Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is supporting staff who are going the extra mile this month to raise vital funds for a charity.
Mr Rowlands is backing members of the health board’s Perinatal Mental Health Service team who are walking 165 miles to highlight the distance from their base in North Wales, to the country’s only specialist mental health mother and baby unit in Swansea.
He said:
I am delighted to support the team of walkers who work with new and expectant mums with mental health difficulties and wish them well in their fund raising endeavours.
The walkers will raise vital funds for Action on Postpartum Psychosis – a UK charity which supports women and their families through one of the most severe forms of perinatal mental illness.
It is a very worthwhile cause and I wish the team all the best for the final challenge when they hike up Moel Famau on Friday May 26.
Since 2021, BCUHB’s Perinatal Mental Health team has supported more than 1,000 women experiencing severe mental health problems such as postpartum psychosis; antenatal and postnatal depression and anxiety; maternal obsessive-compulsive disorder; severe attachment issues and birth trauma.
One in four women will experience mental health problems in the perinatal period and the vast majority of these will receive support in a community setting, without requiring admission to a mother and baby unit.
Deborah Griffin, Perinatal Service Manager, said:
Action on Postpartum Psychosis (APP) is a charity which is close to the hearts of all of our team, as we as a team see first-hand how devastating this condition can be for the expectant and new mums and families that we support.
The charity provides invaluable support to mums, parents and families affected by Postpartum Psychosis, and we really hope people will give generously to this very worthy cause.
Earlier this month, it was announced that a new specialist Mother and Baby will open at the Countess of Chester Hospital in 2024, supporting parents from North Wales, Cheshire and Merseyside.
The new purpose-built facility will significantly reduce travel times for parents from North Wales, who are currently offered admission to specialist units in Manchester, Chorley, Birmingham and Nottingham.
To sponsor BCUHB’s Perinatal Mental Health Service team or find out more about their charity challenge, please visit: https://www.justgiving.com/page/perinatalteambcuhb
Sam Rowlands AS yn cefnogi staff sy’n codi arian o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi staff sy'n mynd y filltir ychwanegol y mis hwn i godi arian hanfodol ar gyfer elusen.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi aelodau o dîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol y bwrdd iechyd sy'n cerdded 165 milltir i dynnu sylw at y pellter o'u canolfan yng Ngogledd Cymru, i unig uned mamau a babanod iechyd meddwl arbenigol y wlad yn Abertawe.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o gefnogi'r tîm o gerddwyr sy'n gweithio gyda mamau newydd a menywod beichiog gydag anawsterau iechyd meddwl ac yn dymuno'n dda iddyn nhw yn eu hymdrechion i godi arian.
Bydd y cerddwyr yn codi arian hanfodol ar gyfer Action on Postpartum Psychosis - elusen yn y DU sy'n cefnogi menywod a'u teuluoedd trwy un o'r mathau mwyaf difrifol o salwch meddwl amenedigol.
Mae'n achos gwerth chweil ac rwy'n dymuno'r gorau i'r tîm ar gyfer yr her derfynol pan fyddan nhw'n dringo Moel Famau ddydd Gwener 26 Mai.
Ers 2021, mae tîm Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC wedi cefnogi mwy na 1,000 o fenywod sy'n wynebu problemau iechyd meddwl difrifol fel seicosis ôl-enedigol; iselder a gorbryder cynenedigol ac ôl-enedigol; anhwylder gorfodaeth obsesiynol mamol; problemau ymlyniad difrifol a thrawma geni.
Bydd un o bob pedair menyw yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod amenedigol a bydd y mwyafrif helaeth yn derbyn cefnogaeth mewn lleoliad cymunedol, heb fod angen eu derbyn i uned mamau a babanod.
Dywedodd Deborah Griffin, Rheolwr y Gwasanaeth Amenedigol:
Mae Action on Postpartum Psychosis (APP) yn elusen sy'n agos at galonnau ein tîm i gyd, gan ein bod ni fel tîm yn gweld â’n llygaid ein hunain pa mor ddinistriol y gall y cyflwr hwn fod i'r mamau a'r teuluoedd newydd yr ydym yn eu cefnogi.
Mae'r elusen yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i famau, rhieni a theuluoedd y mae seicosis ôl-enedigol yn effeithio arnyn nhw, ac rydyn ni wir yn gobeithio y bydd pobl yn rhoi'n hael i'r achos teilwng iawn hwn.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd y bydd Uned Mamau a Babanod arbenigol newydd yn agor yn Ysbyty Iarlles Caer yn 2024, gan gefnogi rhieni o Ogledd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi.
Bydd y cyfleuster pwrpasol newydd yn lleihau amseroedd teithio yn sylweddol i rieni o Ogledd Cymru, sydd ar hyn o bryd yn cael cynnig mynediad i unedau arbenigol ym Manceinion, Chorley, Birmingham a Nottingham.
I noddi tîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC neu i gael gwybod mwy am eu her elusennol, ewch i: https://www.justgiving.com/page/perinatalteambcuhb