Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to support a fun packed day of Christmas events in Wrexham city centre.
Mr Rowlands, is backing the city’s Christmas event which is being organised by Wrexham County Borough Council with Fair Events Management, Nightingale House Hospice, Eagles Meadow and Heart Radio on Saturday, November 16.
He said:
I am delighted to support such a fantastic festive day for all the family which actually kick starts four days of celebration to mark the reopening of the Butchers and the General Market. What a wonderful way to start this magical season.
It is great that the launch of the revamped market will be at the same time as the city’s largest seasonal event which always attracts locals and visitors alike and is a good opportunity for local businesses and traders to take advantage of more people being in Wrexham.
Everybody knows what a vibrant place Wrexham is these days and it is great to see excellent Christmas entertainment on offer leading up to the all important switching on of the Christmas lights.
There promises to be something for everybody and well worth supporting.
The festive fun Day starts on Queens Square at 12pm, with the promise of a full day of festive fun, with delicious food stalls, entertainment and holiday activities for all ages!
Fair Events will be providing rides and game stalls, and a selection of street food (including vegan options), with traders from Wrexham Artisan Market also offering their wares including, cakes and treats and handmade items.
There will also be a Nightingale House Hospice Lantern Parade at 4.30pm starting on Queens Square and finishing at Eagles Meadow.
This will be followed by the Wrexham light switch on event at Eagles Meadow Shopping Centre when Heart Radio North Wales presenter Oli will be hosting the staged finale, with a variety of live music and entertainment.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad Nadoligaidd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog pobl i gefnogi diwrnod Nadoligaidd llawn hwyl yng nghanol dinas Wrecsam.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi digwyddiad Nadoligaidd y ddinas sy'n cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda Fair Events Management, Hosbis Tŷ'r Eos, Dôl yr Eryrod a Heart Radio ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o gefnogi diwrnod Nadoligaidd mor wych i'r teulu cyfan sydd mewn gwirionedd yn cychwyn pedwar diwrnod o ddathlu i nodi ailagor y Farchnad Gyffredinol a’r Farchnad Cigyddion. Am ffordd benigamp i ddechrau'r tymor hudolus hwn.
Mae'n wych bod lansio'r farchnad ar ei newydd wedd yn cyd-daro â digwyddiad tymhorol mwyaf y ddinas sydd bob amser yn denu trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd ac mae'n gyfle heb ei ail i fusnesau a masnachwyr lleol fanteisio ar fwy o bobl yn Wrecsam.
Mae pawb yn gwybod pa mor fywiog yw Wrecsam bellach ac mae'n wych gweld adloniant Nadoligaidd ardderchog yn arwain at gynnau’r goleuadau'r Nadolig.
Mae'n argoeli’n noson wych gyda rhywbeth i bawb – achlysur gwerth ei gefnogi.
Mae Diwrnod Hwyl yr Ŵyl yn dechrau ar Sgwâr y Frenhines am 12pm, ac mae’n argoeli’n ddiwrnod o hwyl a sbri, gyda stondinau llawn bwydydd blasus, adloniant a gweithgareddau tymhorol i bob oed!
Bydd Fair Events yn darparu reidiau a stondinau gêm a detholiad o fwyd stryd (gan gynnwys opsiynau fegan), gyda masnachwyr o Farchnad Crefftwyr Wrecsam hefyd yn gwerthu eu nwyddau gan gynnwys cacennau a danteithion ac eitemau wedi'u gwneud â llaw.
Bydd Parêd Lusernau Hosbis Tŷ'r Eos yn dechrau am 4.30pm ar Sgwâr y Frenhines ac yn gorffen yn Nôl yr Eryrod.
Yna bydd digwyddiad cynnau’r goleuadau Dolig yn Wrecsam yng Nghanolfan Siopa Dôl yr Eryrod yng nghwmni cyflwynydd Heart Radio North Wales, Oli, a bydd ganddo wledd o gerddoriaeth ac adloniant byw.