Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging constituents in Hawarden and Ewloe to have their say.
Mr Rowlands is sending out a survey to all residents living in those areas, asking for their views on what the Welsh Government’s priorities should be for North Wales.
Mr Rowlands said in the leaflet:
Since being elected to represent North Wales in the Welsh Parliament, I have been campaigning to boost investment and bring jobs to Deeside. I have been strongly challenging the Welsh Government to take action on the problems facing NHS services in our region, in addition to tackling their policies on introducing 20mph blanket speed limits and hiking the prices of meal deals!
This leaflet is an update on some of the issues I have been working on, Please don’t hesitate to get in touch if there is anything I can help you with.
Amont the issues highlighted in the leaflet is the controversial decision to enforce a blanket 20mph speed limit on our 30mph arterial roads despite overwhelming objections to the move. He also expresses concern over local NHS services in North Wales.
Mr Rowlands added:
I want to find out what people in Hawarden and Ewloe want to see as priorities for Welsh Government and judging by the initial responses I have already received it is certainly not a blanket 20mph speed limit, with almost 90% of respondents against this and the cancelling of new road building and improvements, which is almost 84%.
Although it is early days the survey is also showing that an overwhelming number of people, almost 98%, are against expanding the number of Senedd members and almost 80% strongly disagree about increasing the cost of meal deals.
I would urge all residents to please take the time to complete the survey and help me support what you want in the Welsh Parliament.
Sam Rowlands yn holi barn y cyhoedd ar beth ddylai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru fod ar gyfer Penarlâg ac Ewlo
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog etholwyr ym Mhenarlâg ac Ewlo i ddweud eu dweud.
Mae Mr Rowlands yn anfon arolwg at holl drigolion yr ardaloedd hynny, gan ofyn am eu barn ar beth ddylai gael y flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru yn y Gogledd-ddwyrain.
Meddai Mr Rowlands yn y daflen:
Ers cael fy ethol i gynrychioli'r Gogledd yn Senedd Cymru, dwi wedi bod yn ymgyrchu i hybu buddsoddiad a denu swyddi i Lannau Dyfrdwy. Dwi wedi bod yn herio Llywodraeth Cymru i weithredu ar y problemau sy'n wynebu gwasanaethau'r GIG yn ein rhanbarth, yn ogystal â mynd i'r afael â'u polisïau ar gyflwyno terfynau cyflymder cyffredinol o 20mya a chodi prisiau prydau bargen!
Mae'r daflen hon yn ddiweddariad ar rai o'r materion dwi wedi bod yn gweithio arnyn nhw - felly da chi, cysylltwch os alla i eich helpu gydag unrhyw beth.
Un o’r materion sy'n cael sylw yn y daflen yw'r penderfyniad dadleuol i orfodi terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar ein ffyrdd trefol prysur 30mya er gwaethaf gwrthwynebiadau llethol i'r cam hwn. Mae’n mynegi pryder am wasanaethau lleol y GIG yn y Gogledd hefyd.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Hoffwn wybod beth mae pobl Penarlâg ac Ewlo am ei weld fel blaenoriaethau i Lywodraeth Cymru, ac o ystyried yr ymatebion cychwynnol dwi wedi'u derbyn, nid y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol mohono - gyda bron i 90% o'r ymatebwyr yn erbyn hyn, a bron i 84% yn erbyn canslo gwaith adeiladu ffyrdd newydd a gwelliannau.
Er ei bod hi'n ddyddiau cynnar mae'r arolwg yn dangos hefyd bod nifer llethol o bobl, bron i 98%, yn erbyn ehangu nifer aelodau'r Senedd ac mae bron i 80% yn anghytuno'n gryf ynghylch cynyddu cost prydau bargen.
Byddwn yn annog pob preswylydd i neilltuo amser i gwblhau'r arolwg a'm helpu i gefnogi'r hyn rydych chi am ei weld yn digwydd yn Senedd Cymru.