Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging Welsh Government to urgently revisit their controversial sustainable farming scheme.
Mr Rowlands, a keen supporter of the agriculture sector, shares the concerns of farmers across North Wales and beyond.
He said:
I fully support the growing concern over this new scheme which plans to change subsidies and regulations for our hard working farmers.
The proposals would also mean they would be forced to give up 10% of their land for tree planting and 10% for wildlife and habitat in order to qualify for payments as part of ways to combat climate change and biodiversity loss.
This is extremely worrying and no wonder farmers are protesting as they should not be drawn in to more of the Welsh Government’s pet vanity projects. It also clearly shows how little Welsh Government think of our agricultural industry.
The NFU recently held roadshows, to discuss the scheme, across the country including Ruthin and Porthmadog in North Wales, where farmers were made aware of the consultation proposals. Feedback showed that most farmers were worried for the future if the scheme went ahead as it stands.
I can totally understand the anger and frustration over this scheme and urge farmers in North Wales to make their feelings known and take part in the consultation which runs until March 7.
The Welsh Government are not known for acting on what the public say in consultations but I just hope in this case they are prepared to listen. If they don’t then farmers will have no alternative but to continue to protest and they deserve our support.
Farmers have been protesting against the Welsh Government’s proposed changes to farming policies, aimed at encouraging “sustainable” agricultural practices and set to be implemented in 2025.
Speaking after the Wales wide roadshows, NFU Cymru President Aled Jones said:
The proposals as they stand will have far reaching impacts on Welsh farming, rural businesses and communities and it is vital that Welsh Government listen to these concerns. Whilst the title of the consultation suggests Welsh Government want to ‘keep farmers farming’ this will not happen if we are not profitable.
NFU Cymru is calling for a long-term stability payment to be included as an integral element of the SFS, a universal payment that provides fair reward and a meaningful income stream for farmers undertaking environmental work on behalf of society, and a set of universal actions that work for all farm sectors, types and regions of Wales.
The scheme must deliver the same level of stability to farming businesses, the supply chain and our rural communities. We need a Sustainable Farming Scheme that has policies to underpin the continued supply of high quality and affordable food to feed the nation. It is clear to us and all who attended the roadshows that the current proposals for the universal tier and scheme requirements need a major overhaul.
You can find out more and respond to the consultation by visiting the NFU Cymru website.
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwadau i ailystyried cynllun newydd Llywodraeth Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried eu cynllun ffermio cynaliadwy dadleuol ar unwaith.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o'r sector amaeth, yn rhannu pryderon ffermwyr ledled y Gogledd a thu hwnt.
Meddai:
Dwi’n llwyr gefnogi'r pryder cynyddol ynghylch y cynllun newydd hwn sy'n bwriadu newid cymorthdaliadau a rheoliadau ar gyfer ein ffermwyr sy'n gweithio'n galed.
Byddai'r cynigion hefyd yn golygu y bydden nhw’n cael eu gorfodi i ildio 10% o'u tir ar gyfer plannu coed a 10% ar gyfer bywyd gwyllt a chynefinoedd er mwyn bod yn gymwys i gael taliadau fel rhan o ffyrdd i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Mae hyn yn peri pryder mawr a does fawr o syndod fod ffermwyr yn protestio gan na ddylid gweld mwy o brosiectau rhodresgar a hurt Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn dangos yn glir cyn lleied y mae Llywodraeth Cymru yn ei feddwl o'n diwydiant amaethyddol.
Yn ddiweddar, cynhaliodd yr NFU sioeau teithiol i drafod y cynllun ledled y wlad, gan gynnwys yn Rhuthun a Phorthmadog yn y Gogledd, lle cafodd ffermwyr glywed mwy am y cynigion yn yr ymgynghoriad. Dangosodd yr adborth fod y rhan fwyaf o ffermwyr yn poeni am y dyfodol pe bai'r cynllun yn mynd rhagddo fel y mae.
Gallaf ddeall yn llwyr y dicter a'r rhwystredigaeth am y cynllun hwn a dwi’n annog ffermwyr yn y Gogledd i leisio’u barn a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd ar agor tan 7 Mawrth.
Does gan Lywodraeth Cymru ddim enw da am weithredu ar sail barn y cyhoedd mewn ymgynghoriadau ond dwi’n gobeithio yn yr achos hwn eu bod yn barod i wrando. Fel arall, fydd gan ffermwyr ddim dewis ond parhau i brotestio ac maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth.
Mae ffermwyr wedi bod yn protestio yn erbyn newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i’r polisïau ffermio, gyda'r nod o annog arferion amaethyddol "cynaliadwy" a fydd yn cael eu gweithredu yn 2025.
Wrth siarad ar ôl sioeau teithiol ledled Cymru, dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:
Bydd y cynigion fel y maen nhw yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar ffermio, busnesau gwledig a chymunedau Cymru ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y pryderon hyn. Er bod teitl yr ymgynghoriad yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru am 'gadw ffermwyr i ffermio', ni fydd hyn yn digwydd os nad ydyn ni’n gallu gwneud elw.
Mae NFU Cymru yn galw am gynnwys taliad sefydlogrwydd hirdymor fel elfen annatod o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, taliad cyffredinol sy'n darparu gwobr deg a ffrwd incwm ystyrlon i ffermwyr sy'n gwneud gwaith amgylcheddol ar ran cymdeithas, a chyfres o gamau gweithredu cyffredinol sy'n gweithio i bob sector fferm, math a rhanbarth o Gymru.
Rhaid i'r cynllun ddarparu'r un lefel o sefydlogrwydd i fusnesau ffermio, y gadwyn gyflenwi a'n cymunedau gwledig. Mae angen Cynllun Ffermio Cynaliadwy arnom sydd â pholisïau fydd yn sail i gyflenwad parhaus o fwyd fforddiadwy o ansawdd uchel i fwydo'r genedl. Mae'n amlwg i ni a phawb a fynychodd y sioeau teithiol fod angen ailwampio’n llwyr y cynigion presennol ar gyfer yr haen gyffredinol a gofynion y cynllun.
Gallwch ddarganfod mwy ac ymateb i'r ymgynghoriad drwy ymweld â gwefan NFU Cymru.