Enfinium, the leading energy-from-waste operator, has today awarded the Ruthin Repair Café, located in Denbighshire, £1,500 of funding to help it to repair fixable goods, reduce unnecessary household waste, and save local families money.
Ruthin Repair Café, a community based not-for-profit, has been repairing household goods for local residents since February 2020. Running once a month, its team of 25 volunteers have helped fix 963 items to date across 31 Repair Café events. The most common repairs are electricals, especially toasters and vacuum cleaners, followed by sewing repairs, such as soft toys and clothes.
The grant funding announced today will cover the running costs, including room hire and consumables, and enable training for our volunteers to develop their skills in areas such as first aid training, tool sharpening and PAT safety-testing certification, which is critical for electrical item repairs.
Every item repaired saves a family from the expense of replacing it, reduces the amount of waste sent to climate-damaging landfill and reduces carbon emissions. For example, maintaining a single television for an additional 7 years has been found to save the equivalent of 657kg CO2.1
In March 2024, enfinium launched its £60,000 ‘Repair Café Support Fund’, set up to support cafés within a 30 mile radius of one of enfinium’s facilities in Kent, North Wales, West Yorkshire or the West Midlands. Eligible Repair Cafés can apply for funding of up to £1,500 per annum before the 31 May deadline.
If you would like to learn more about the Repair Cafés Support Fund, or apply for funding, please visit the project website Repair Café or email [email protected].
Mike Maudsley, CEO of enfinium, said:
Repairing broken items is a critical part of reducing the amount of waste we produce. In turn, this leads to lower consumption, lower carbon emissions and less waste ending up in landfill. This is why we are delighted to be awarding Ruthin’s Repair Café with funding today, which has been helping local families to reduce waste and save money since 2020.
Anne Lewis, Ruthin Repair Café Organiser, said:
We are thrilled to have been awarded this funding from enfinium. The funds will enable us to continue to help support the local residents of Ruthin, repair their broken items, and provide training to our fantastic team of volunteers.
Llyr Griffiths MS for the North Wales Region commented:
I’m delighted that Ruthin repair café has received this funding from enfinium. It will enable volunteers to ensure that items that would otherwise end up in landfill are able to be recycled, reused and repurposed. It’s a simple but wonderfully effective idea that benefits the environment and also saves people money at a time when the cost-of-living crisis is a very real problem for so many families. I would urge any other repair cafes that are within 30 miles of the Parc Adfer facility on Deeside to apply for funding from enfinium.
Sam Rowlands MS for the North Wales Region commented:
I’m delighted to see that enfinium have just awarded their first grant from their Repair Café fund, with Ruthin Repair Café benefiting from a £1,500 grant. Repair Cafes have become a more frequent sight in recent years as people want to cut down on waste and repair household items, rather than dispose of them buy a new replacement. enfinium play a vital role in disposing of the rubbish that residents across North Wales put in their black bins, and their latest initiative continues to support our circular economy.
The Ruthin Repair Café takes place on the first Saturday of every month at the Naylor Leyland Centre in Ruthin from 10.00 – 13.00 and is free and open to all.
Enfinium yn dyfarnu £1,500 o gyllid i Gaffi Trwsio Rhuthun
Heddiw, mae Enfinium, y cwmni ynni-o-wastraff blaenllaw, wedi dyfarnu £1,500 o gyllid i Gaffi Trwsio Rhuthun, Sir Ddinbych, i'w helpu i atgyweirio nwyddau y gellir eu trwsio, lleihau gwastraff cartref diangen, ac arbed arian i deuluoedd lleol.
Mae Caffi Trwsio Rhuthun, sy'n gwmni cymunedol nid er elw, wedi bod yn trwsio nwyddau cartref i drigolion lleol ers mis Chwefror 2020. Yn rhedeg unwaith y mis, mae'r criw o 25 o wirfoddolwyr wedi helpu i drwsio 963 o eitemau hyd yma ar draws 31 o ddigwyddiadau Caffi Trwsio. Y gwaith atgyweirio mwyaf cyffredin yw offer trydanol, yn enwedig tostwyr a hwfyrs, yna trwsio trwy wnïo pethau, fel teganau meddal a dillad.
