Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people in Wrexham to take part in a consultation on flooding plans for the county.
Wrexham Council has launched a consultation on its next version of its flood risk management plan and calling on residents to share their views.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter of local people having a say on what goes on in their communities said:
I think it is vital that the views of local residents are considered in this consultation as flooding continues to cause problems in some areas in bad weather.
Nobody likes to see the devastation a bad storm can cause in our communities and it is only right and proper that the council reviews its flood defences to ensure that they are fit for the future.
It is important that people in Wrexham have their say on what they want to see to help prevent flooding in the future, even if you do not live near a river.
Wrexham council is calling for resident’s views on the next version of its Flood Risk Management Plan to better meet the flood protection goals of communities.
Wrexham County Borough Council is responsible for surface water, ordinary watercourse and groundwater flooding.
This plan will outline the measures that it want to implement over the next six years to raise awareness of flood risk and better protect communities.
Flooding affects many people throughout the county and you do not have to be near a river to flood, so it’s important to have your say on how flooding will be managed.
You can have your say by visiting the council’s ‘your voice platform and taking the survey.
The survey should take about 10 minutes to complete once you have read the plan. The consultation will be open until Friday February 9.
Sam Rowlands AS yn galw ar etholwyr i ddweud eu dweud am gynlluniau rheoli perygl llifogydd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl yn Wrecsam i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gynlluniau llifogydd ar gyfer y sir.
Mae Cyngor Wrecsam wedi lansio ymgynghoriad ar ei fersiwn nesaf o'i gynllun rheoli perygl llifogydd ac yn galw ar drigolion i rannu eu barn.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chefnogwr brwd o blaid pobl leol yn cael dweud eu dweud am yr hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau:
Dwi’n credu ei bod yn hanfodol bod barn trigolion lleol yn cael ei hystyried yn yr ymgynghoriad hwn wrth i lifogydd barhau i achosi problemau mewn rhai ardaloedd mewn tywydd garw.
Does neb yn hoffi gweld y dinistr y gall storm ddrwg ei achosi yn ein cymunedau ac mae'n iawn ac yn briodol bod y cyngor yn adolygu ei amddiffynfeydd rhag llifogydd i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae'n bwysig bod pobl yn Wrecsam yn cael dweud eu dweud ar yr hyn maen nhw eisiau ei weld er mwyn helpu i atal llifogydd yn y dyfodol, hyd yn oed os nad ydych chi'n byw ger afon.
Mae Cyngor Wrecsam yn galw am farn trigolion ar fersiwn nesaf ei Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd er mwyn cyflawni nodau amddiffyn rhag llifogydd cymunedau yn well.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n gyfrifol am lifogydd dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear.
Bydd y cynllun hwn yn amlinellu'r mesurau y mae am eu rhoi ar waith dros y chwe blynedd nesaf i godi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd a diogelu cymunedau yn well.
Mae llifogydd yn effeithio ar lawer o bobl ledled y sir a does dim rhaid i chi fod yn agos at afon i ddioddef llifogydd, felly mae'n bwysig dweud eich dweud ar sut y bydd llifogydd yn cael eu rheoli.
Gallwch ddweud eich dweud drwy ymweld â phlatfform 'eich llais a dweud eich dweud' y cyngor.
Dylai'r arolwg gymryd tua 10 munud i'w gwblhau unwaith y byddwch chi wedi darllen y cynllun. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan ddydd Gwener 9 Chwefror.