Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging the Local Health Board to urgently look at ways to improve parking at North Wales’ three main hospitals.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Health, was commenting after it was reported that BCUHB were looking at options to tackle the problem at Wrexham Maelor Hospital.
He said:
It is time for the health board to consider the parking situation at Wrexham, Glan Clwyd and Bangor hospitals.
Every hospital has major problems with lack of parking spaces and I constantly receive emails from concerned constituents who are frustrated about the situation.
I have had a number of reports of people parking on double yellow lines or on pavements and grass verges just so they can make sure they don’t miss appointments.
There is also chaos at the main entrances when people are dropping off patients as drivers then have to drive round and round trying to find somewhere to park, causing a build- up of traffic on the roads in the hospital.
When you are attending a hospital appointment or visiting a sick relative and all the stress that goes with that the last thing you need is to worry about parking.
It is about time the health board started seriously tackling the lack of parking spaces in our major hospitals.
Sam Rowlands AS yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i'r afael â phroblemau parcio yn Ysbytai'r Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog y Bwrdd Iechyd Lleol i edrych ar unwaith ar ffyrdd o wella parcio yn nhri prif ysbyty Gogledd Cymru.
Gwnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, y sylw ar ôl i adroddiad dweud fod BIPBC yn edrych ar opsiynau i ddatrys y broblem yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Meddai:
Mae'n hen bryd i'r bwrdd iechyd ystyried y sefyllfa barcio yn ysbytai Wrecsam, Glan Clwyd a Bangor.
Mae gan bob ysbyty broblemau mawr gyda diffyg mannau parcio ac rwy'n derbyn e-byst gan etholwyr pryderus sy'n teimlo'n rhwystredig am y sefyllfa'n gyson.
Rwyf wedi cael nifer o adroddiadau bod pobl yn parcio ar linellau melyn dwbl neu ar balmentydd ac ymylon glaswellt er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n colli apwyntiadau.
Mae yna anhrefn hefyd wrth y prif fynedfeydd pan mae pobl yn gollwng cleifion wrth i yrwyr wedyn orfod gyrru rownd a rownd yn ceisio dod o hyd i rywle i barcio, gan achosi tagfeydd traffig ar y ffyrdd yn yr ysbyty.
Pan fyddwch chi'n mynychu apwyntiad ysbyty neu'n ymweld â pherthynas sâl a'r holl straen sy'n mynd gyda hynny y peth olaf sydd ei angen arnoch yw poeni am barcio.
Mae'n hen bryd i'r bwrdd iechyd ddechrau mynd i'r afael o ddifrif â'r diffyg mannau parcio yn ein prif ysbytai.