Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging residents take advantage of free swimming sessions in Wrexham.
He said:
I am pleased to promote this initiative which offers free swimming sessions to help under 16s and over 60s keep active.
These days more than ever it is important to try and keep fit and it is great to see this offer available at three leisure centres across Wrexham county.
Swimming is a great way of keeping fit and I would urge those eligible to sign up and get active.
If you are age 16 and under, or aged 60 and over, and you are a Welsh resident then you’ll be eligible to access the sessions. These are open, unguided sessions for anyone eligible and for those who can already swim.
Richard Milne, area manager said:
At Freedom Leisure we’re really proud to be able to support this initiative across all our swimming pools in Wrexham.
We look forward to seeing more of our local community getting active and enjoying our fantastic facilities across the borough.
Sessions are held every week of the year, including during school holidays.
For age 16 and under they take place at:-
Waterworld Leisure and Activity Centre on Saturdays from 3pm – 4pm
Chirk Leisure and Activity Centre on Sundays from 1pm – 2pm
Gwyn Evans Leisure and Activity Centre on Sundays from 1pm – 2pm
For age 60 and over:-
Waterworld Leisure and Activity Centre on Tuesdays from 11am – 12pm
Chirk Leisure and Activity Centre on Fridays from 12pm – 1pm
Gwyn Evans Leisure and Activity Centre on Thursdays from 3pm – 4pm
You will need to bring ID which proves that you live in Wales (with your name and address on), to show to the reception staff.
For more information contact Freedom Leisure centres.
Sam Rowlands AS yn cefnogi sesiynau nofio am ddim i’r rhai dan 16 oed a thros 60 oed
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn annog trigolion i fanteisio ar sesiynau nofio am ddim yn Wrecsam.
Meddai:
Rwy'n falch o hyrwyddo'r fenter hon sy'n cynnig sesiynau nofio am ddim i helpu’r rhai dan 16 oed a thros 60 oed i gadw'n heini.
Mae ceisio cadw'n heini yn bwysicach nag erioed bellach, ac mae'n wych gweld y cynnig hwn ar gael mewn tair canolfan hamdden ledled sir Wrecsam.
Mae nofio yn ffordd wych o gadw'n heini a byddwn yn annog y rhai sy'n gymwys i gofrestru a bod yn egnïol.
Os ydych chi'n 16 oed neu’n iau, neu'n 60 oed neu'n hŷn, a'ch bod yn byw yng Nghymru, yna rydych chi'n gymwys i elwa ar y sesiynau hyn. Mae'r rhain yn sesiynau agored, heb arweiniad i unrhyw un sy'n gymwys ac i'r rhai sy'n gallu nofio eisoes.
Dywedodd Richard Milne, rheolwr ardal,
Yn Freedom Leisure rydyn ni’n falch iawn o allu cefnogi'r fenter hon ar draws ein holl byllau nofio yn Wrecsam.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld mwy o'n cymuned leol yn cadw'n heini a mwynhau ein cyfleusterau gwych ar draws y fwrdeistref.
Cynhelir y sesiynau bob wythnos o'r flwyddyn, gan gynnwys yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae'r sesiynau i rai 16 oed ac iau ar gael yn:-
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Waterworld ar ddydd Sadwrn rhwng 3pm a 4pm
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun ar ddydd Sul rhwng 1pm a 2pm
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans ar ddydd Sul rhwng 1pm a 2pm
60 oed a throsodd:-
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Waterworld ar ddydd Mawrth rhwng 11am a 12pm
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau y Waun ar ddydd Gwener rhwng 12pm – 1pm
Canolfan Hamddden a Gweithgareddau Gwyn Evans ar ddydd Iau rhwng 3pm a 4pm
Cofiwch ddod â cherdyn adnabod (ID) sy'n profi eich bod yn byw yng Nghymru (gyda'ch enw a'ch cyfeiriad arno), i ddangos i staff y dderbynfa.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Freedom Leisure Centre.