Sam Rowlands MS for North Wales and Gareth Davies MS for the Vale of Clwyd have welcomed a new use of a shop in his region.
Denbighshire County Council, St David’s Hospice and Bryson Recycling have come together to open a charity shop at Rhyl’s recycling centre.
Mr Rowlands said:
I am a great supporter of recycling goods and unwanted items and I welcome this innovative idea.
It is good to see a shop opening where many perfectly reusable items, left as waste at our recycling centres, are being sold on for charity.
It is also good from an environment point of view as less things will be sent to landfills which of course benefits us all in the future. Praise must go to all three organisations for developing this pioneering idea.
Mr Davies said:
I think this is a wonderful initiative and great to see Denbighshire County Council and Bryson Recycling working together with St David’s Hospice for the benefit of local people and the charity.
We are all probably guilty of taking unwanted items to be recycled and I am delighted to see more use being made of things we throw away.
The shop aims to extend the life of reusable household items while raising donations for St David’s Hospice a very worthwhile charity which relies on public funding.
It will also reduce waste to landfill and help to increase Denbighshire County Council’s recycling rate.
Eric Randall, Director of Bryson Recycling said: “We are delighted to see the St David’s Hospice Reuse Shop now open at our site. We encourage anyone visiting our sites to choose to reuse, as it is even better than recycling. As a social enterprise we were keen to deliver a project like this that brings together all three strands of environmental, economic and social well-being”.
Margaret Hollings, Commercial Director of St David’s Hospice added “This is an excellent way to give unwanted items a new lease of life while helping us provide care for local adult patients with life limiting illnesses or those in need of end of life care, and their families”.
The shop is open seven days a week from 9am to 4.30pm (9am – 4pm from November to March) and from 9am – 3.30pm on Sundays.
Aelodau o’r Senedd y Gogledd yn canmol prosiect arloesol yn y Rhyl
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, a Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd, wedi croesawu defnydd newydd o siop yn y rhanbarth.
Mae Cyngor Sir Ddinbych, Hosbis Dewi Sant a Bryson Recycling wedi dod at ei gilydd i agor siop elusen yn y ganolfan ailgylchu yn y Rhyl.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n frwd o blaid ailgylchu nwyddau ac eitemau diangen ac rwy'n croesawu'r syniad arloesol hwn.
Mae'n braf gweld siop yn agor lle mae llawer o eitemau sy'n berffaith addas i'w hailddefnyddio, ond sydd wedi cael eu gadael fel gwastraff yn ein canolfannau ailgylchu, yn cael eu gwerthu ymlaen er budd elusen.
Mae hefyd yn dda o safbwynt yr amgylchedd gan y bydd llai o bethau'n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi sydd, wrth gwrs, o fudd i bawb yn y dyfodol. Rhaid canmol y tri sefydliad am ddatblygu'r syniad arloesol hwn.
Dywedodd Mr Davies:
Dwi'n meddwl bod hon yn fenter wych ac mae'n braf gweld Cyngor Sir Ddinbych a Bryson Recycling yn cydweithio â Hosbis Dewi Sant er lles pobl leol a'r elusen.
Mae'n debyg ein bod ni i gyd yn euog o fynd ag eitemau diangen i'w hailgylchu ac rwy'n falch iawn o weld mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o bethau rydym ni'n eu lluchio i ffwrdd.
Nod y siop yw ymestyn oes eitemau cartref y mae modd eu hailddefnyddio a chodi arian i Hosbis Dewi Sant yr un pryd - elusen werth chweil sy'n dibynnu ar arian cyhoeddus.
Bydd hefyd yn lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi ac yn helpu i gynyddu cyfradd ailgylchu Cyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd Eric Randall, Cyfarwyddwr Bryson Recycling: “Rydyn ni'n yn falch iawn o weld Siop Ailddefnyddio Hosbis Dewi Sant bellach ar agor ar ein safle. Rydym yn annog unrhyw un sy'n ymweld â'n safleoedd i ddewis ailddefnyddio, gan ei fod hyd yn oed yn well nag ailgylchu. Fel menter gymdeithasol roeddem yn awyddus i gyflwyno prosiect fel hwn sy'n dod â lles amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol at ei gilydd”.
Ychwanegodd Margaret Hollings, Cyfarwyddwr Masnachol Hosbis Dewi Sant "Mae'n ffordd wych o roi bywyd newydd i eitemau diangen a'n helpu i ddarparu gofal i gleifion lleol â salwch sy'n cyfyngu ar eu bywydau neu'r rhai sydd angen gofal diwedd oes, a'u teuluoedd”.
Mae'r siop ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 4.30pm (9am – 4pm rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth) a rhwng 9am a 3.30pm ar ddydd Sul.