Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed the success of a GP recruitment drive.
Betsi Cadwaladr University Health Board is currently advertising for GPs in Wrexham and Flintshire and has already attracted five clinical leads and 18 salaried and permanently contracted doctors.
Mr Rowlands, a harsh critic of the running of BCUHB said:
Obviously I am pleased to see that a recruitment drive is encouraging more GPs to Wrexham and Flintshire and I just hope this is a trend which will be repeated across the whole of North Wales.
We are constantly hearing about GP practices in North Wales closing for varying reasons and the health board having to take over the running of the surgeries which sometimes have to be staffed by agency or locum GPs.
It is vitally important that health board managed practices have continuity for patients and provide more permanent GPs.
The recruitment drive is part of ongoing efforts by BCUHB to achieve a more resilient and sustainable workforce for health board managed practices, as they work to end the use of agency GPs and reduce reliance on locums as much as possible.
The introduction of permanent salaried GPs will help provide important continuity of care for patients in the longer term, while making better use of public money – with agency GPs often costing the health board twice as much as their salaried counterparts on a daily basis.
Sam Rowlands AS yn falch o weld mwy o feddygon teulu yn cael eu recriwtio yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu llwyddiant ymgyrch i recriwtio meddygon teulu.
Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn hysbysebu ar gyfer meddygon teulu yn Wrecsam a Sir y Fflint ac mae eisoes wedi denu pum arweinydd clinigol a 18 o feddygon cyflogedig ar gontractau parhaol.
Meddai Mr Rowlands, sy’n feirniad hallt o’r ffordd mae BIPBC yn cael ei redeg:
Yn amlwg dwi’n falch o weld bod ymgyrch recriwtio yn annog mwy o feddygon teulu i Wrecsam a Sir y Fflint a dwi’n gobeithio bod hwn yn duedd y byddwn yn ei weld eto ledled y Gogledd.
Rydyn ni'n clywed yn gyson am feddygfeydd yn y Gogledd yn cau am wahanol resymau a'r bwrdd iechyd yn gorfod cymryd drosodd y gwaith o redeg y meddygfeydd sydd weithiau'n gorfod cael eu staffio gan feddygon teulu asiantaeth neu locwm.
Mae'n hanfodol bwysig bod practisau a reolir gan y bwrdd iechyd yn cynnig parhad i gleifion ac yn darparu meddygon teulu mwy parhaol.
Mae'r ymgyrch recriwtio yn rhan o ymdrechion parhaus BIPBC i sicrhau gweithlu mwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer practisau a reolir gan fyrddau iechyd, wrth iddyn nhw weithio i ddod â'r defnydd o feddygon teulu asiantaeth i ben a lleihau dibyniaeth ar feddygon locwm cymaint â phosibl.
Bydd cyflwyno meddygon teulu cyflogedig parhaol yn helpu i sicrhau parhad gofal pwysig i gleifion yn y tymor hwy, tra'n gwneud gwell defnydd o arian cyhoeddus - gyda meddygon teulu asiantaeth yn aml yn costio'r bwrdd iechyd ddwywaith cymaint â'u cymheiriaid cyflogedig yn ddyddiol.