Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on the Welsh Government to offer young people more apprenticeship opportunities.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, asked Rebecca Evans, Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, to provide an update on what the Welsh Government is doing to tackle economic inactivity in North Wales
Mr Rowlands, a keen supporter of apprenticeship schemes said:
One of the routes to tackling economic inactivity is having that well-trained workforce. And for younger people, in particular, a large part can be done through apprenticeships, which provide a great way to learn a trade and genuine skills that they can use throughout their working life.
Unfortunately, compared to other places in the UK, and in particular England, the range of degree apprenticeships on offer here is poor. Couple that with recent cuts that the Welsh Government have made to the apprenticeship programme, and we have problems in our degree apprenticeship programme here in Wales.
I recently met with the new vice-chancellor of Wrexham University, and I also met with the Royal College of Occupational Therapists, who were both very clear that degree apprenticeships can make a big difference not just to the economy, but to the services that the Welsh Government are responsible for here as well.
I'd like to ask what is being done to increase the range of degree apprenticeships on offer, and, importantly, how you are engaging with those educational institutions and others to see the increase in take-up that I'm sure we'd all want to see.
The Cabinet Secretary said they recognised the importance of apprenticeships and were encouraging providers to collaborate with university sectors and the education sector more widely.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ddiffyg gradd-brentisiaethau yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig mwy o gyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, i Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yn y Gogledd.
Meddai Mr Rowlands, cefnogwr brwd cynlluniau prentisiaethau:
Un o'r llwybrau tuag at fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yw cael gweithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda. Ac i bobl iau, yn arbennig, gellir gwneud rhan fawr trwy brentisiaethau, sy'n ffordd wych o ddysgu crefft a sgiliau dilys y gallant eu defnyddio gydol eu bywyd gwaith.
Yn anffodus, o'i gymharu â lleoedd eraill yn y DU, a Lloegr yn benodol, mae'r casgliad o brentisiaethau gradd sydd ar gael yma yn wael. Mae hynny law yn llaw â’r toriadau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i'r rhaglen brentisiaethau, yn golygu bod gennym broblemau yn ein rhaglen gradd-brentisiaeth yma yng Nghymru.
Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod ag is-ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam, yn ogystal â Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, a oedd ill dau yn glir iawn y gall gradd-brentisiaethau wneud gwahaniaeth mawr nid yn unig i'r economi, ond i'r gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw yma hefyd.
Hoffwn ofyn beth sy'n cael ei wneud i gynyddu'r casgliad o radd-brentisiaethau sydd ar gael, ac, yn bwysig, sut rydych chi'n ymgysylltu â'r sefydliadau addysgol hynny ac eraill i weld y cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar hynny, rydym i gyd eisiau’i weld rwy’n siŵr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eu bod yn cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau a'u bod yn annog darparwyr i gydweithio gyda sectorau prifysgol a'r sector addysg yn ehangach.