Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for measures to strengthen and protect the tourism sector.
Mr Rowlands, Chairman of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism was speaking at an event sponsored by the Wales Tourism Alliance, which had representatives from all over Wales.
During his speech he highlighted the importance of the tourism sector in Wales and thanked partners for their continued support and interest.
He said:
It is clear there is a wide realisation of how important tourism is to the Welsh economy and the vital role it plays in job creation and retention
The tourism sector is one of the jewels in the Welsh crown, with the WTA estimating that the sector is responsible for supporting around 1 in 7 jobs in Wales. This is a huge part of this country’s economy.
You’ll all be aware of the various vigorous debates we have in the Senedd on tourism issues, and from my point of view it’s essential that we take measures to protect and strengthen the tourism sector
This Tourism Week is a perfect opportunity to celebrate everything that is good about the tourism in Wales. And there is so much that is good.
Earlier this week I visited some destinations in North Wales to celebrate the week, and I have to say that my favourite was the Penderyn Whisky Distillery and Visitor Centre in Llandudno which welcomes tourists and connoisseurs to visit and sample their wares. Penderyn really is a top-quality Welsh export.
The offer that this country has is world-class and distinctive from anywhere else on the face of the planet. Most nations would be green with envy at what Wales has from North to South, East to West.
I have recently been taking the opportunity to regale colleagues in the Chamber about the best that North Wales has to offer, from Snowdonia to the imposing medieval castles dotted around our land. In my part of the world we’ve also had Wrexham AFC’s promotion and documentary that’s been viewed around the world, and the odd sight of Americans wandering around Wrexham in their newly-purchased football shirts .
It is a great example of the blend of old and new in Wales, and decision makers here should do everything possible to seize those opportunities.
Sam Rowlands yn dathlu Wythnos Twristiaeth Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o'r Senedd dros y Gogledd, wedi galw am fesurau i gryfhau a gwarchod y sector twristiaeth.
Roedd Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth yn siarad mewn digwyddiad wedi'i noddi gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, oedd â chynrychiolwyr o bob cwr o'r wlad.
Yn ystod ei araith tynnodd sylw at bwysigrwydd y sector twristiaeth yma yng Nghymru a diolchodd i bartneriaid am eu cefnogaeth a'u diddordeb parhaus.
Meddai:
Mae'n amlwg bod yna ddealltwriaeth eang bellach o ba mor bwysig yw twristiaeth i economi Cymru a'i gyfraniad hollbwysig at greu swyddi a’u cadw.
Y sector twristiaeth yw un o berlau Cymru, gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru’n amcangyfrif bod y sector yn gyfrifol am gynnal tua 1 o bob 7 swydd yng Nghymru. Mae'n rhan enfawr o economi'r wlad.
Byddwch chi gyd yn ymwybodol o'r dadleuon a'r trafodaethau brwd a gawn yn y Senedd ar faterion twristiaeth, ac o'm safbwynt i, mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno mesurau i amddiffyn a chryfhau'r sector twristiaeth.
Mae'r Wythnos Dwristiaeth yn gyfle perffaith i ddathlu popeth sy'n dda am dwristiaeth yng Nghymru. Ac mae cymaint sy’n dda.
Yn gynharach yn yr wythnos, ymwelais â rhai o gyrchfannau'r Gogledd i ddathlu'r wythnos, ac mae'n rhaid dweud mai Distyllfa a Chanolfan Ymwelwyr Wisgi Penderyn yn Llandudno oedd fy ffefryn personol i, sy'n croesawu twristiaid a’r rhai sydd wrth eu bodd â wisgi i ymweld a blasu eu nwyddau. Heb os, mae Penderyn yn un o allforion gorau Cymru.
Mae'r arlwy sydd gennym fel gwlad o'r radd flaenaf ac yn unigryw, yn wahanol i unrhyw le arall ar wyneb daear. Byddai'r rhan fwyaf o wledydd yn genfigennus iawn o’r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig - o'r De i’r Gogledd, o’r Dwyrain i'r Gorllewin.
Yn ddiweddar, rwyf wedi achub ar y cyfle i ddweud wrth gydweithwyr yn y Siambr am y gorau sydd gan y Gogledd i'w gynnig, o Eryri i'r cestyll canoloesol mawreddog ar hyd a lled ein rhanbarth. Yn fy rhan i o'r byd, rydyn ni hefyd wedi cael dyrchafiad a rhaglen ddogfen clwb pêl-droed Wrecsam sydd wedi denu gwylwyr ym mhedwar ban byd ac arwain at weld ambell i Americanwr yn crwydro o amgylch Wrecsam yn eu crysau pêl-droed newydd sbon.
Mae'n enghraifft wych o'r cyfuniad o'r hen a'r newydd yng Nghymru, a dylai'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yma wneud popeth posibl i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.