Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says anger and frustration is increasing against the controversial 20mph speed limit across the country, one year after it was introduced.
Mr Rowlands, a harsh critic of the new legislation, was commenting after the anniversary of the disastrous implementation of the new law.
He said:
I really can’t believe that we are now 12 months down the line since this nonsensical and crazy law was introduced and the Welsh Labour Government is still not prepared to listen to what the public wants.
Even the new First Minister has admitted they did not get it right and is saying they have watered down the guidelines so the public can ask their local council to change the limit.
This will make very little difference as the Welsh Government’s new guidelines are far too strict. The Welsh Labour Government have no intention of scrapping this extremely unpopular and unwarranted policy which is causing anger and frustration across North Wales.
The depth of feeling against this bonkers idea is immense and it is a real shame that local people and businesses continue to suffer for a policy which was ill thought out and quite frankly ridiculous.
Almost half a million people signed a petition against the new default speed limit which will come at a cost of around £33m an anticipated £9 billion hit to the Welsh economy.
I was happy to continue to show my support to the campaign by meeting protestors on the steps of the Senedd on Tuesday September 17 to mark 12 months since this disastrous policy was introduced.
Sam Rowlands AS yn parhau i ymgyrchu yn erbyn y terfynau cyflymder 20mya cyffredinol
Yn ôl Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, mae dicter a rhwystredigaeth yn cynyddu yn erbyn y terfyn cyflymder dadleuol o 20mya ar draws y wlad, flwyddyn ar ôl iddo gael ei gyflwyno.
Gwnaeth Mr Rowlands, sydd yn feirniad llym o’r ddeddfwriaeth newydd, y sylw flwyddyn ar ôl i’r gyfraith newydd drychinebus ddod i rym.
Meddai:
Alla i ddim credu ein bod ni bellach 12 mis i lawr y lôn ers cyflwyno'r gyfraith hurt a gwallgof hon ac nid yw Llywodraeth Lafur Cymru yn barod i wrando ar yr hyn y mae'r cyhoedd ei eisiau.
Mae hyd yn oed y Prif Weinidog newydd wedi cyfaddef nad dyma’r penderfyniad cywir ac mae'n dweud bod y llywodraeth wedi gwanhau’r canllawiau fel y gall y cyhoedd ofyn i'w cyngor lleol newid y terfyn.
Ychydig iawn o wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud gan fod canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn llawer rhy llym. Nid oes gan Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw fwriad i gael gwared â'r polisi hynod amhoblogaidd a direswm hwn ac mae’r sefyllfa yn achosi dicter a rhwystredigaeth ar draws y Gogledd.
Mae dyfnder y teimlad yn erbyn y syniad hurt hwn yn aruthrol ac mae'n drueni mawr fod pobl leol a busnesau yn parhau i ddioddef oherwydd polisi mor wael a hollol wirion.
Fe wnaeth bron i hanner miliwn o bobl lofnodi deiseb yn erbyn y terfyn cyflymder cyffredinol newydd sydd yn mynd i gostio o tua £33m a rhagwelir y bydd y penderfyniad yn cael effaith gwerth £9 biliwn ar economi Cymru.
Roeddwn i’n hapus i barhau i ddangos fy nghefnogaeth i'r ymgyrch drwy gwrdd â phrotestwyr ar risiau'r Senedd ddydd Mawrth 17 Medi i nodi 12 mis ers cyflwyno'r polisi trychinebus hwn.