Sam Rowlands MS for North Wales joined celebrations to mark the centenary of Soroptimists International.
He attended a special event in Llandudno, on Friday October 8 to mark 100 Years of Soroptimist International.
He said:
This is a wonderful achievement and I am delighted to have been invited to share in the Soroptimists’ North Wales celebrations in Llandudno.
As part of the festivities the Llandudno SI planted two trees in Happy Valley and have provided a bench made out of recycled bottle tops.
The local group has been involved in many projects including the collection of plastic bottle tops for recycling which benefits the environment, and they deserve every praise for their endeavours.
The Soroptimists are an excellent organisation which brings together like minded women to voluntarily work on schemes to help improve the lives of women, locally, nationally and internationally.
Soroptimists International is 100 years old with the first club being started in in Oakland, California, in October 1921. It is now a worldwide organisation with 72,000 members belonging to 3,000 clubs in 122 countries.
To mark the centenary the Federation of Great Britain and Ireland (SIGBI) encouraged members to plant trees to commemorate the first project in Oakland, the planting of Redwood Trees.
SI Llandudno planted two trees in Happy Valley as part of that project, and they will be included on the map being compiled by SIGBI on their website.
In addition, they also buried a Time Capsule which contains items from all the 15 clubs in the region, along with other items celebrating the centenary of Soroptimist International which they hope will provide a sense of history for the future.
Sam Rowlands AS yn dathlu canmlwyddiant Soroptimist International gydag aelodau yn Llandudno
Ymunodd Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, â dathliadau i nodi canmlwyddiant Soroptimist International.
Ddydd Gwener 8 Hydref, bu mewn digwyddiad arbennig yn Llandudno i nodi canfed pen blwydd Soroptimist International.
Meddai:
Mae hyn yn gamp arbennig ac rwy'n falch iawn o gael fy ngwahodd i Landudno i fod yn rhan o ddathliadau Soroptimist yng Ngogledd Cymru.
Fel rhan o'r ŵyl, plannodd SI Llandudno ddwy goeden yn y Fach ac maent wedi darparu mainc wedi'i gwneud o dopiau poteli wedi’u hailgylchu.
Mae'r grŵp lleol wedi bod yn rhan o lawer o brosiectau gan gynnwys casglu topiau poteli plastig i'w hailgylchu er budd yr amgylchedd, ac maent yn haeddu pob clod am eu hymdrechion.
Mae Soroptimist yn sefydliad rhagorol sy'n dod â menywod o'r un anian at ei gilydd i weithio'n wirfoddol ar gynlluniau i helpu i wella bywydau menywod, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Mae Soroptimist International yn 100 oed eleni. Cychwynnodd y clwb cyntaf yn Oakland, Califfornia, ym mis Hydref 1921. Mae bellach yn sefydliad byd-eang gyda 72,000 o aelodau yn perthyn i 3,000 o glybiau mewn 122 o wledydd.
I nodi'r canmlwyddiant, anogodd Ffederasiwn Prydain ac Iwerddon (SIGBI) yr aelodau i blannu coed er mwyn efelychu'r prosiect cyntaf yn Oakland, pan blannwyd Coed Cochwydd.
Plannodd SI Llandudno ddwy goeden yn y Fach fel rhan o'r prosiect hwnnw, a chânt eu cynnwys ar y map sy'n cael ei lunio gan SIGBI ar eu gwefan.
Maent hefyd wedi claddu Capsiwl Amser yn cynnwys eitemau o 15 clwb y rhanbarth, ynghyd ag eitemau eraill sy'n dathlu canmlwyddiant Soroptimist International er mwyn ceisio creu ymdeimlad o hanes ar gyfer y dyfodol.