Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, remains concerned over lack of permanent funding for a specialist cancer nurse in Wrexham.
Wrexham MP, Sarah Atherton, feared for the future of the Metastatic Cancer Nurse at Wrexham Maelor because of the Welsh Labour Government’s underfunding and started a petition calling for the post to be retained. Betsi Cadwaladr University Health Board have since announced the position has been extended until March 2025.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Health said:
I am obviously delighted to hear that funding has been found for this very important position at Wrexham Maelor Hospital but like Ms Atherton I still remain very concerned that the role still remains under threat.
The Metastatic Cancer Nurse has a really extremely important role providing support to cancer patients and their families and these days where we hear of more and more delays for patients in North Wales it is vital to keep that post.
The Welsh Government is responsible for running the NHS in Wales and receives £1.20 for every £1 spent per person on healthcare in England. However, last year, the Welsh Government spent only £1.05 per person meanwhile our NHS continues to struggle.
I would urge people to sign the petition and keep the pressure on the health board and the Welsh Government.
Ms Atherton, a former nurse, said:
I know how vital the support provided by specialist Metastatic Cancer Nurses is to cancer patients and their families at the most difficult of times. The incredible nurse at Wrexham works with patients in co-ordinating their treatment and care, provides emotional and psychological support for cancer patients and is a direct point of contact for any questions or concerns.
While I appreciate BCUHB’s recognition of the strength of feeling on this issue, this only offers short-term relief. The indispensability of this role warrants permanent funding, sparing it from recurring uncertainties.
I'm calling on everyone to sign and share my petition. Add your voice in the fight for a permanently funded, full-time Metastatic Cancer Nurse to remain at Wrexham Maelor Hospital.
To access the petition click here.
Mae Sam Rowlands AS yn cefnogi deiseb gan Aelod Seneddol Wrecsam i ariannu nyrs ganser arbenigol yn barhaol yn yr ysbyty lleol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn bryderus am ddiffyg cyllid parhaol ar gyfer nyrs ganser arbenigol yn Wrecsam.
Roedd Aelod Seneddol Wrecsam, Sarah Atherton, yn ofni am ddyfodol y Nyrs Ganser Metastatig yn Ysbyty Maelor Wrecsam oherwydd tanariannu Llywodraeth Lafur Cymru a dechreuodd ddeiseb yn galw am gadw'r swydd. Ers hynny, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi bod y swydd wedi'i hymestyn hyd fis Mawrth 2025.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid:
Rwy'n amlwg yn falch iawn o glywed bod cyllid wedi'i ganfod ar gyfer y swydd bwysig iawn hon yn Ysbyty Maelor Wrecsam ond fel Ms Atherton rwy'n dal yn bryderus iawn bod y rôl dan fygythiad o hyd.
Mae gan y Nyrs Ganser Metastatig rôl bwysig iawn yn darparu cefnogaeth i gleifion canser a'u teuluoedd a'r dyddiau hyn lle clywn am fwy a mwy o oedi i gleifion yn y Gogledd, mae'n hanfodol cadw'r swydd honno.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am redeg y GIG yng Nghymru ac mae’n derbyn £1.20 am bob £1 sy'n cael ei wario ar ofal iechyd yn Lloegr. Fodd bynnag, y llynedd, dim ond £1.05 y pen a wariodd Llywodraeth Cymru tra bod ein GIG mewn dyfroedd dyfnion.
Byddwn yn annog pobl i arwyddo'r ddeiseb a chadw'r pwysau ar y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru.
Meddai Ms Atherton, sy'n gyn-nyrs:
Rwy'n gwybod pa mor hanfodol yw'r gefnogaeth a ddarperir gan nyrsys canser metastatig arbenigol i gleifion canser a'u teuluoedd ar yr adegau anoddaf. Mae'r nyrs anhygoel yn Wrecsam yn gweithio gyda chleifion i gydlynu eu triniaeth a'u gofal, yn darparu cefnogaeth emosiynol a seicolegol i gleifion canser ac yn swyddog cyswllt uniongyrchol ar gyfer unrhyw gwestiynau neu bryderon.
Er fy mod yn gwerthfawrogi cydnabyddiaeth BIPBC o rym y teimladau ar y mater hwn, dim ond rhyddhad tymor byr y mae hyn yn ei gynnig. Mae’r ffaith bod y rôl hon yn anhepgor yn haeddu cyllid parhaol, gan ei hatal rhag ansicrwydd di-ben-draw.
Rwy'n galw ar bawb i arwyddo a rhannu fy neiseb. Ychwanegwch eich llais yn y frwydr am gadw Nyrs Ganser Metastatig lawn amser a ariennir yn barhaol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
I gael mynediad i'r ddeiseb ewch i www.sarahatherton.org.uk/Save Wrexham’s Metastatic Cancer Nurse/.