Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is continuing to campaign against the unpopular introduction of the 20mph speed limit across North Wales.
Mr Rowlands, a harsh critic of the new legislation, was joined by fellow Conservative members of the Welsh Parliament, Darren Millar MS for Clwyd West and Gareth Davies, MS for the Vale of Clwyd.
The three politicians met with members of the Denbighshire say NO to default 20mph protest group in Pensarn as they set off in a convoy.
He said:
I was happy to show my support to highlight this extremely unpopular and unwarranted policy and absolutely amazed to hear that Denbighshire holds the record for the least number of exempted roads in Wales.
The Labour-led council is clearly not listening to public opinion and it is a real shame that local people have to resort to protesting to be heard.
This bonkers idea has led to a petition against its implementation signed by almost half a million people and yet ministers in Cardiff have totally disregarded this.
No one is against 20mph outside schools, hospitals and where there is a proven need but this barmy legislation continues to cause chaos, frustration and confusion across North Wales.
People are absolutely fed up of the continued hassle being caused by this extremely unpopular law. It needs to be scrapped immediately.
Sarah Jones, one of the organisers of the Denbighshire say NO to default 20mph thanked the politicians for turning up to support the protest.
She said:
Our second convoy on June 29 was in conjunction with Conwy County Residents say NO to Blanket 20 limits who also had a convoy on the same day.
Cars were decorated with bunting and posters with say no to 20.The convoy travelled from Pensarn through Towyn, Kinmel Bay, Rhyl, Prestatyn, Meliden and finished in Dyserth. We received lots of beeps and waves from other road users and lots of waves from pedestrians in support .We have now had two protests and two convoys and the reaction from the majority of the public has been very positive.
The consultation re road change requests is a farce. A lot of people think the majority of roads will revert back to 30mph following Ken Skates statement. The reality is totally different. The Welsh Government are not listening and I doubt in North Wales very little will change.
The Facebook group, Denbighshire say NO to default 20mph, is now urging people who live and run a business in the county to fight against the speed limit. They are calling for thoughts and ideas on action that can be taken to get the law rescinded.
Sam Rowlands yn ymuno â chonfoi protest yn erbyn y terfynau cyflymder cyffredinol 20mya yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn parhau i ymgyrchu yn erbyn cyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya amhoblogaidd ledled y Gogledd.
Ymunodd cyd-aelodau Ceidwadol Senedd Cymru, Darren Millar AS Gorllewin Clwyd a Gareth Davies, AS Dyffryn Clwyd, â Mr Rowlands sy’n feirniad hallt o’r ddeddfwriaeth newydd.
Fe wnaeth y tri gwleidydd gyfarfod ag aelodau o’r grŵp protest Denbighshire say NO to default 20mph ym Mhensarn wrth iddyn nhw gychwyn mewn confoi.
Meddai:
Roeddwn i'n hapus i ddangos fy nghefnogaeth i dynnu sylw at y polisi hynod amhoblogaidd a direswm hwn ac roeddwn i’n rhyfeddu o glywed mai Sir Ddinbych sy’n dal y record am y nifer lleiaf o ffyrdd wedi'u heithrio yng Nghymru.
Mae'n amlwg nad yw'r cyngor dan arweiniad Llafur yn gwrando ar farn y cyhoedd ac mae'n drueni mawr bod yn rhaid i bobl leol brotestio i gael eu clywed.
Mae'r syniad hurt hwn wedi arwain at ddeiseb yn erbyn ei weithredu wedi'i harwyddo gan bron i hanner miliwn o bobl ac eto mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi anwybyddu hyn yn llwyr.
Does neb yn erbyn 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai a lle mae angen amlwg ond mae'r ddeddfwriaeth wallgof hon yn parhau i achosi anhrefn, rhwystredigaeth a dryswch ledled y Gogledd.
Mae pobl wedi cael llond bol o'r trafferthion parhaus sy'n cael eu hachosi gan y gyfraith hynod amhoblogaidd hon. Mae angen cael gwared arni ar unwaith.
Diolchodd Sarah Jones, un o drefnwyr Denbighshire say NO to default 20mph i'r gwleidyddion am roi o’u hamser i gefnogi'r brotest.
Meddai:
Roedd ein hail gonfoi ar 29 Mehefin law yn llaw â Conwy County Residents say NO to Blanket 20 limits a oedd wedi trefnu confoi ar yr un diwrnod hefyd.
Roedd ceir wedi eu haddurno gyda baneri a phosteri Na i 20. Teithiodd y confoi o Bensarn trwy Dowyn, Bae Cinmel, y Rhyl, Prestatyn, Alltmelyd gan orffen yn Nyserth. Cawsom lawer o ganu corn gan ddefnyddwyr ffyrdd eraill a llawer o gefnogaeth gan gerddwyr. Rydyn ni wedi cael dwy brotest a dau gonfoi erbyn hyn ac mae'r ymateb gan y rhan fwyaf o'r cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Mae'r ymgynghoriad ar gynigion newid ffyrdd yn ffars. Mae llawer o bobl yn credu y bydd y rhan fwyaf o ffyrdd yn dychwelyd i 30mya yn dilyn datganiad Ken Skates. Mae'r realiti yn hollol wahanol. Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gwrando ac rwy'n amau mai ychydig iawn fydd yn newid yma yn y Gogledd.
Mae'r grŵp Facebook, Denbighshire say NO to default 20mph, yn annog pobl sy'n byw ac yn rhedeg busnes yn y sir i ymladd yn erbyn y terfyn cyflymder. Maen nhw’n galw am farn a syniadau ar gamau y gellir eu cymryd i ddiddymu'r gyfraith.