Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed the possibility of trains running from Wrexham to London.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, who constantly calls for better rail service in North Wales, said:
I am really delighted to hear that plans for a three hour rail journey from Wrexham to London have moved a step closer. As the city continues to attract visitors from far and wide it really is essential that this sort of public transport is available.
With the new Labour Government failing to commit to the last Conservative Government’s planned investment in the North Wales mainline it is absolutely vital that everything possible is done to improve rail services for the people in my region.
Not only will it be great for residents but it will also be another way of encouraging visitors to visit Wrexham and the rest of North Wales.
I look forward to the proposals becoming a reality.
Wrexham Council recently met with the Wrexham, Shropshire and Midlands Railway Company Ltd who are proposing an Open Access Service that can get you from Wrexham, to the heart of London in three hours.
The Leader of the Council, Cllr Mark Pritchard and Deputy Leader, Cllr David A Bithell both attended and heard proposals for the service which have been submitted to the Office of Rail and Road’s Chief Executive, John Larkinson.
Following the meeting a letter from Cllr David A Bithell, Deputy Leader with responsibility for strategic transport, in full support of the plans has been sent to the ORR Chief Executive David Larkinson. The letter outlined that since the last open access service operated in Wrexham the services offered were not fit for purpose with poor reliability, frequent cancellations and a substandard level of services to passengers.
The letter encourages the ORR to endorse the proposals as soon as practical allowing residents and visitors to Wrexham and the wider North Wales region a genuine public transport offer that will meet current demands and ambitions.
Leader of the Council, Cllr Mark Pritchard, who endorses the application said:
Residents and visitors to Wrexham deserve a high quality rail service that will serve not only Wrexham but the wider North Wales area.
I would like to thank WSMR for their valuable time in updating us on their proposals and fully endorse their plans for the future.
If successful, the new service will create 50 jobs and the first trains should depart in summer 2025.
Sam Rowlands AS yn cefnogi trenau rhwng Wrecsam a Llundain
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi croesawu'r posibilrwydd y bydd trenau'n rhedeg o Wrecsam i Lundain.
Meddai Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, sy'n galw'n gyson am well gwasanaeth rheilffordd yn y Gogledd:
Rwy'n falch iawn o glywed bod cynlluniau ar gyfer taith drên tair awr o Wrecsam i Lundain wedi symud gam yn nes. Wrth i'r ddinas barhau i ddenu ymwelwyr o bell ac agos, mae'n hanfodol bod trafnidiaeth gyhoeddus o'r fath ar gael.
Gyda'r Llywodraeth Lafur newydd yn methu ag ymrwymo i fuddsoddiad arfaethedig y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf ym mhrif lein y Gogledd, mae'n gwbl hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i wella gwasanaethau rheilffyrdd i bobl fy rhanbarth.
Nid yn unig y bydd yn wych i drigolion ond bydd hefyd yn ffordd arall o annog ymwelwyr i ymweld â Wrecsam a gweddill y Gogledd.
Rwy'n edrych ymlaen at weld y cynigion yn cael eu gwireddu.
Yn ddiweddar, cyfarfu Cyngor Wrecsam â Wrexham, Shropshire and Midlands Railway Company Ltd sy'n cynnig cael Gwasanaeth Mynediad Agored a all eich cludo o Wrecsam i ganol Llundain mewn tair awr.
Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard ,a'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd David A Bithell, yn bresennol a chlywon nhw gynigion ar gyfer y gwasanaeth sydd wedi’u cyflwyno i Brif Weithredwr y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, John Larkinson.
Yn dilyn y cyfarfod anfonwyd llythyr gan y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth strategol, yn cefnogi'r cynlluniau yn llawn at Brif Weithredwr yr ORR, John Larkinson. Roedd y llythyr yn amlinellu, ers i'r gwasanaeth mynediad agored diwethaf weithredu yn Wrecsam, nad yw’r gwasanaethau a gynigir yn addas i'r diben gyda gwasanaethau annibynadwy iawn, trenau di-ri yn cael eu canslo a gwasanaethau is na’r safon ddisgwyliedig i deithwyr.
Mae'r llythyr yn annog yr ORR i gymeradwyo'r cynigion cyn gynted ag y bo'n ymarferol er mwyn i drigolion ac ymwelwyr â Wrecsam a rhanbarth ehangach y Gogledd gael cynnig trafnidiaeth gyhoeddus go iawn a fydd yn cwrdd â'r galw a'r uchelgeisiau presennol.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, sy'n cymeradwyo'r cais:
Mae trigolion ac ymwelwyr â Wrecsam yn haeddu gwasanaeth rheilffordd o ansawdd uchel a fydd yn gwasanaethu nid yn unig yn Wrecsam ond ardal ehangach y Gogledd.
Hoffwn ddiolch i WSMR am eu hamser gwerthfawr wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eu cynigion ac rydyn ni’n llwyr gymeradwyo eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Os bydd yn llwyddiannus, bydd y gwasanaeth newydd yn creu 50 o swyddi a dylai'r trenau cyntaf adael yn haf 2025.