Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to have their say and help the police prioritise their neighbourhood policing activity.
The initiative, ‘North Wales Talking’, is aimed at understanding the crime and disorder concerns of local communities across North Wales, and is a key priority of North Wales Police Neighbourhood Policing Teams.
Mr Rowlands said:
I think it is a great idea to ask local people, who live and work in North Wales, what issues matter to them in their communities and to voice their concerns.
North Wales is one of the safest places to live, work and visit and I welcome any measures which will help to keep it that way.
Crime and disorder is not something we want to see on our streets and I urge everyone to take part in the survey.
The short survey asks people what it is like to live in their areas and what issues matter most to them in their community. There is also an opportunity to raise any concerns they may have.
Feedback received via North Wales Talking will enable Neighbourhood Policing Teams, together with partner agencies, to act on the information and tackle the issues raised that matter most to our communities. In doing so, you are given a voice in how Neighbourhood Policing activity is prioritised.
Please click here to complete the survey
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter bwysig sydd wedi’i lansio gan Heddlu Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i ddweud eu dweud a helpu'r heddlu i flaenoriaethu eu gweithgarwch plismona yn y gymdogaeth.
Nod y fenter, 'Gogledd Cymru’n Siarad', yw deall pryderon trosedd ac anhrefn cymunedau lleol ledled Gogledd Cymru, ac mae'n flaenoriaeth allweddol i Dimau Plismona yn y Gymdogaeth Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Mr Rowlands:
Dwi’n credu ei bod yn syniad gwych gofyn i bobl leol, sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru, pa faterion sy'n bwysig iddyn nhw yn eu cymunedau ac i leisio’u pryderon.
Gogledd Cymru yw un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef a dwi’n croesawu unrhyw fesurau a fydd yn helpu i'w gadw felly.
Dyw trosedd ac anhrefn ddim yn rhywbeth rydyn ni am eu gweld ar ein strydoedd a dwi’n annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg.
Mae'r arolwg byr yn gofyn i bobl sut brofiad yw byw yn eu hardaloedd a pha faterion sydd bwysicaf iddyn nhw yn eu cymuned. Mae cyfle hefyd i godi unrhyw bryderon a allai fod ganddyn nhw.
Bydd adborth a dderbynnir trwy Gogledd Cymru’n Siarad yn galluogi Timau Plismona yn y Gymdogaeth, ynghyd ag asiantaethau partner, i weithredu ar y wybodaeth a mynd i'r afael â'r materion a godwyd sydd bwysicaf i'n cymunedau. Wrth wneud hynny, rhoddir llais i chi yn y ffordd y caiff gweithgarwch Plismona yn y Gymdogaeth ei flaenoriaethu.