Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed his delight at the continued success of a university in his region.
Mr Rowlands was commenting after it was revealed that Wrexham University has been named the best university in Wales for its lecturers and teaching, the student support it provides as well as for career prospects at the Whatuni Student Choice Awards, WUSCAs
He said:
I am absolutely delighted with this news. Wrexham University continues to go from strength to strength and is quite clearly a popular place with students.
Everybody knows that the city itself continues to be a destination favourite with visitors, thanks largely to the heroic exploits of Wrexham AFC, who recently celebrated a second promotion in the football league and it really is great to see the university being rated so highly by those studying there.
The Whatuni Student Choice Awards are the only Higher Education awards judged and reviewed only by students so it is a fantastic achievement.
I would like to congratulate everyone at the university for all their hard work and for continuing to put the place firmly on the higher education map.
At the annual awards, Wrexham University was placed: 1st in Wales and 2nd in the UK for Lecturers and Teaching; 1st in Wales and 5th in the UK for Student Support; 1st in Wales and 4th in the UK for Career Prospects and 2nd in Wales and 5th in the UK for University Halls
Overall, the university was placed as 2nd in Wales in the University of the Year category and 17th in the UK overall out of 101 institutions.
Professor Maria Hinfelaar, Vice-Chancellor of Wrexham University, said:
We are thrilled to have been placed 1st in Wales for Lecturers and Teaching, Student Support and Career Prospects.
Our performance UK-wide is also fantastic – to be ranked 2nd in the UK for lecturers and teaching is true testament to the hard work and dedication of our academic colleagues. We’re also delighted to have finished in the top 20 in the University of the Year category.
I’m incredibly proud of these rankings and it feels even more gratifying that these awards were voted for by our students.
At Wrexham University, we work tirelessly to ensure our students are provided with the best possible opportunities to succeed in their learning – and it’s wonderful to know that our students evidently recognise this by voting for the University in the WUSCAs.
This year saw more than 39,000 student reviews being collected from over 100 universities in the UK.
The WUSCAs come ahead of the University’s next open day event, which is ta king place on Saturday, June 8.
Sam Rowlands AS yn croesawu sgôr uchel i Brifysgol Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wrth ei fodd o weld llwyddiant parhaus un o brifysgolion ei ranbarth.
Roedd Mr Rowlands yn ymateb wedi'r newydd bod Prifysgol Wrecsam wedi ei henwi'n brifysgol orau yng Nghymru am ei darlithwyr a'i haddysgu, y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr a'r rhagolygon gyrfaoedd, yng ngwobrau WUSCA (Whatsuni Student Choice Awards).
Meddai:
Rwy'n falch iawn o'r newyddion yma. Mae Prifysgol Wrecsam yn parhau i fynd o nerth i nerth ac mae'n amlwg ei bod yn lle poblogaidd gyda myfyrwyr.
Mae pawb yn gwybod bod y ddinas ei hun yn parhau i fod yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr, diolch yn bennaf i gampau arwrol Clwb Pêl-droed Wrecsam, a ddathlodd ail ddyrchafiad yn ddiweddar yn nghynghrair bêl-droed Lloegr, ac mae'n wych gweld y brifysgol yn ennill cystal sgôr gan y rhai sy'n astudio yno.
Gwobrau Whatuni yw'r unig wobrau Addysg Uwch sy'n cael eu beirniadu a'u hadolygu gan fyfyrwyr yn unig felly mae'n dipyn o gamp.
Hoffwn longyfarch pawb yn y brifysgol am eu holl waith caled ac am barhau i roi'r lle yn gadarn ar y map addysg uwch.
Yn y gwobrau blynyddol, dyfarnwyd Prifysgol Wrecsam yn: 1af yng Nghymru ac 2il yn y DU ar gyfer Darlithwyr ac Addysgu; 1af yng Nghymru a'r 5ed yn y DU ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr; 1af yng Nghymru a'r 4ydd yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa ac 2il yng Nghymru a'r 5ed yn y DU ar gyfer Neuaddau'r Brifysgol.
Ar y cyfan, dyma'r 2il brifysgol orau yng Nghymru yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn ac yn 17eg yn y DU allan o 101 o sefydliadau.
Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam:
Rydym wrth ein bodd ein bod yn rhif 1 yng Nghymru ar gyfer Darlithwyr ac Addysgu, Cymorth i Fyfyrwyr a Rhagolygon Gyrfa.
Mae ein perfformiad ledled y DU hefyd yn wych - mae cael ein rhestru'n 2il yn y DU ar gyfer darlithwyr ac addysgu wir yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein cydweithwyr academaidd. Rydym hefyd yn falch iawn ein bod wedi gorffen yn yr 20 uchaf yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn.
Rwy'n hynod falch o'r safleoedd hyn, ac mae’n rhoi mwy o foddhad fyth o wybod mai ein myfyrwyr ein hunain sydd wedi pleidleisio dros y gwobrau hyn.
Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo wrth ddysgu - ac mae'n wych gwybod bod ein myfyrwyr yn amlwg yn cydnabod hyn drwy bleidleisio dros y Brifysgol yn y WUSCAs.
Eleni, casglwyd dros 39,000 o adolygiadau gan fyfyrwyr o 100 a mwy o brifysgolion y DU.
Daw cyhoeddiad WUSCA cyn digwyddiad diwrnod agored nesaf y Brifysgol, a gynhelir ddydd Sadwrn, 8 Mehefin.