We all know that transport in North Wales isn’t the best! Trains and buses are often cancelled or arrive late along with a myriad of other issues.
I asked the new Transport Minister in Welsh Government about this last week, because after twenty-five years of the Welsh Government it doesn’t seem like transport is getting any better.
The previous Transport Minister had an intense anti-road obsession, which, for us in North Wales was deeply damaging. All we want is a better road network in the region so North Walians can get to work and visit friends or family.
Unlike parts of Cardiff, the car is essential up here. Any transport policy needs to keep that firmly in mind.
To be fair to him, the new Minister has had a welcome change of tone - but of course we must wait to see if the actions match the words!
A report from last February showed that seventeen road schemes for North Wales were being scrapped with only two of them set to go ahead.
That is a huge number being ditched, and will have a massive negative impact. The Minister said he would look at the projects that had been put on ice, which is a step in the right direction.
However, I want to see those projects actively restarted in order to improve our roads, not letting them decay and wither.
It’s not just for convenience, it is a matter of safety for road users. You can be assured that I will keep campaigning for those improvements.
I’d also like to mention the Welsh Government’s default 20mph speed limits. There has been a lot of talk in the press recently about this issue, with the incoming Welsh Government saying they will change some roads.
This is another example of Labour in Wales talking the talk but not really walking the walk. The 20mph speed limits have been costly and unpopular and should be ditched immediately. Instead, they are fiddling around the edges but leaving the fundamental policy firmly in place.
It’s an interesting example of Ministers knowing they have messed up, but not really having the gumption to reverse their decision.
Remember, Welsh Conservatives are the only party in the Senedd who have consistently opposed default 20mph.
As ever, if you have any queries or issues you’d like to raise with me, then you can get in touch by emailing [email protected].
Fy marn i - The Leader
Rydym ni gyd yn gwybod nad yw trafnidiaeth yn y Gogledd gyda'r gorau! Mae trenau a bysiau yn aml yn cael eu canslo neu'n cyrraedd yn hwyr heb sôn am lawer o broblemau eraill.
Holais y Gweinidog Trafnidiaeth newydd yn Llywodraeth Cymru am hyn yr wythnos diwethaf, oherwydd ar ôl chwarter canrif o Lywodraeth Cymru, nid yw'n ymddangos bod trafnidiaeth yn gwella.
Roedd gan y Gweinidog Trafnidiaeth blaenorol obsesiwn ynglŷn â ffyrdd, roedd yn erbyn ffyrdd a oedd yn niweidiol iawn i ninnau yn y Gogledd. Y cyfan rydym ni eisiau yw rhwydwaith ffyrdd gwell yn y rhanbarth fel bob pobl yn gallu mynd a dod yn hwylus i'w gwaith ac ymweld â ffrindiau a theulu.
Yn wahanol i rannau o Gaerdydd, mae'r car yn hanfodol yma. Mae angen i unrhyw bolisi trafnidiaeth gadw hynny mewn cof.
I fod yn deg iddo, mae'r Gweinidog newydd wedi newid ei gân - ond wrth gwrs mae'n rhaid aros i weld a yw'n gwneud yn ogystal â dweud!
Dangosodd adroddiad o fis Chwefror diwethaf fod 17 o gynlluniau ffyrdd ar gyfer y Gogledd yn cael eu dileu, gyda dim ond dau i gael eu gweithredu.
Mae hynny'n dipyn o ffigwr, a bydd yn cael effaith negyddol iawn. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n edrych ar y prosiectau oedd wedi eu hoedi, sy'n gam i'r cyfeiriad cywir.
Fodd bynnag, hoffwn weld y prosiectau hynny'n ailgychwyn er mwyn gwella ein ffyrdd yn lle gadael iddyn nhw fynd o ddrwg i waeth.
Nid mater o hwylustod yn unig yw hyn, mae'n fater o ddiogelwch defnyddwyr y ffyrdd hefyd. Gallaf eich sicrhau y bydda i'n parhau i ymgyrchu dros y gwelliannau hynny.
Hoffwn hefyd sôn am derfynau cyflymder diofyn 20mya Llywodraeth Cymru. Bu llawer o sôn yn y wasg yn ddiweddar am y mater hwn, gyda Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n newid rhai ffyrdd.
Dyma enghraifft arall o Lafur yng Nghymru yn gwneud ond ddim wir yn dweud. Mae'r terfynau cyflymder 20mya wedi bod yn gostus ac amhoblogaidd a dylid cael gwared arnyn nhw unwaith ac am byth. Yn hytrach, maen nhw'n potsian o gwmpas ond yn gadael y polisi sylfaenol yn gadarn yn ei le.
Mae'n enghraifft ddiddorol o Weinidogion yn gwybod eu bod wedi gwneud llanast o bethau, ond heb fod yn ddigon dewr i wyrdroi eu penderfyniad.
Cofiwch, y Ceidwadwyr Cymreig yw'r unig blaid yn y Senedd sydd wedi gwrthwynebu 20mya diofyn yn gyson.
Fel arfer, os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu faterion yr hoffech eu codi gyda mi, yna mae croeso i chi gysylltu drwy e-bostio [email protected].