniad trethdalwyr lleol os ydynt am gynyddu’r dreth gyngor yn ormodol drwy gynnal refferendwm lleol, a gwell defnydd o gronfeydd wrth gefn llywodraeth leol, sy’n werth £2.75 biliwn ledled Cymru ar hyn o bryd.
Meddai:
Alla i ddim credu'r hyn dwi’n ei glywed am y codiadau treth anghredadwy posib yn fy etholaeth yng Ngogledd Cymru a dwi’n hynod bryderus am fy etholwyr.
Yng Nghonwy lle mae'r cyngor yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, mae'r ffigur o 16% wedi cael ei grybwyll, ac yn Sir Ddinbych mae 9.34% wedi cael ei gymeradwyo gan y cyngor.
Sut mae Llywodraeth Lafur Cymru yn disgwyl i'n cyhoedd, sy’n gweithio mor galed, ddod o hyd i'r arian ychwanegol?
Mae'r cynnydd yn y dreth gyngor rydyn ni'n ei weld yn cael ei gyflwyno yng Nghymru yn mynd i roi llawer iawn o bobl dan straen.
Mae cynghorau yn gwneud eu gorau glas i gyflawni ar gyfer trigolion, ond ar adeg pan mae cyllidebau cartrefi o dan bwysau aruthrol o ganlyniad i bwysau byd-eang, rhaid i bobl ledled Cymru gael eu hamddiffyn rhag codiadau enfawr yn y dreth gyngor.
Dylai Llywodraeth Cymru ariannu cynghorau yn iawn a mynnu bod cynghorau yn cynnal refferendwm os ydyn nhw am weithredu codiadau treth gyngor gormodol.