Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on everyone to support a Farming Day of Unity on Saturday January 25.
Mr Rowlands, a keen supporter of farmers and the agricultural industry is urging the public to get behind farmers who are taking part in the #StopTheFamilyFarmTax campaign.
He said:
I fully support the very real concerns over the UK Labour Government’s tax raid on farming family businesses.
Farmers are unsung heroes and play a vital role in producing food for us all, working hard day in and day out to produce the nation’s food. They also help in other ways including nurturing the environment, boosting the Welsh economy and supporting tourism.
Labour’s attitude towards farmers, both in the UK and Welsh Governments, is very concerning and it is no surprise that farmers across the UK are protesting.
The Farming Day of Unity will bring together farmers from across the UK to participate in events in town centres to demonstrate visual support for the #StopTheFamilyFarmTax campaign and provide an opportunity for the public to add their local support.
This event will happen across Britain, from Shetland to Cornwall, and from the Giant’s Causeway to Kent.
It will show MPs and ministers clearly that agriculture across the whole of the UK is united in rejecting this policy.
The day of unity is a chance for farmers to come out and be seen, to make their voices heard, and to ensure the campaign stays in both the public and media’s minds.
Sam Rowlands AS yn annog pobl i gefnogi protest ffermio fawr
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn galw ar bawb i gefnogi Diwrnod Undod Ffermio ddydd Sadwrn, 25 Ionawr.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd i ffermwyr a'r diwydiant amaethyddol, yn annog y cyhoedd i gefnogi ffermwyr sy'n cymryd rhan yn ymgyrch #StopTheFamilyFarmTax.
Meddai:
Rwy'n llwyr gefnogi'r pryderon gwirioneddol am ymosodiad treth Llywodraeth Lafur y DU ar fusnesau teuluol sy'n ffermio.
Mae ffermwyr yn arwyr tawel ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gynhyrchu bwyd i ni i gyd, gan weithio'n galed o ddydd i ddydd i gynhyrchu bwyd i'r genedl. Maen nhw'n helpu mewn ffyrdd eraill hefyd gan gynnwys gwarchod yr amgylchedd, rhoi hwb i economi Cymru a chefnogi twristiaeth.
Mae agwedd Llafur tuag at ffermwyr, yn Llywodraethau'r DU a Chymru, yn peri pryder mawr ac nid yw'n syndod bod ffermwyr ar draws y DU yn protestio.
Bydd Diwrnod Undod Ffermio yn dod â ffermwyr o bob cwr o'r DU ynghyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau yng nghanol trefi, er mwyn dangos cefnogaeth weledol i'r ymgyrch #StopTheFamilyFarmTax a rhoi cyfle i'r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth ar lawr gwlad.
Cynhelir y digwyddiad ym mhob cwr o Brydain, o Shetland i Gernyw, o’r Giant's Causeway i Gaint.
Bydd yn dangos yn glir i Aelodau Seneddol a gweinidogion fod amaethyddiaeth ledled y DU gyfan yn unedig dros wrthod y polisi hwn.
Mae’r diwrnod undod yn gyfle i ffermwyr ddod allan a chael eu gweld, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, a bod yr ymgyrch yn aros ym meddyliau'r cyhoedd a'r cyfryngau.