Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging female farmers in his region to take part in a national competition.
Mr Rowlands, a keen supporter of the farming sector, is backing NFU Cymru who along with NFU Mutual have launched a search to find the 26th Wales Woman Farmer of the Year.
He said:
This is a wonderful opportunity for female farmers in North Wales to take part in the annual competition and once again promote the work of women farmers.
The search is on to find the Wales Woman Farmer of the Year and once again highlight the important contribution they make in the Welsh farming industry.
We have so many talented and hard working women working in farming across North Wales and I really would urge them to apply.
NFU Cymru Deputy President Abi Reader, a former winner of the award who will be one of this year’s judges, said: “The Wales Woman Farmer of the Year Award is there to champion the contribution that women make to farming businesses and wider rural life. Over the past 25 years we have had a variety of winners, all representing different sectors and parts of the farming industry, and we look forward to receiving applications for the 2024 title and celebrating this great award.”
Heather Holgate, NFU Cymru & NFU Mutual Group Secretary who will be judging alongside Abi Reader, said: "For generations women have played a crucial role in Welsh agriculture, from running farm businesses to leading diversification enterprises to increase farm income and NFU Mutual is proud to support this award. We hope the award inspires other women in Wales to take centre stage and influence farming in the future."
The winner of the NFU Cymru/NFU Mutual Wales Woman Farmer of the Year 2024 award will receive £500 and a Welsh Royal Crystal bowl. The award will be presented on Thursday July 25th on the NFU Cymru stand at the Royal Welsh Show.
If you are interested in entering, or know someone who you think is worthy of a nomination for the title of Wales Woman Farmer of the Year 2024, please visit the NFU Cymru website or contact the NFU Cymru office by telephoning 01982 554200 or emailing [email protected].
The closing date for the competition is Monday May 27 2024.
Sam Rowlands yn cefnogi Gwobr Ffermwraig y Flwyddyn Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog ffermwragedd yn ei ranbarth i gymryd rhan mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Mae Mr Rowlands, sy'n cefnogi'r sector ffermio i’r carn, yn cefnogi NFU Cymru sydd, ynghyd ag NFU Mutual, wedi lansio ymgyrch i chwilio am yr 26ain Ffermwraig y Flwyddyn Cymru.
Meddai:
Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwragedd yn y Gogledd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol a gwaith menywod sy’n ffermio unwaith eto.
Mae'r chwilio wedi cychwyn i ddod o hyd i Ffermwraig y Flwyddyn Cymru ac unwaith eto mae’n tynnu sylw at y cyfraniad pwysig maen nhw'n ei wneud yn niwydiant ffermio Cymru.
Mae gennym gymaint o fenywod dawnus a gweithgar yn gweithio ym myd ffermio ledled y Gogledd a byddwn yn eu hannog i roi cynnig arni.
Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Abi Reader, cyn-enillydd y wobr a fydd yn un o’r beirniaid eleni: “Mae Gwobr Ffermwraig y Flwyddyn Cymru yno i hyrwyddo'r cyfraniad mae menywod yn ei wneud i fusnesau ffermio a bywyd gwledig ehangach. Dros y 25 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi cael amrywiaeth o enillwyr, pob un yn cynrychioli gwahanol sectorau a rhannau o'r diwydiant ffermio, ac edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau ar gyfer teitl 2024 a dathlu'r wobr wych hon.”
Dywedodd Heather Holgate, Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru ac NFU Mutual a fydd yn beirniadu gydag Abi Reader: “Ers cenedlaethau mae menywod wedi chwarae rhan hanfodol yn amaethyddiaeth Cymru, o redeg busnesau fferm i arwain mentrau arallgyfeirio i gynyddu incwm fferm ac mae NFU Mutual yn falch o gefnogi'r wobr hon. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y wobr yn ysbrydoli menywod eraill yng Nghymru i gamu ymlaen a dylanwadu ar ffermio yn y dyfodol.”
Bydd enillydd gwobr Ffermwraig y Flwyddyn NFU Cymru/NFU Mutual Wales 2024 yn derbyn £500 a phowlen Crisial Brenhinol Cymru. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno ddydd Iau 25 Gorffennaf ar stondin NFU Cymru yn y Sioe Fawr.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi cynnig arni, neu'n adnabod rhywun rydych chi'n meddwl sy'n deilwng o enwebiad ar gyfer teitl Ffermwraig y Flwyddyn 2024, ewch i wefan NFU Cymru neu cysylltwch â swyddfa NFU Cymru drwy ffonio 01982 554200 neu e-bostio [email protected].
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw dydd Llun 27 Mai 2024.