Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to back leading end of life charity Marie Curie’s biggest annual fundraising appeal.
Mr Rowlands, is calling on the people of North Wales to join Marie Curie’s biggest annual fundraising appeal to raise funds to ensure everyone gets the expert care and support they deserve at end of life.
The MS for North Wales joined Marie Curie staff and volunteers at the charity’s Great Daffodil Appeal launch at the Senedd this week.
The charity needs volunteers in North Wales to give just two hours of their time to hand out its iconic daffodil pins in return for donations. People can also join a Go Yellow day on March 21, fundraising by wearing or baking something yellow at work or school – or in any way that suits them.
Mr Rowlands said:
The work Marie Curie do is needed now more than ever. That is why I’m encouraging people across the whole of North Wales to show their support for the Great Daffodil Appeal in any way they can. Every donation means that when the time comes, Marie Curie can be there for people and their loved ones when they need it most.”
Every donation means that when the time comes, Marie Curie can be there for people and their loved ones when they need it most, and continue to campaign for a better end of life for all.
I’ll be wearing my daffodil on the National Day of Reflection to connect with all those bereaved by Covid and urge everyone to help remember those people they’ve loved and lost.
Claire Phillips, Marie Curie Head of Fundraising in Wales said:
Launching our Great Daffodil Appeal in Wales at the Senedd is always an honour. “Now in its 38th year, the appeal is a brilliant and fun way to join in, and we would love to see our dedicated existing volunteers joined by new faces in North Wales whilst also helping us provide a vital service to those in the final chapter of their lives.
Our team is on hand to support all our volunteers and make sure you have the best experience possible in order for you to help Marie Curie continue to provide expert end of life care and support for people with any illness they are likely to die from. If you’re interested, we’d love to hear from you.
During the Great Daffodil Appeal Marie Curie will once again lead the nation in a UK-wide Day of Reflection on the new date of Sunday 3 March 2024, asking individuals and communities to remember the people who died during the Covid pandemic, whatever the cause, and to show support for everyone who was bereaved.
In the run up to the Day of Reflection the charity will publish resources to support community groups wanting to host an event, and will also encourage individuals to observe the day. The day will include a minute’s silence at midday.
Superdrug is the headline partner for the Great Daffodil Appeal in 2024. You can also pick up a daffodil pin in any Superdrug store this March and help ensure everyone gets expert care and support right to the end. For information and to donate, please visit: Mariecurie.org.uk/daffodil
Ways to observe the day can be found at dayofreflection.org.uk
Sam Rowlands AS yn annog pobl y Gogledd i gefnogi Apêl Fawr y Daffodil Marie Curie
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi apêl codi arian flynyddol fwyaf yr elusen Marie Curie, sef yr elusen flaenllaw ar gyfer diwedd oes.
Mae Mr Rowlands yn galw ar bobl y Gogledd i ymuno ag apêl codi arian flynyddol fwyaf Marie Curie i godi arian i sicrhau bod pawb yn cael y gofal a'r gefnogaeth arbenigol y maen nhw’n eu haeddu ar ddiwedd eu hoes.
Ymunodd yr AS dros Ogledd Cymru â staff a gwirfoddolwyr Marie Curie yn lansiad Apêl Fawr y Daffodil yr elusen yn y Senedd yr wythnos hon.
Mae'r elusen yn awyddus i gael gwirfoddolwyr yn y Gogledd i roi dwy awr o'u hamser i ddosbarthu eu bathodynnau bach cennin Pedr eiconig yn gyfnewid am roddion ariannol. Gall pobl hefyd ymuno â diwrnod Go Yellow ar 21 Mawrth, gan godi arian trwy wisgo neu bobi rhywbeth melyn yn y gwaith neu'r ysgol - neu mewn unrhyw ffordd sy'n addas iddyn nhw.
Dywedodd Mr Rowlands:
Mae angen y gwaith mae Marie Curie yn ei wneud nawr yn fwy nag erioed. Dyna pam rwy'n annog pobl ledled y Gogledd i ddangos eu cefnogaeth i Apêl Fawr y Daffodil mewn unrhyw ffordd y gallan nhw. Mae pob rhodd yn golygu, pan ddaw'r amser, y gall Marie Curie fod yno i bobl a'u hanwyliaid yn eu hangen mwyaf."
Mae pob rhodd yn golygu, pan ddaw'r amser, y gall Marie Curie fod yno i bobl a'u hanwyliaid yn eu hangen mwyaf, ac y gallan nhw barhau i ymgyrchu dros ddiwedd oes gwell i bawb.
Byddaf yn gwisgo fy naffodil ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio i gysylltu â phawb sydd mewn profedigaeth oherwydd Covid ac rwy’n annog pawb i helpu i gofio'r holl anwyliaid hynny a garwyd ac a gollwyd.
Dywedodd Claire Phillips, Pennaeth Codi Arian Marie Curie yng Nghymru:
Mae lansio ein Hapêl Fawr y Daffodil yng Nghymru yn y Senedd bob amser yn anrhydedd. Bellach yn ei 38ain flwyddyn, mae'r apêl yn ffordd wych a hwyliog o ymuno â’r ymgyrch, a byddem wrth ein bodd yn gweld wynebau newydd yn y Gogledd yn ymuno â'n gwirfoddolwyr brwd presennol tra hefyd yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth hanfodol i'r rheiny sydd wedi cyrraedd pennod olaf eu hoes.
Mae ein tîm wrth law i gefnogi ein holl wirfoddolwyr a sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl er mwyn i chi helpu Marie Curie i barhau i ddarparu gofal a chymorth diwedd oes arbenigol i bobl ag unrhyw salwch y maen nhw’n debygol o farw ohono. Os oes gennych chi ddiddordeb, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Yn ystod Apêl Fawr y Daffodil bydd Marie Curie unwaith eto yn arwain y genedl mewn Diwrnod o Fyfyrio ledled y DU ar y dyddiad newydd sef dydd Sul 3 Mawrth 2024, ac yn gofyn i unigolion a chymunedau gofio'r rhai a fu farw yn ystod pandemig Covid, beth bynnag fo'r achos, ac i ddangos cefnogaeth i bawb yn eu profedigaeth.
Yn y cyfnod yn arwain at y Diwrnod o Fyfyrio bydd yr elusen yn cyhoeddi adnoddau i gefnogi grwpiau cymunedol sydd am gynnal digwyddiad, a bydd hefyd yn annog unigolion i nodi’r diwrnod. Bydd y diwrnod yn cynnwys munud o dawelwch am hanner dydd.
Superdrug yw'r prif bartner ar gyfer Apêl Fawr y Daffodil yn 2024. Gallwch hefyd brynu bathodyn pin daffodil mewn unrhyw siop Superdrug ym mis Mawrth eleni a helpu i sicrhau bod pawb yn cael gofal a chymorth arbenigol tan y diwedd. Am wybodaeth ac i roi rhodd, ewch i: Mariecurie.org.uk/daffodil
Gellir dod o hyd i ffyrdd o nodi’r diwrnod yn dayofreflection.org.uk