Sam Rowlands, MS for North Wales, and Darren Millar, MS for Clwyd West have praised the community spirit which led to a chemist in Rhos-on-Sea re-opening after a fire in only five weeks.
Mr Rowlands along with Darren Millar, recently attended the official re-opening of Rowlands Pharmacy in Rhos Road.
Mr Rowlands said:
I was delighted to be invited to the re-opening and be able to congratulate everyone involved in helping to get the place open and ready for business in such a short time.
It was heartening to hear how they were able to service the local community despite the fire with help from the local health board, surgeries and other pharmacies. At one stage they even operated from a portacabin.
Praise must go to Pharmacist, Martyn Warren, his staff and management teams for all their hard work and making sure they kept services running for the local community.
Mr Millar said:
I would like to add my congratulations to everyone who helped to ensure that the community of Rhos-on-Sea were not left without a pharmacy service.
It is really good to see people pulling together when something like this happens and just shows what can be achieved. Well done to everyone involved.
Rowlands Pharmacy in Rhos Road, Rhos-on-Sea had a fire in the premises five weeks ago but by the next day they had managed to move operations to another branch nearby. Within a week they were offering a services from a portacabin back in Rhos on Sea.
The chemist , which is the only one in Rhos-on-Sea, after Boots closed its doors, underwent a refit two months ago, to provide an increased level of service.
Gwleidyddion yn ymweld â’r fferyllfa sydd wedi ailagor ar ôl ei difrodi gan dân bum wythnos yn ôl
Mae Sam Rowlands, AS dros y Gogledd, a Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd wedi canmol yr ysbryd cymunedol a arweiniodd at fferyllydd yn Llandrillo-yn-Rhos yn ailagor wedi tân mewn dim ond pum wythnos.
Yn ddiweddar aeth Mr Rowlands ynghyd â Darren Millar, i ddigwyddiad ailagor Fferyllfa Rowlands yn Heol Rhos.
Meddai Mr Rowlands:
Roeddwn i’n falch iawn o gael fy ngwahodd i'r digwyddiad ailagor a gallu llongyfarch pawb a gymerodd ran yn helpu i gael y lle yn agored ac yn barod ar gyfer busnes mewn cyfnod mor fyr.
Roedd hi’n galonogol clywed sut wnaethon nhw lwyddo i wasanaethu'r gymuned leol er gwaethaf y tân gyda chymorth y bwrdd iechyd lleol, meddygfeydd a fferyllfeydd eraill. Ar un cyfnod roedden nhw’n gweithredu o gaban symudol hyd yn oed.
Rhaid canmol y fferyllydd, Martyn Warren, ei staff a'i dimau rheoli am eu holl waith caled a sicrhau eu bod yn cadw gwasanaethau ar waith er budd y gymuned leol.
Meddai Mr Millar:
Hoffwn longyfarch pawb a helpodd i sicrhau nad oedd cymuned Llandrillo-yn-Rhos yn cael ei gadael heb wasanaeth fferyllfa.
Mae'n dda iawn gweld pobl yn dod at ei gilydd pan fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd a dangos yr hyn y gellir ei gyflawni. Da iawn bawb wnaeth helpu.
Bu tân yn Fferyllfa Rowlands yn Heol Rhos, Llandrillo-yn-Rhos bum wythnos yn ôl ond erbyn y diwrnod canlynol roedden nhw wedi llwyddo i symud gweithrediadau i gangen arall gerllaw. O fewn wythnos roedden nhw'n cynnig gwasanaeth o gaban symudol yn ôl yn Llandrillo-yn-Rhos.
Gwnaeth y fferyllydd , sef yr unig un yn Llandrillo-yn-Rhos, ar ôl i Boots gau ei ddrysau, waith adnewyddu ddeufis yn ôl, er mwyn cynnig gwell gwasanaeth.