Bydd y cyllid grant a gyhoeddwyd heddiw yn talu am y costau rhedeg, gan gynnwys llogi ystafelloedd a nwyddau traul, ac yn fodd i wirfoddolwyr gael hyfforddiant er mwyn datblygu eu sgiliau mewn meysydd fel hyfforddiant cymorth cyntaf, hogi offer ac ardystio profion diogelwch PAT, sy'n hanfodol ar gyfer trwsio eitemau trydanol.
Mae pob eitem sy'n cael ei hatgyweirio yn arbed costau prynu un newydd i'r teulu, yn lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi sy'n niweidiol i'r hinsawdd ac yn lleihau allyriadau carbon. Er enghraifft, gwelwyd bod cynnal un teledu am 7 mlynedd ychwanegol yn arbed 657kg CO2.1
Ym mis Mawrth 2024, lansiodd Enfinium ei ‘Repair Café Support Fund’ gwerth £60,000, a sefydlwyd i gefnogi caffis o fewn radiws 30 milltir i un o gyfleusterau enfiniwm yng Nghaint, Gogledd Cymru, Gorllewin Swydd Efrog neu Orllewin Canolbarth Lloegr. Gall Caffis Trwsio cymwys wneud cais am hyd at £1,500 o gyllid y flwyddyn cyn y dyddiad cau ar 31 Mai.
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am Gronfa Gymorth Caffis Trwsio, neu wneud cais am gyllid, ewch i wefan prosiect Repair Café neu e-bostiwch [email protected].
Dywedodd Mike Maudsley, Prif Swyddog Gweithredol enfinium:
Mae trwsio eitemau sydd wedi torri yn rhan hanfodol o leihau faint o wastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu. Mae hyn yn ei dro yn arwain at ddefnydd is, allyriadau carbon is a llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Dyna pam rydym ni'n falch iawn o dyfarnu cyllid i Gaffi Trwsio Rhuthun heddiw, sydd wedi bod yn helpu teuluoedd lleol i leihau gwastraff ac arbed arian ers 2020.
Dywedodd Anne Lewis, Trefnydd Caffi Trwsio Rhuthun:
Ryden ni wrth ein bodd yn derbyn yr arian hwn gan enfinium. Bydd yr arian yn ein helpu i barhau i gefnogi trigolion lleol Rhuthun, trwsio eu heitemau sydd wedi torri, a darparu hyfforddiant i'n tîm gwych o wirfoddolwyr.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS Plaid Cymru dros Ranbarth Gogledd Cymru:
Rwy'n falch iawn bod caffi trwsio Rhuthun wedi derbyn yr arian hwn gan enfinium. Bydd yn galluogi gwirfoddolwyr i sicrhau bod eitemau a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi yn gallu cael eu hailgylchu, eu hailddefnyddio a'u hailbwrpasu. Mae'n syniad syml ond hynod effeithiol sydd o fudd i'r amgylchedd a hefyd yn arbed arian i bobl ar adeg pan mae'r argyfwng costau byw yn gymaint o broblem i gynifer o deuluoedd. Byddwn yn annog unrhyw gaffis trwsio eraill o fewn 30 milltir i gyfleuster Parc Adfer Glannau Dyfrdwy i wneud cais am arian gan enfinium.
Dywedodd Sam Rowlands AS Rhanbarth Gogledd Cymru:
Rwy'n falch iawn o weld bod enfinium newydd ddyfarnu eu grant cyntaf o'u cronfa, gyda Chaffi Trwsio Rhuthun yn elwa ar grant o £1,500. Mae Caffis Trwsio wedi dod yn fwyfwy cyffredin yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i bobl geisio torri lawr ar wastraff a thrwsio eitemau cartref, yn hytrach na'u gwaredu a phrynu un newydd yn eu lle. Mae enfinium yn chwarae rhan hanfodol wrth waredu'r sbwriel mae trigolion y Gogledd yn ei roi yn eu biniau du, ac mae eu menter ddiweddaraf yn parhau i gefnogi ein heconomi gylchol.
Mae Caffi Trwsio Rhuthun ar agor ddydd Sadwrn cyntaf pob mis yng Nghanolfan Naylor Leyland Rhuthun rhwng 10.00 a 13.00 ac mae'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.