Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for a review on the way social care is funded.
Speaking in the Senedd, during a discussion on local government funding, Mr Rowlands, Shadow Health Minister, who constantly urges the Welsh Government to increase funding to local councils for social care, said:
One of the biggest responsibilities that local authorities have is in relation to social care. The older population particularly has a huge reliance on social care services, and this has an impact in North Wales, which has a disproportionately older population.
Minister you talked about the data points that feed into the funding formula for local authorities. You may be aware that there are some cliff edges in terms or how some of those data points work. For example, over-60s receive a few pounds, or are worth, to a local authority, a few pounds in terms of that funding formula, but over-85s are worth a few thousand pounds.
There are very stark differences in the amounts of funding available to local authorities, depending on the age of their population. You will recognise that properly funded councils around social care are a huge enabler for creating space in our hospitals, to avoid bed blocking.
Mr Rowlands asked Mark Drakeford, the Cabinet Secretary for Finance and Local Government, what consideration he will be giving to social care funding to local authorities, recognising the impact on older people in places like North Wales, and called for a review of the cliff-edge data points.
Mr Drakeford said a distribution sub-group comprising representatives from local authorities and independent members was currently engaged on reviewing the formula in relation to social care.
Mr Rowlands added:
I recently spoke on BBC TV’s Politics Wales programme and highlighted the inadequate care home funding in Wales and called for local councils to receive the right amount of money available so they can pay care homes properly.
We know that there are hundreds and hundreds of beds in our hospitals at the moment which are blocked because people cannot access the care services that they need.
As Shadow Health Minister I find it extremely concerning that not enough is being done by the Welsh Government to address social care and ensure local authorities are adequately funded for this.
Sam Rowlands AS eisiau i Lywodraeth Cymru wneud mwy i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â gofal cymdeithasol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw am adolygiad o’r ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu.
Wrth siarad yn y Senedd, yn ystod trafodaeth ar gyllid llywodraeth leol, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, sy'n annog Llywodraeth Cymru yn gyson i gynyddu cyllid i gynghorau lleol ar gyfer gofal cymdeithasol:
Un o'r cyfrifoldebau mwyaf sydd gan awdurdodau lleol yw gofal cymdeithasol. Mae'r boblogaeth hŷn yn arbennig yn dibynnu'n helaeth ar wasanaethau gofal cymdeithasol, ac mae hyn yn cael effaith yng ngogledd Cymru, sydd â phoblogaeth anghymesur o hŷn.
Weinidog, fe wnaethoch chi siarad am y pwyntiau data sy'n bwydo i mewn i'r fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol. Efallai eich bod yn ymwybodol fod rhai o'r pwyntiau data hynny'n gweithio ar sail ymylon clogwyn. Er enghraifft, mae pobl dros 60 oed yn werth ychydig o bunnoedd i awdurdod lleol yn y fformiwla ariannu honno, ond mae pobl dros 85 oed yn werth ychydig filoedd o bunnoedd.
Mae gwahaniaethau amlwg iawn yn y symiau o gyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol, yn dibynnu ar oedran eu poblogaeth. Ac wrth gwrs, fe fyddwch chi'n cydnabod bod cynghorau sy'n cael eu hariannu'n briodol ar gyfer gofal cymdeithasol yn alluogwyr enfawr i greu lle yn ein hysbytai, er mwyn osgoi blocio gwelyau.
Gofynnodd Mr Rowlands i Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, pa ystyriaeth y bydd yn ei rhoi i gyllid gofal cymdeithasol i awdurdodau lleol, gan gydnabod yr effaith ar bobl hŷn mewn llefydd fel Gogledd Cymru, a galwodd am adolygiad o bwyntiau data arwyddocaol.
Dywedodd Mr Drakeford fod is-grŵp dosbarthu sy'n cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ac aelodau annibynnol wrthi'n adolygu'r fformiwla mewn perthynas â gofal cymdeithasol.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Yn ddiweddar, bûm yn siarad ar raglen Politics Wales ar y BBC, gan dynnu sylw at y cyllid annigonol mewn cartrefi gofal yng Nghymru ac mi wnes i alw ar gynghorau lleol i dderbyn y swm cywir o arian sydd ar gael fel y gallant dalu cartrefi gofal yn iawn.
Rydyn ni'n gwybod bod cannoedd ar gannoedd o welyau yn ein hysbytai ar hyn o bryd sydd wedi'u blocio oherwydd nad yw pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau gofal sydd eu hangen arnyn nhw.
Fel Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid mae’n hynod bryderus nad oes digon yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gofal cymdeithasol a sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu'n ddigonol ar gyfer hyn.