Sam Rowlands Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to support food and drink festivals across North Wales.
Mr Rowlands is urging the public to attend Mold, Wrexham and Llangollen food festivals over the next few weeks. Wrexham Feast being held in the city centre on September 23 and 24.
He said:
It is great to see the return of all the food festivals which were held across North Wales last year. Wrexham Feast, which is being held on September 23 and 24 was very popular and attracted hundreds of visitors from the Wrexham area and all over North Wales.
As we all know Wrexham is fast becoming a top tourist attraction in its own right and after playing host to a very successful stage of the Tour of Britain, recently, I am delighted to see the events are continuing to promote this vibrant city.
It also follows the highly successful two day Mold Food and Drink Festival which is being held in the town this weekend. With Llangollen Food Festival planned for next month.
It really is fantastic to see North Wales hosting so many festivals because it is a great opportunity not only to bring communities together but it gives local producers a chance to show their wares to the public and visitors alike.
I am a great supporter of these sort of events as they are also a great way to promote our towns as tourism destinations in North Wales.
As chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism, I believe they really do encourage more visitors into our towns who spend money to help the local economy.
Wrexham Feast will have all the usual attractions with plenty of different food and drink on offer to sample and live music and entertainment throughout both days. There will also be cookery demonstrations and vintage fairground attractions.
Wrexham Feast is being held on Waterworld carpark in the town centre with a wide array of food, drink, shopping, entertainment and live music, on September 23 and 24, starting at 10am.
The jam-packed weekend includes all things food and drink whether sampling a wide range of street food from around the world or enjoying browsing the Artisan makers, bakers and crafters and independent traders. There will also be live music on stage daily highlighting the talent of local artists.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiadau bwyd a diod sydd ar y gweill ar gyfer Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi gwyliau bwyd a diod ledled y Gogledd.
Mae Mr Rowlands yn annog y cyhoedd i fynychu gwyliau bwyd yr Wyddgrug, Wrecsam a Llangollen dros yr wythnosau nesaf. Cynhelir Gwledd Wrecsam yng nghanol y ddinas ar 23 a 24 Medi.
Meddai:
Roedd hi’n wych gweld yr holl wyliau bwyd a gynhaliwyd ledled y Gogledd yn dychwelyd y llynedd. Roedd Gwledd Wrecsam, sy'n cael ei chynnal ar 23 a 24 Medi yn boblogaidd iawn ac yn denu cannoedd o ymwelwyr o ardal Wrecsam a ledled Gogledd Cymru.
Fel y gwyddom i gyd, mae Wrecsam yn prysur ddatblygu’n atyniad twristaidd penigamp, ac ar ôl cynnal cymal llwyddiannus iawn o'r Tour of Britain yno yn ddiweddar, rwy'n falch iawn o weld bod y digwyddiadau'n parhau i hyrwyddo'r ddinas fywiog hon.
Mae hefyd yn dilyn Gŵyl Fwyd a Diod yr Wyddgrug, a gynhelir dros ddeuddydd yn y dref y penwythnos hwn. Mae Gŵyl Fwyd Llangollen ar y gweill y mis nesaf hefyd.
Gwych yw gweld y gogledd yn cynnal cymaint o wyliau oherwydd mae’n gyfle gwych nid yn unig i ddod â chymunedau at ei gilydd ond mae'n rhoi cyfle i gynhyrchwyr lleol ddangos eu nwyddau i'r cyhoedd ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Rwy'n gefnogwr brwd o'r math hwn o ddigwyddiadau gan eu bod hefyd yn ffordd wych o hyrwyddo ein trefi fel cyrchfannau twristiaeth yn y gogledd.
Fel cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dwristiaeth, rwy'n credu go iawn eu bod yn annog mwy o ymwelwyr i'n trefi sy'n gwario arian i helpu'r economi leol.
Bydd gan Gwledd Wrecsam yr holl atyniadau arferol gyda digon o fwyd a diod o bob math ar gael i’w blasu a cherddoriaeth ac adloniant byw i’w mwynhau gydol y ddau ddiwrnod. Bydd arddangosiadau coginio a ffair hen ffasiwn yno hefyd.
Cynhelir Gwledd Wrecsam ar faes parcio Waterworld yng nghanol y dref gyda gwledd o fwyd, diod, siopa, adloniant a cherddoriaeth fyw, ar 23 a 24 Medi, gyda’r cyfan yn dechrau am 10am.
Mae'r penwythnos llawn dop yn cynnwys bwyd a diod o bob math a bydd cyfle i samplu danteithion stryd o bedwar ban byd, a gweld pob math o nwyddau gan grefftwyr, pobyddion, arbenigwyr a masnachwyr annibynnol. Hefyd bydd cerddoriaeth fyw ar y llwyfan bob dydd gyda chyfle i artistiaid lleol serennu.