Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised a project to protect juniper shrubs in Prestatyn.
Mr Rowlands, a keen supporter of nature and improving the environment said:
I am delighted to hear about the project to protect this rare shrub in Denbighshire and pleased to see that a local tree nursery in St Asaph has also got involved.
It is great to see Denbighshire County Council’s Biodiversity team working together with rangers from the Clwydian Range and the Dee Valley to support this initiative.
The Juniper is a rare shrub in the county and it is good to see that work is now underway to support and try to increase its presence in Denbighshire.
Juniper is a priority species for protection in the UK after a dramatic decline due to over grazing and loss of suitable grazing areas. It is rare in Denbighshire and known only at a location on Prestatyn hillside.
It can grow up to 10 metres in the right conditions, its berries are produced all year around and seeds from the shrub can take up to two years to germinate.
Efforts were made to protect a solitary juniper in Denbighshire in 2008 when the council worked with Chester Zoo to put in young plants at Prestatyn hillside to encourage the existing juniper to grow.
Now the council’s biodiversity team, have now harvested seeds from the site to be taken back to the local provenance tree nursery at St Asaph.
Liam Blazey, Senior Biodiversity Officer said:
We are fortunate enough in Denbighshire to have a small population of juniper from which we can harvest seed from. Juniper provides valuable habitat and food for a diverse range of species, including insects, birds, and mammals.
Its dense spikey foliage provides shelter and nesting sites for a variety of bird species, whilst its berries are an essential food source for birds and small mammals all year round. We look forward to growing on a new generation of this amazing shrub at the council’s tree nursery in St Asaph.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at brosiect i warchod llwyn prin yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi canmol prosiect i amddiffyn llwyni meryw ym Mhrestatyn.
Meddai Mr Rowlands, cefnogwr byd natur a gwella'r amgylchedd brwd:
Dwi’n falch iawn o glywed am y prosiect i ddiogelu'r llwyn prin hwn yn Sir Ddinbych ac yn falch o weld bod planhigfa goed leol yn Llanelwy hefyd wedi cymryd rhan.
Mae'n wych gweld tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio â cheidwaid o Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i gefnogi'r fenter hon.
Mae'r meryw yn llwyn prin yn y sir ac mae'n dda gweld bod gwaith bellach ar y gweill i gefnogi a cheisio cynyddu ei bresenoldeb yn Sir Ddinbych.
Mae’r meryw yn rhywogaeth â blaenoriaeth i'w gwarchod yn y DU ar ôl dirywiad dramatig yn ei hanes yn sgil gorbori a cholli ardaloedd pori addas. Mae'n brin yn Sir Ddinbych a dim ond un mewn man y gwyddom amdano’n tyfu, a hynny ar fryn ger Prestatyn.
Gall dyfu hyd at 10 metr dan yr amodau cywir, mae’n cynhyrchu aeron gydol y flwyddyn a gall hadau o'r llwyni gymryd hyd at ddwy flynedd i egino.
Gwnaed ymdrechion i ddiogelu un ferywen yn Sir Ddinbych yn 2008 pan fu’r cyngor yn gweithio gyda Sw Caer i osod planhigion ifanc ar lethrau bryniau Prestatyn i annog y ferywen unigol honno i dyfu.
Nawr mae tîm bioamrywiaeth y cyngor wedi cynaeafu hadau o'r safle i'w cludo yn ôl i'r blanhigfa goed leol yn Llanelwy.
Meddai Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth:
Rydyn ni’n ddigon ffodus yn Sir Ddinbych i gael poblogaeth fach o feryw y gallwn ni gynaeafu hadau ohonyn nhw. Mae meryw yn darparu cynefin a bwyd gwerthfawr i ystod amrywiol o rywogaethau, gan gynnwys pryfed, adar a mamaliaid.
Mae ei ddail pigog trwchus yn darparu cysgod a safleoedd nythu ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau adar, tra bod ei aeron yn ffynhonnell fwyd hanfodol i adar a mamaliaid bach gydol y flwyddyn. Edrychwn ymlaen at dyfu cenhedlaeth newydd o'r llwyn anhygoel hwn ym mhlanhigfa goed y cyngor yn Llanelwy.