Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that work is underway to provide new social care facilities in Flintshire.
Betsi Cadwaladr University Health Board along with Flintshire County Council is delivering integrated health and social care services for new facilities in Flint and Mold.
Mr Rowlands, a harsh critic of the North Wales health board, said:
I am delighted to see work has now started on these new facilities which will certainly be very welcome in Flintshire.
These days we all know that it is a struggle to sometimes find suitable places and it is good to see an existing care home being relocated and expanded in Flint.
I am also pleased to see the creation of a new hub for individuals with learning disabilities, autism and mental health support in Mold.
I am always happy to support any measures to improve and provide better health and social care in North Wales.
Work is currently underway on relocating Croes Atti Residential Care Home, Flint and expanding from its current 31-bed capacity to house 56 older people.
The other project will see a new day and work services hub for individuals with learning disabilities, autism and mental health support needs in Mold.
The £18 million scheme has received just over £11 million in funding via the Welsh Government’s Integration and Rebalancing Capital Fund (IRCF) and Housing with Care Fund (HCF) capital programmes. The remaining funds are being provided by Flintshire County Council’s capital programme.
Maes Gwern Integrated Service Hub will see existing learning disability day services at Tri Ffordd in Bretton, and the Growing Places mental health day service in Shotton, relocate to Mold. The project is backed by £2.9 million via the IRCF, with the remaining £1.8 million funded from the council’s capital programme.
Sam Rowlands AS yn cefnogi dau gyfleuster gofal cymdeithasol newydd ar gyfer y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion bod gwaith ar y gweill i ddarparu cyfleusterau gofal cymdeithasol newydd yn Sir y Fflint.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghyd â Chyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer cyfleusterau newydd yn y Fflint a'r Wyddgrug.
Meddai Mr Rowlands, beirniad llym o fwrdd iechyd Gogledd Cymru:
Rwy'n falch iawn o weld bod gwaith bellach wedi dechrau ar y cyfleusterau newydd hyn a fydd yn sicr o gael croeso cynnes yn Sir y Fflint.
Rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod hi'n anodd weithiau dod o hyd i lefydd addas bellach ac mae'n dda gweld cartref gofal sy’n bodoli’n barod yn cael ei adleoli a'i ehangu yn y Fflint.
Dwi hefyd yn falch o weld canolfan newydd yn cael ei chreu ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth a chymorth iechyd meddwl yn yr Wyddgrug.
Dwi bob amser yn hapus i gefnogi unrhyw fesurau i wella a darparu gwell iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gogledd.
Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i adleoli Cartref Gofal Preswyl Croes Atti, y Fflint ac ehangu o'i gapasiti 31 gwely presennol i gartrefu 56 o bobl hŷn.
Bydd y prosiect arall yn gweld canolfan gwasanaethau dydd a gwaith newydd ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion cymorth iechyd meddwl yn yr Wyddgrug.
Mae'r cynllun gwerth £18 miliwn wedi derbyn ychydig dros £11 miliwn mewn cyllid drwy raglenni cyfalaf y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso a Chronfa Tai â Gofal Llywodraeth Cymru. Mae'r arian sy'n weddill yn cael ei ddarparu gan raglen gyfalaf Cyngor Sir y Fflint.
Bydd Canolfan Gwasanaethau Integredig Maes Gwern yn gweld gwasanaethau dydd anableddau dysgu presennol yn Tri Ffordd yn Bretton, a'r gwasanaeth dydd iechyd meddwl Growing Places yn Shotton, yn adleoli i'r Wyddgrug. Cefnogir y prosiect gan £2.9 miliwn drwy'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso, gyda'r £1.8 miliwn sy'n weddill yn cael ei ariannu o raglen gyfalaf y cyngor.