Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, finds out more about the work of a North Wales independent provider of specialist further education.
Mr Rowlands, a keen supporter of special needs education recently visited Pengwern College, in Rhuddlan.
He said:
I was delighted to have the opportunity to have a look around this impressive campus and chat to staff and students about the college.
Pengwern College is a provider of specialist further education for 16-25 year olds with learning disabilities or complex needs, it is an excellent establishment.
During my tour of the campus I was able to see for myself how much the students enjoy the college environment, from growing plants in the greenhouse to looking after animals.
I was also able to discuss additional learning needs in Wales as it lags far behind England in its provision. English students are funded for up to five years while Welsh students are only funded for two which is a great shame as there is a huge disparity in what students can achieve in two or five years.
Pengwern College, is an independent provider of specialist further education in North Wales with day students and boarding students, aged 16 to 25 with a learning disability and complex needs.
Their one person-centred approach ensures that students have an individualised learning programme developed to effectively match their needs, personal decisions and aspirations, be the focus on daily living skills, vocational qualifications or independent living.
All students gain important life skills and achieve meaningful qualifications, evidencing our commitment to enabling increased choice and independence.
Sam Rowlands AS yn ymweld â Choleg Pengwern ar Ddydd Gŵyl Dewi
Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, sy’n dysgu mwy am waith darparwr annibynnol addysg bellach arbenigol yn y Gogledd.
Yn ddiweddar. ymwelodd Mr Rowlands, cefnogwr brwd i addysg anghenion arbennig, â Choleg Pengwern, Rhuddlan.
Meddai:
Ro’n i wrth fy modd yn cael cyfle i edrych o gwmpas y campws trawiadol hwn a sgwrsio â staff a myfyrwyr am y coleg.
Mae Coleg Pengwern yn darparu addysg bellach arbenigol i bobl ifanc 16-25 ag anableddau dysgu neu anghenion cymhleth, ac mae’n sefydliad rhagorol.
Yn ystod fy nhaith o’r campws cefais weld drosof fy hun faint mae’r myfyrwyr yn mwynhau amgylchedd y coleg, o dyfu planhigion yn y tŷ gwydr i ofalu am anifeiliaid.
Cefais gyfle hefyd i drafod anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru hefyd gan fod y ddarpariaeth ymhell ar ei hôl hi yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Mae myfyrwyr yn Lloegr yn cael eu hariannu am hyd at bum mlynedd tra bod myfyrwyr Cymru yn cael eu hariannu am ddwy flynedd yn unig. Mae hyn yn drueni mawr gan fod yna wahaniaeth mawr rhwng beth all myfyrwyr ei gyflawni mewn dwy neu bum mlynedd.
Mae Coleg Pengwern yn ddarparwr annibynnol addysg bellach arbenigol yn y Gogledd gyda myfyrwyr dydd a myfyrwyr preswyl, 16 i 25 oed ag anabledd dysgu ac anghenion cymhleth.
Mae’r dull o ganolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau bod gan fyfyrwyr raglen ddysgu bersonol iddyn nhw sydd wedi’i datblygu i gyfateb i’w hanghenion, penderfyniadau a dyheadau personol yn effeithiol, gan ganolbwyntio ar sgiliau bywyd bob dydd, cymwysterau galwedigaethol neu fyw’n annibynnol.
Mae’r holl fyfyrwyr yn ennill sgiliau bywyd pwysig a chymwysterau ystyrlon, gan ddangos ein hymrwymiad i alluogi mwy o ddewis ac annibyniaeth.