Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging his constituents to share their views for the future of the culture sector in Wales.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism wants people to take part in a Welsh Government consultation to help provide a vision for the future.
He said:
As everybody knows I am always keen to promote the different types of attractions we have to offer visitors here in my region of North Wales and continuing to promote our culture is part of that.
Many tourists are attracted to North Wales because of our heritage and events like the National Eisteddfod, which is being held in Wrexham in 2025 and the Royal Welsh Show, in Mid-Wales, are just two ways we celebrate our wonderful culture.
It really is great to see local people and visitors coming together at these major events which really helps to promote our country and I would urge anyone who has any views for the future to take part in the consultation before it closes next month.
The draft Priorities for Culture focus on three main priorities:
- Bringing people together through culture
- Promoting Wales as a nation of culture
- Ensuring the culture sector is resilient and sustainable
These three priorities are supported by twenty draft ambitions which include culture being accessible to everyone in Wales, building relationships at home and abroad through culture and helping the sector to prosper now and in the future.
The draft priorities apply to the entire culture sector in Wales, from national organisations to grassroots projects.
The consultation is also relevant to all public sector organisations who are required to deliver the Well-being of Future Generations Act’s goal of ‘A Wales of Vibrant Culture and Thriving Welsh Language.’
The Priorities for Culture: 2024-2030 consultation will close on Wednesday, September 4.
To view and provide your views visit Draft Priorities for Culture in Wales 2024 to 2030.
Sam Rowlands AS yn galw ar y cyhoedd i ddweud eu dweud
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog ei etholwyr i rannu eu barn ar ddyfodol y sector diwylliant yng Nghymru.
Mae Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, eisiau i bobl gymryd rhan mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddarparu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Meddai:
Fel y gŵyr pawb, rydw i bob amser yn awyddus i hyrwyddo'r gwahanol fathau o atyniadau sydd gennym i'w cynnig i ymwelwyr yma yn fy rhanbarth i yn y Gogledd ac mae parhau i hyrwyddo ein diwylliant yn rhan o hynny.
Mae llawer o dwristiaid yn cael eu denu i’r Gogledd oherwydd ein treftadaeth, ac mae digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n cael ei chynnal yn Wrecsam yn 2025, a Sioe Frenhinol Cymru yn y Canolbarth, yn megis dwy ffordd rydyn ni’n dathlu ein diwylliant gwych.
Mae'n wych gweld pobl leol ac ymwelwyr yn dod at ei gilydd yn y digwyddiadau mawr hyn sy'n helpu i hyrwyddo ein gwlad a byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau ar gyfer y dyfodol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyn iddo gau fis nesaf.
Mae'r blaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth:
- Dod â phobl at ei gilydd drwy ddiwylliant
- Hyrwyddo Cymru fel cenedl diwylliant
- Sicrhau bod y sector diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy
Cefnogir y tair blaenoriaeth hyn gan ugain o uchelgeisiau drafft sy'n cynnwys diwylliant sy’n hygyrch i bawb yng Nghymru, meithrin cysylltiadau gartref a thramor trwy ddiwylliant a helpu'r sector i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.
Mae'r blaenoriaethau drafft yn berthnasol i'r sector diwylliant cyfan yng Nghymru, o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau ar lawr gwlad.
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn berthnasol i bob sefydliad sector cyhoeddus y mae'n ofynnol iddyn nhw gyflawni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o weld ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.'
Bydd ymgynghoriad Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant: 2024-2030 yn cau ddydd Mercher, 4 Medi.
I weld y ddogfen a rhannu’ch barn, ewch i Blaenoriaethau Drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030.