Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is delighted to see a local project benefitting from the National Lottery Heritage Fund.
Mr Rowlands was commenting after it was announced that the Clywedog Valley Heritage Partnership led by Groundwork North Wales was awarded £246,530 in development funding towards a potential delivery grant of £1.2m,to reopen heritage sites and run a diverse programme of events along the valley.
He said:
As Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism I am delighted to see this investment which will not only encourage local people to get into nature but will be a great attraction for visitors.
It is vitally important to receive this sort of backing from the National Lottery Heritage Fund so we can continue to update and improve our areas in North Wales for everyone.
The Heritage Fund has announced £15.6m of funding to make getting out into nature easier. From urban walking routes and dramatic landscapes to Regency period gardens, helping people to get outside to explore and enjoy nature is the focus of the funding.
Funding has been awarded to several organisations to develop their plans to preserve and improve access to natural heritage across the UK, such as the Clywedog Valley Partnership in Wrexham, as well as awards to deliver projects post the development stage.
The Clywedog Valley Partnership aims to transform the valley into a vibrant cultural attraction, by reopening heritage sites along the valley, and offering visitors and the local community a diverse programme of events and activities.
Groundwork North Wales is leading the Clywedog Valley Partnership, which is a range of organisations and community groups all with an interest in the heritage of the Clywedog Valley, running from the moors above Minera Quarry to King's Mill just south of Wrexham city centre.
Eilish McGuinness, Chief Executive at The National Lottery Heritage Fund, said:
At a time of year when many of us are looking to get out into the fresh air and walk off the festive excess, I’m thrilled we are supporting projects that will help more people experience the benefits of nature across the UK.
Preserving natural heritage is core to what we do, and we look forward to seeing these projects enhance access to nature and walking for a diverse range of people. National Lottery funding will help to ensure these outstanding places are valued, cared for and sustained for everyone’s future.
Sam Rowlands AS yn croesawu rhagor o gyllid i annog mwy o bobl i ddangos diddordeb mewn byd natur yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld prosiect lleol yn elwa ar Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Gwnaeth Mr Rowlands y sylw ar ôl cyhoeddi bod Partneriaeth Treftadaeth Dyffryn Clywedog dan arweiniad Groundwork Gogledd Cymru wedi derbyn £246,530 o gyllid datblygu tuag at grant cyflawni posibl o £1.2m, ar gyfer ailagor safleoedd treftadaeth a rhedeg rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ledled y dyffryn.
Meddai:
Fel Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, dwi’n falch iawn o weld y buddsoddiad hwn a fydd nid yn unig yn annog pobl leol i ymddiddori ym myd natur ond a fydd hefyd yn atyniad gwych i ymwelwyr.
Mae'n hanfodol bwysig derbyn y math hwn o gefnogaeth gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol fel y gallwn barhau i ddiweddaru a gwella ein hardaloedd yn y Gogledd i bawb.
Mae'r Gronfa Treftadaeth wedi cyhoeddi £15.6m o gyllid i’w gwneud hi’n haws i fynd allan i fyd natur. O lwybrau cerdded trefol a thirweddau dramatig i erddi o gyfnod y Rhaglywiaeth, bydd y cyllid yn helpu pobl i fynd allan i ddarganfod a mwynhau byd natur.
Mae cyllid wedi'i ddyfarnu i sawl sefydliad i ddatblygu eu cynlluniau i warchod a gwella mynediad at dreftadaeth naturiol ledled y DU, megis Partneriaeth Dyffryn Clywedog yn Wrecsam, yn ogystal â gwobrau i gyflawni prosiectau ar ôl y cam datblygu.
Nod Partneriaeth Dyffryn Clywedog yw trawsnewid y dyffryn yn atyniad diwylliannol bywiog, drwy ailagor safleoedd treftadaeth ar hyd y dyffryn, a chynnig rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ymwelwyr a'r gymuned leol.
Mae Groundwork Gogledd Cymru yn arwain Partneriaeth Dyffryn Clywedog, sef amrywiaeth o sefydliadau a grwpiau cymunedol sydd â diddordeb yn nhreftadaeth y Dyffryn, sy'n rhedeg o'r rhostiroedd uwchlaw Chwarel y Mwynglawdd i Felin y Brenin ychydig i'r de o ganol dinas Wrecsam.
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:
Ar adeg o'r flwyddyn pan mae llawer ohonom yn mynd allan i'r awyr iach ac yn cerdded ar ôl gloddesta dros y gwyliau, dwi’n falch iawn ein bod yn cefnogi prosiectau a fydd yn helpu mwy o bobl i brofi manteision natur ledled y DU.
Mae gwarchod treftadaeth naturiol wrth galon yr hyn a wnawn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y prosiectau hyn yn gwella mynediad at natur a cherdded ar gyfer ystod amrywiol o bobl. Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn helpu i sicrhau bod y lleoedd eithriadol hyn yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael eu gwarchod ac yn cael eu cynnal ar gyfer dyfodol pawb.