Speaking during a session of Local Government questions in the Welsh Parliament, Shadow Local Government Minister Sam Rowlands slammed the former Deputy Leader of Plaid Cymru-led Anglesey Council.
Sam said:
I've spoken before about the issues around abuse of politicians, in particular councillors serving in local government. Minister, you will be aware that yesterday it was reported that the deputy leader of Anglesey council has said that, and I quote, 'All Tories should be shot.'
We'll all be aware, of course, that, in the UK over the last seven years, two MPs have been murdered in their role as parliamentarians—one Labour and one Conservative. This is real, literal violence, and any attempt to incite violence like that, in my view, should be met with the strongest condemnation. The language that Ieuan Williams used, I would say, is obscene and creates a foul atmosphere around our politics, especially from somebody in a leadership position, who has now stood down, as I say, as deputy leader of Anglesey Council. Of course, this isn't the first time in recent months that a councillor has done this. We heard earlier this year of a Caerphilly Plaid Cymru councillor posing with a gun and posting about shooting English people.
Commenting afterwards, Sam said:
The comments made by the Deputy Leader of Anglesey Council who said “All Tories should be shot”, are disgraceful. They bring shame upon Anglesey Council, and it is deeply troubling that someone in such a privileged position would use it to fuel hate and violence. This is especially alarming when Anglesey’s MP, Virginia Crosbie, has commented on having to wear a stab proof vest at times in her role. The former deputy leader’s comments could not be more deplorable.
The disgraced ex-deputy leader's statement about stepping down temporarily during the investigation implies that he has not fully ruled out a return to office. Such a possibility would be obscene in light of his appalling remarks.
Sylwadau a wnaed gan gyn-Ddirprwy Arweinydd Cyngor Ynys Môn yn warthus
Wrth siarad yn ystod sesiwn o gwestiynau Llywodraeth Leol yn y Senedd, beirniadodd Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands, gyn-Ddirprwy Arweinydd Cyngor Ynys Môn dan arweiniad Plaid Cymru.
Dywedodd Sam:
Rydw i wedi siarad o'r blaen am faterion yn ymwneud â cham-drin gwleidyddion, yn enwedig cynghorwyr sy'n gwasanaethu mewn llywodraeth leol. Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad a ddaeth i'r amlwg ddoe bod dirprwy arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, 'All Tories should be shot.'
Fe fyddwn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, dros y saith mlynedd diwethaf, fod dau AS yn y DU wedi cael eu llofruddio yn eu rôl fel seneddwyr — un yn aelod o’r Blaid Lafur a’r llall yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Mae'r achosion hyn yn achosion o drais gwirioneddol, yn llythrennol, a dylai unrhyw ymgais i annog trais o'r fath gael ei feirniadu'n gryf. Mae'r iaith a ddefnyddiodd Ieuan Williams yn anweddus yn fy marn i ac yn creu awyrgylch aflan yn y byd gwleidyddol, yn enwedig gan rywun mewn swydd arwain sydd bellach wedi camu i lawr fel dirprwy arweinydd Cyngor Ynys Môn. Wrth gwrs, nid dyma'r tro cyntaf i gynghorydd wneud hyn dros y misoedd diwethaf. Fe glywsom ni yn gynharach eleni am gynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerffili yn sefyll gyda dryll er mwyn cael tynnu ei lun ac yn postio negeseuon am saethu Saeson.
Wrth sôn am hynny, dywedodd Sam:
Mae'r sylwadau a wnaed gan Ddirprwy Arweinydd Cyngor Môn a ddywedodd "All Tories should be shot" yn warthus. Maen nhw'n dod â chywilydd ar Gyngor Môn, ac mae'n fater o ofid mawr y byddai rhywun mewn sefyllfa mor freintiedig yn defnyddio iaith o'r fath i danio casineb a thrais. Mae hyn yn arbennig o frawychus, gydag AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, yn dweud yn ddiweddar ei bod yn gwisgo fest gwrth-drywanu weithiau wrth wneud ei gwaith. Ni allai sylwadau'r cyn-ddirprwy arweinydd fod yn waeth.
Mae datganiad y cyn-ddirprwy arweinydd am y ffaith ei fod yn camu i lawr dros dro tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo yn awgrymu nad yw wedi diystyru dychwelyd i'w swydd. Byddai posibilrwydd o'r fath yn hollol amhriodol o ystyried ei sylwadau echrydus.