Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed new football heritage tours in Wrexham city centre.
Mr Rowlands, a keen football fan said:
I am delighted to hear about the return of these football heritage tours around the city and hope they will be as successful as they were last year.
It is great to be able to learn more about the history of the club which is the oldest in Wales and the third oldest professional association football team in the world.
Everybody knows how Wrexham AFC has managed to increase the city’s profile worldwide and it continues to thrive in division two. It is an excellent idea to offer people the opportunity to discover more about its heritage.
It is also a wonderful way to see Wrexham and explore this vibrant city.
Wrexham Museum and the Football Museum Wales have launched a new season of Football Heritage Tours of the city centre.
Discover the places, people and events that shaped football in Wrexham and across Wales over the last 150 years.
The guided walk will take you to some of the most iconic and recognisable places in Wrexham, the spiritual home of Welsh football, and connect the dots between landmarks, football and community.
English and Welsh language tours will be running on Friday March 15; Thursday March 28 and Friday April 26.
For further details and booking info, visit the museum eventbrite page.
Sam Rowlands AS yn cefnogi teithiau i gefnogwyr pêl-droed yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu teithiau treftadaeth pêl-droed newydd yng nghanol dinas Wrecsam.
Meddai Mr Rowlands, cefnogwr pêl-droed brwd:
Rwy'n falch iawn o glywed bod y teithiau treftadaeth pêl-droed hyn o amgylch y ddinas yn ôl ac rwy'n gobeithio y byddan nhw mor llwyddiannus ag yr oedden nhw’r llynedd.
Mae'n wych gallu dysgu mwy am hanes y clwb hynaf yng Nghymru a'r trydydd tîm pêl-droed cymdeithas broffesiynol hynaf yn y byd.
Mae pawb yn gwybod sut mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi llwyddo i godi proffil y ddinas ledled y byd ac mae'n parhau i ffynnu yn yr ail adran. Mae'n syniad gwych cynnig cyfle i bobl ddarganfod mwy am ei dreftadaeth.
Mae hefyd yn ffordd wych o weld Wrecsam a darganfod mwy am y ddinas fywiog hon.
Mae Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru wedi lansio tymor newydd o Deithiau Treftadaeth Pêl-droed yng nghanol y ddinas.
Dewch i ddarganfod y lleoedd, y bobl a'r digwyddiadau a ddylanwadodd ar bêl-droed yn Wrecsam a ledled Cymru dros y 150 mlynedd diwethaf.
Bydd y daith dywys yn mynd â chi i rai o'r lleoedd mwyaf eiconig ac adnabyddus yn Wrecsam, cartref ysbrydol pêl-droed Cymru, ac yn cysylltu'r dotiau rhwng tirnodau, pêl-droed a chymuned.
Bydd teithiau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cynnal ddydd Gwener 15 Mawrth; Dydd Iau 28 Mawrth a dydd Gwener 26 Ebrill.
Am ragor o fanylion a gwybodaeth am sut i gadw’ch lle, ewch i dudalen eventbrite yr amgueddfa.