Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, and Ynys Môn MP, Virginia Crosbie have both hit out at the ludicrous proposal.
Earlier this week, Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government in the Welsh Parliament and harsh critic of the looming proposal urged Welsh Government to immediately call a halt to controversial plans to introduce the 20mph default speed limit later this month.
He said:
Councils all over North Wales are struggling to cope with this ridiculous and bonkers idea. Some towns and villages have both 20mph and 30mph signs up. The whole implementation is a complete shambles.
I have heard that the new 20mph will not even be monitored as we all know that it be a complete failure and yet another vanity project gone wrong funded by the Welsh Labour Government.
Anglesey is a major tourist attraction for visitors but just how many will come here to drive around at 20mph, causing more pollution with cars driving for longer in a lower gear; more accidents as cars and bicycles are more likely to share the same road space for longer and more delays as traffic becomes congested and everyone drives slower.
I am sure many people will agree 20mph speed limits outside schools, hospital and other roads where there is clear evidence that lower speed limits are backed by the local community but not as a blanket approach and on arterial roads.
Recently we heard from a retained firefighter and an Assistant Chief Constable who have both said the new speed limit will have an impact yet these concerns fall on deaf ears. I just cannot believe Welsh Government are still refusing to listen to concerns about this ludicrous and bonkers idea.
Virginia Crosbie said:
I have been inundated with emails from concerned residents and those working on the island and I really am extremely concerned this will affect an awful lot of people.
Even the Welsh Government's own analysis points to a potential £4.5bn hit to the Welsh economy through this blanket speed limit.
And the fact it is costing over £30m to implement at a time when the council is being forced to cut bus services because of funding just makes the whole thing look ludicrous.
Like, my colleague, Sam Rowlands, I am not against 20mph outside hospitals and schools or roads where there is clear evidence that lower speed limits are backed by the local community, but not as a blanket approach on arterial roads.
I urge the Welsh Labour Government to think again but I am not holding my breath. It has a habit of not listening to the electorate, especially here in North Wales.
Mae cyflwyno'r terfyn cyflymder dadleuol o 20mya ar Ynys Môn wedi cythruddo gwleidyddion
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, ac AS Ynys Môn, Virginia Crosbie ill dau wedi beirniadu’r cynnig chwerthinllyd.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid yn y Senedd ac un sydd wedi beirniadu’r cynnig yn llym, bwyso ar Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar unwaith ar gynlluniau dadleuol i gyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol yn ddiweddarach y mis hwn.
Meddai:
Mae cynghorau ledled y Gogledd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r syniad chwerthinllyd a hurt hwn. Mae gan rai trefi a phentrefi arwyddion 20mya a 30mya. Mae'r holl broses yn draed moch llwyr.
Rwyf wedi clywed na fydd y cyfyngiad 20mya newydd yn cael ei fonitro hyd yn oed gan ein bod i gyd yn gwybod ei fod yn fethiant llwyr ac eto dyma brosiect hurt arall sydd wedi methu, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Mae Ynys Môn yn atyniad mawr i dwristiaid ond faint yn union fydd yn dod yma i yrru o gwmpas ar gyflymder o 20mya, gan achosi mwy o lygredd gyda cheir yn gyrru am gyfnod hirach mewn gêr is; bydd mwy o ddamweiniau gan fod ceir a beiciau’n fwy tebygol o rannu'r un lle ar y ffordd am fwy o amser a mwy o oedi wrth i draffig gynyddu, a phawb yn gyrru'n arafach.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn cytuno ar derfynau cyflymder 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai a ffyrdd eraill lle mae tystiolaeth glir bod cyfyngiadau cyflymder is yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol ond nid fel dull cyffredinol ac ar briffyrdd.
Clywsom yn ddiweddar gan ddiffoddwr tân a Phrif Gwnstabl Cynorthwyol sydd ill dau wedi dweud y bydd y terfyn cyflymder newydd yn cael effaith, ond eto mae'r pryderon hyn yn cael eu hanwybyddu. Ni allaf gredu bod Llywodraeth Cymru’n dal i wrthod gwrando ar bryderon am y syniad chwerthinllyd a hurt hwn.
Meddai Virginia Crosbie:
Rydw i wedi derbyn pentyrrau o e-byst gan breswylwyr pryderus a'r rhai sy'n gweithio ar yr ynys ac rwy'n bryderus iawn y bydd hyn yn effeithio ar lawer iawn o bobl.
Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun hyd yn oed yn tynnu sylw at ergyd bosibl o £4.5bn i economi Cymru yn sgil y terfyn cyflymder cyffredinol hwn.
Ac mae'r ffaith ei fod yn costio dros £30m i'w weithredu ar adeg pan mae'r cyngor yn cael ei orfodi i dorri gwasanaethau bysiau oherwydd cyllid yn gwneud i'r holl beth edrych yn hurt bost.
Fel, fy nghydweithiwr, Sam Rowlands, nid wyf yn erbyn 20mya y tu allan i ysbytai ac ysgolion neu ffyrdd lle mae tystiolaeth glir bod cyfyngiadau cyflymder is yn cael eu cefnogi gan y gymuned leol, ond nid fel dull cyffredinol ar briffyrdd.
Rwy'n pwyso ar Lywodraeth Lafur Cymru i ailystyried y mater ond go brin y bydd yn gwrando. Mae ganddi duedd o beidio gwrando ar yr etholwyr, yn enwedig yma yn y Gogledd.