Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on everyone to support Acton Park’s 490 year old Sweet Chestnut in the European Tree of the Year Competition.
Last September the Wrexham tree won the title of UK Tree of the Year and voting has now opened for the European title.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and who has a keen interest in nature and the environment said:
I was absolutely delighted when Acton Park’s Sweet Chestnut Tree won this prestigious Woodland Trust competition last year and now call on everyone to vote again.
I was very pleased when it was shortlisted to represent Wales and then voted the best in the UK. It really was a tremendous achievement and I am sure, with the support of the North Wales public, it will have a great chance of winning the European title.
I am a great supporter of trees in our community and share Wrexham County Borough Council’s view that they should be celebrated in the area.
Debbie Wallice, Councillor for Borras Park, said:
“Acton Park is one of the many jewels in our community’s crown and it was fantastic to see this ancient and historic tree recognised as Tree of the Year and now has the chance of being named the best in Europe.
“We’re so lucky to have such a beautiful park on our doorstep and it was great to see so many people getting behind this beautiful Veteran Sweet Chestnut, and voting it into first place. I hope people will now vote for the tree to be awarded another accolade.”
The Veteran Sweet Chestnut Tree in Wrexham’s Acton Park has an impressive circumference of 6.1m and a height of 24m, indicating that it has been standing for around 490 years. It has withstood many challenges during its half-millennium, from post-war plundering of the park for firewood in the forties to dozens of deadly storms, including that of 2021 when many neighbouring trees lost limbs or were toppled completely. Now a feature of community events like this year’s tree party celebrations, the stately tree is well loved by locals for its history, value and beauty.
To celebrate getting into this prestigious competition Wrexham council will be hosting events and educational visits around the Wrexham Sweet Chestnut throughout February including a fun dog show on Sunday February 11 and ‘A Love Your Trees Valentines Special on Wednesday February 14.
Voting for the tree is now underway and runs until Wednesday February 21. Vote for the tree here.
Sam Rowlands AS yn annog ei etholwyr i bleidleisio dros enwi coeden yn Wrecsam yr orau yn Ewrop
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar bawb i gefnogi Castanwydden Bêr 490 oed Parc Acton yng Nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn.
Fis Medi diwethaf fe enillodd coeden Wrecsam wobr Coeden y Flwyddyn y DU ac mae’r pleidleisio bellach wedi agor ar gyfer y teitl Ewropeaidd.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, sydd â diddordeb brwd mewn natur a'r amgylchedd:
Roeddwn i wrth fy modd pan enillodd Castanwydden Bêr Parc Acton y gystadleuaeth o fri hon y llynedd, a dwi nawr yn galw ar bawb i bleidleisio eto.
Roeddwn i'n falch iawn pan gafodd ei chynnwys ar y rhestr fer i gynrychioli Cymru ac yna’i phleidleisio’r orau yn y DU. Roedd yn dipyn o gamp a dwi’n siŵr, gyda chefnogaeth cyhoedd y Gogledd, y bydd ganddi gyfle gwych i ennill y teitl Ewropeaidd.
Dwi’n gefnogwr brwd o goed yn ein cymuned ac yn rhannu barn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam y dylid eu dathlu yn yr ardal.
Meddai Debbie Wallice, Cynghorydd Parc Borras:
Mae Parc Acton yn un o'r tlysau niferus yng nghoron ein cymuned ac roedd yn wych gweld y goeden hynafol a hanesyddol hon yn cael ei chydnabod fel Coeden y Flwyddyn ac erbyn hyn mae ganddi'r cyfle i gael ei henwi'r orau yn Ewrop.
Rydyn ni mor ffodus i gael parc mor brydferth ar garreg ein drws ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cefnogi'r Gastanwydden Bêr hynafol a hardd hon, ac yn pleidleisio drosti. Dwi’n gobeithio y bydd pobl nawr yn pleidleisio o blaid anrhydedd arall i'r goeden.
Mae gan y Gastanwydden Bêr hynafol ym Mharc Acton Wrecsam gylchedd trawiadol o 6.1m ac uchder o 24m, sy'n dangos ei bod wedi bod yn sefyll yno ers tua 490 o flynyddoedd. Mae wedi gwrthsefyll llawer o heriau yn ystod ei hanner mileniwm, o ysbeilio'r parc ar ôl y rhyfel am goed tân yn y pedwardegau i ddwsinau o stormydd peryglus, gan gynnwys storm 2021 pan gollodd llawer o goed cyfagos ganghennau, gyda llawer yn cael eu llorio’n llwyr. Bellach yn ganolbwynt i ddigwyddiadau cymunedol fel dathliadau parti’r coed eleni, mae pobl leol yn ymfalchio yn hanes, gwerth a harddwch y goeden urddasol hon.
I ddathlu cyrraedd y gystadleuaeth fawreddog hon, bydd Cyngor Wrecsam yn cynnal digwyddiadau ac ymweliadau addysgol o amgylch Castanwydden Bêr Wrecsam gydol mis Chwefror gan gynnwys sioe gŵn hwyliog ddydd Sul 11 Chwefror a’r digwyddiad 'A Love Your Trees Valentines Special’ ddydd Mercher 14 Chwefror.
Gellir pleidleisio dros y goeden nawr, a hynny tan ddydd Mercher 21 Chwefror. Pleidleisiwch dros y goeden yma.