Sam Rowlands, MS for North Wales, has called for immediate action after more flash flooding in the Borras Park area.
He recently visited the area with Wrexham County Borough Councillor, Debbie Wallice and they are both urging Dŵr Cymru to address the drainage problems at the junction between Warrenwood Road and Philips Close and on Daleside Avenue.
Sam said,
I was appalled at what I heard when I recently visited the area to speak to local residents who had been affected by the recent flash floods.
I was told that flooding had been a problem in this area for about 10 years and although the problem had been identified drains are still overflowing when there is heavy rain.
Earlier this month flash flooding saw raw sewage flood into the road and people’s homes and Cllr Wallice said Wrexham Council had to carry out a deep clean of the worst affected road.
It is just not right that people have to worry about drains flooding every time there is a heavy downpour of rain.
Cllr Wallice and I will be raising this matter with Dŵr Cymru, and I’ll be raising the issue in the Senedd as well.
Llifogydd ym Mharc Borras
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi galw am weithredu ar unwaith ar ôl rhagor o fflachlifoedd yn ardal Parc Borras.
Yn ddiweddar, bu’n ymweld â’r ardal gyda Debbie Wallice, Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac maen nhw’n erfyn ar Dŵr Cymru i fynd i’r afael â’r problemau draenio ar y gyffordd rhwng Warrenwood Road a Philips Close ar Daleside Avenue.
Meddai Sam,
Roeddwn i wedi dychryn efo’r hyn a glywais yn ddiweddar pan ymwelais â’r ardal i siarad gyda thrigolion lleol a oedd wedi’u heffeithio gan fflachlifoedd.
Clywais fod y llifogydd wedi bod yn broblem yn yr ardal hon ers tua 10 mlynedd ac er bod y broblem wedi’i chydnabod, mae’r draeniau yn dal i orlifo ar ôl glaw trwm.
Yn gynharach yn y mis arweiniodd fflachlif at lifogydd carthion heb eu trin ar y ffordd ac yng nghartrefi pobl a dywedodd y Cynghorydd Wallice y bu’n rhaid i Gyngor Wrecsam lanhau’r ffordd yr effeithiwyd arni fwyaf yn drylwyr.
Dyw hi ddim yn iawn fod pobl yn gorfod poeni am ddraeniau yn gorlifo bob tro y bydd yna gawod o law trwm.
Bydd y Cynghorydd Wallice a minnau yn codi’r mater hwn gyda Dŵr Cymru a byddaf yn codi’r mater yn y Senedd hefyd.