Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on constituents to take part in a town centre public consultation.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, said:
I am pleased to see Flintshire County Council will be asking for the views of those people who live in, work in and visit Connah’s Quay, Flint, Mold and Queensferry as I think it is vitally important they have a say on what they want to see in their town centres.
A previous consultation on Buckley, Holywell and Shotton, attracted almost 450 responses and these will now be considered as part of the development plan, so I would urge people to take part in the consultation which is now available online until April 1.
There will also be an opportunity to find out more about the plans at a series of drop-in sessions in all the towns at a later date.
Flintshire County Council is set to launch another series of public consultation surveys, where local people are being encouraged to help shape the future of four town centres: Connah’s Quay, Flint, Mold and Queensferry.
The planned consultation activity is part of a process to develop seven ‘Place Making Plans’ for town centres in the next 18 months. Work on Place Making Plans began in 2023 for the towns of Buckley, Holywell and Shotton in response to Flintshire County Council’s Cabinet agreeing a sequence for the completion of the plans.
Place Making Plan development activity is being led by Flintshire County Council’s Regeneration team in collaboration with a range of other council services and external partner organisations.
The plans will set out a future vision for each town, outline priorities that can help improve the overall vibrancy and attractiveness of the place and seek to address the needs of people who live, work and visit the towns. The development of the plans for each town creates opportunities for a range of stakeholders to work more collaboratively to deliver improvements.
Andrew Farrow, Chief Officer for Planning, Environment & Economy said: “Following more than 4440 responses to the online and in-person public consultations for Buckley, Holywell and Shotton which were undertaken in 2023, work is ongoing to develop these three Place Making Plans.
“Once each of the plans are developed, they will be shared with the public for further consultation before being considered for adoption by the Council and its external partners involved in Place Making work. Given the progress made on the initial 3 Place Making Plans to date, consultation will now begin with the communities of Connah’s Quay, Flint, Mold and Queensferry.”
For more information click here.
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwad ar bobl leol i helpu i lunio dyfodol canol eu trefi
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ganol trefi.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig:
Rwy'n falch o weld y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am farn y bobl hynny sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry gan fy mod yn credu ei bod yn hanfodol bwysig eu bod yn cael dweud eu dweud ar yr hyn y maen nhw am ei weld yng nghanol eu trefi.
Denodd ymgynghoriad blaenorol ar drefi Bwcle, Treffynnon a Shotton bron i 450 o ymatebion a bydd y rhain nawr yn cael eu hystyried fel rhan o'r cynllun datblygu, felly byddwn yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd bellach ar gael ar-lein tan 1 Ebrill.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am y cynlluniau mewn cyfres o sesiynau galw heibio yn yr holl drefi yn ddiweddarach.
Mae disgwyl i Gyngor Sir y Fflint lansio cyfres arall o arolygon ymgynghori cyhoeddus, lle mae pobl leol yn cael eu hannog i helpu i lunio dyfodol canol y dref mewn pedair tref: Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry.
Mae'r gweithgaredd ymgynghori arfaethedig yn rhan o broses i ddatblygu saith 'Cynllun Creu Lleoedd' ar gyfer canol trefi yn ystod y 18 mis nesaf. Dechreuodd y gwaith ar y Cynlluniau Creu Lleoedd yn 2023 ar gyfer trefi Bwcle, Treffynnon a Shotton mewn ymateb i Gabinet Cyngor Sir y Fflint yn cytuno ar drefn ar gyfer cwblhau'r cynlluniau.
Mae gweithgarwch datblygu'r Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei arwain gan dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint mewn cydweithrediad ag ystod o wasanaethau eraill y cyngor a sefydliadau partner allanol.
Bydd y cynlluniau'n nodi gweledigaeth y dyfodol ar gyfer pob tref, gan amlinellu blaenoriaethau a all helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lle a cheisio mynd i'r afael ag anghenion y bobl sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â'r trefi. Mae datblygiad y cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o randdeiliaid i gydweithio er mwyn darparu gwelliannau.
Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi: "Yn dilyn mwy na 4440 o ymatebion i'r ymgyngoriadau cyhoeddus ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer Bwcle, Treffynnon a Shotton, a gyflawnwyd yn 2023, mae gwaith yn parhau i ddatblygu'r tri Chynllun Creu Lleoedd hyn.
"Unwaith i’r cynlluniau gael eu datblygu, byddant yn cael eu rhannu â'r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad pellach cyn cael eu hystyried ar gyfer eu mabwysiadu gan y Cyngor a'i bartneriaid allanol sy'n rhan o’r gwaith Creu Lleoedd. O ystyried y cynnydd a wnaed ar y 3 Cynllun Creu Lle cychwynnol hyd yma, bydd yr ymgynghoriad nawr yn dechrau gyda chymunedau Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry."
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.