Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a call for a dental school in North Wales.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister and a harsh critic of the lack of NHS dental services in his region was speaking in the Senedd during a discussion on dentistry in North Wales.
He said he joined fellow North Wales MS, Llyr Gruffydd, in identifying the need for a dental school in North Wales, because of the difficulties around recruitment are particularly acute in North Wales.
He said:
In addition to the opportunities around the dental school, it's been welcome to hear the Labour Government in Westminster calling for more collaboration with health services between England and Wales, and particularly that will impact constituents that I represent across Flintshire and Wrexham.
I'm interested in understanding your thoughts on how that collaboration could work for those residents, and particularly around dental services, and whether you think there are particular opportunities for residents in North Wales, considering the transport links that take place throughout the region.
Ken Skates, Cabinet Secretary for North Wales said any collaboration that can take place that would lead to better outcomes for patients, regardless of where they seek their provision, should be welcomed.
Mr Rowlands added:
I am heartened to hear the response from the Minister, however, it does seem at little at odds with what we are hearing regarding cross party collaboration for health services from the Health Minister.
This is not the time to play party politics as people I represent in North Wales deserve so much better whether it be for dental services or dealing with long waiting lists for consultant’s appointments and treatment.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at broblemau recriwtio deintyddion yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi galwad am ysgol ddeintyddol yn y Gogledd.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid a beirniad llym o ddiffyg gwasanaethau deintyddol y GIG yn ei ranbarth, yn siarad yn y Senedd yn ystod dadl ar ddeintyddiaeth yn y Gogledd.
Dywedodd ei fod wedi ymuno â’i gyd-Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, Llyr Gruffydd, wrth nodi'r angen am ysgol ddeintyddol yn y Gogledd, oherwydd bod yr anawsterau recriwtio yn arbennig o wael yn y Gogledd.
Meddai:
Yn ogystal â'r cyfleoedd mewn perthynas â'r ysgol ddeintyddol, mae wedi bod yn braf clywed y Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn galw am fwy o gydweithio gyda gwasanaethau iechyd rhwng Cymru a Lloegr, ac yn fwyaf arbennig y bydd hynny'n effeithio ar etholwyr a gynrychiolir gennyf i ar draws sir y Fflint a Wrecsam.
Hoffwn ddeall eich barn ar sut y gallai'r cydweithio hwnnw weithio i'r trigolion yng ngogledd Cymru, ac yn enwedig gwasanaethau deintyddol, ac os ydych chi'n meddwl, yn eich rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet sy'n cynrychioli gogledd Cymru, fod cyfleoedd arbennig i drigolion yng ngogledd Cymru, gan ystyried y cysylltiadau trafnidiaeth sy'n digwydd ledled y rhanbarth.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Cabinet y Gogledd y dylid croesawu unrhyw gydweithio a fyddai'n arwain at well canlyniadau i gleifion, waeth ble maen nhw'n ceisio eu darpariaeth.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Mae'n galonogol clywed ymateb y Gweinidog, fodd bynnag, mae'n ymddangos fel pe bai’n mynd yn groes i'r hyn rydyn ni’n ei glywed gan y Gweinidog Iechyd ynghylch cydweithredu trawsbleidiol mewn perthynas â’r gwasanaethau iechyd.
Nid dyma'r amser i chwarae gêm wleidyddol gan fod pobl rwy'n eu cynrychioli yn y Gogledd yn haeddu cymaint gwell, boed yn ateb i’r diffyg gwasanaethau deintyddol neu i ddelio â rhestrau aros hir ar gyfer apwyntiadau a thriniaeth ymgynghorol.