Sam Rowlands MS for North Wales has pledged to support a day-long event week to promote farming.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government is supporting ’24 Hours in Farming’, from 5am on August 4 to 5am August 5, run by leading agricultural magazine Farmers Guardian and sponsored by supermarket giant, Morrisons.
The event, which has been running since 2015, is one of agriculture’s biggest digital events and invites people working in the industry, to take to social media platforms to showcase the work they do on a normal day.
Mr Rowlands said:
I am delighted once again to support this very worthwhile event. It is a great way of showing members of the general public the passion and commitment it takes to produce the food we eat.
I really cannot speak highly enough about the work our farmers carry out every day and this is a wonderful opportunity, through social media, for them to share a day in their lives.
As we continue to recover from the pandemic it is vitally important people realise what an enormous amount of sheer hard work and effort goes in both to producing the food we eat and protecting our countryside
This online, event is an ideal chance to showcase what farmers do, day in and day out, to bring us all the range and quality of produce we want.
I am happy to give my backing and call on fellow MSs and constituents to back the initiative and show their support for the farming industry.
‘24 Hours in Farming’ is the agricultural industry’s biggest online event with an audience of more than 112 million.
Each year farmers are encouraged to take to social media for one day to post pictures, videos and text to show and explain the work they are doing that day. The aim is to show consumers the vast extent of the effort and care which goes into producing the food they eat.
Farmers and supporters can post on any platform using the hashtag #Farm24 and are encouraged to post numerous times through the day with updates about what they are doing.
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter i dynnu sylw at waith ffermwyr
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, wedi addo ei gefnogaeth i ddigwyddiad undydd i hyrwyddo ffermio.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn cefnogi ‘24 Hours in Farming’, o 5am ar 4 Awst i 5am 5 Awst, a gynhelir gan y cylchgrawn amaethyddol blaenllaw Farmers Guradian a’i noddi gan yr archfarchnad, Morrisons.
Mae’r digwyddiad, sydd wedi’i gynnal ers 2015, yn un o ddigwyddiadau digidol mwyaf y byd amaeth ac mae’n gwahodd pobl sy’n gweithio yn y diwydiant, i fynd ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol i arddangos y gwaith y maen nhw’n ei wneud ar ddiwrnod nodweddiadol.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy’n falch iawn unwaith eto i gefnogi’r digwyddiad gwerth chweil hwn. Mae’n ffordd wych o ddangos i aelodau’r cyhoedd yr angerdd a’r ymrwymiad sydd eu hangen i gynhyrchu’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
Allai ddim canmol digon ar y gwaith mae ffermwyr yn ei wneud bob dydd a dyma gyfle gwych, drwy’r cyfryngau cymdeithasol, iddyn nhw rannu diwrnod yn eu bywydau.
Wrth i ni barhau i ddod dros y pandemig, mae’n hollbwysig ein bod yn sylweddoli cymaint o waith ac ymdrech sy’n mynd i gynhyrchu’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta ac i warchod cefn gwlad.
Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn gyfle gwych i arddangos yr hyn y mae ffermwyr yn ei wneud, o ddydd i ddydd, i ddod â chynnyrch amrywiol ac o ansawdd i ni.
Rwy’n falch o gael cefnogi ac rwy’n galw ar Aelodau eraill o’r Senedd ac etholwyr i gefnogi’r fenter a dangos eu cefnogaeth i’r diwydiant ffermio.
‘24 Hours in Farming’ yw digwyddiad ar-lein mwyaf y diwydiant amaethyddol, gyda chynulleidfa o fwy na 112 miliwn.
Bob blwyddyn, anogir ffermwyr i fynd ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiwrnod i bostio lluniau, fideos a thestun yn dangos ac yn egluro’r gwaith y maen nhw’n ei wneud ar y diwrnod hwnnw. Y nod yw dangos i gwsmeriaid hyd a lled yr ymdrech a’r gofal sydd eu hangen i gynhyrchu’r bwyd sydd ar ein platiau.
Gall ffermwyr a chefnogwyr bostio ar unrhyw blatfform gan ddefnyddio’r hashnod #Farm24 ac fe’u hanogir i bostio sawl gwaith gydol y dydd gan roi diweddariadau ar yr hyn maen nhw’n ei wneud.