Sam Rowlands Member of the Welsh Parliament for North Wales is calling on his constituents to support a food and drink festival in North Wales this weekend.
Mr Rowlands is urging the public to attend Llangollen Food Festival which is being held in a variety of venues around the town on Saturday and Sunday October 14 and 15 between 10am-4pm.
He said:
I am always happy to promote this popular event which attracts thousands of visitors from all over North Wales and across the UK.
This year’s festival will have all the usual attractions for foodie lovers with plenty of home-grown Welsh artisan delicacies on offer to sample and buy.
Live music and entertainment will be provided by local bands and choirs throughout both days the day In the town square making it a real family affair and well worth a visit.
For more than 25 years, Llangollen Food Festival has been a beacon for food producers across North Wales and Border region.
From the start, organisers have introduced great food producers to a hungry audience and over one weekend every October, they have welcomed cheese makers, pork pie producers, vintners, chocolatiers and much, much more, which may be why they were voted one of the Top 10 Food Festivals in the UK by The Guardian. It is run entirely by volunteers, who are passionate about food, particularly when it’s made by fantastic local producers.
The Llangollen Food Festival is being held at venues around the town centre with a wide array of food, drink, shopping, entertainment and live music. The main locations are The Llangollen Railway Station, The Town Hall, Centenary Square and Gales Wine Bar.
For more information go to https://llangollenfoodfestival.com/
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad bwyd blaenllaw yn Llangollen
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi gŵyl fwyd a diod yng ngogledd Cymru y penwythnos hwn.
Mae Mr Rowlands yn annog y cyhoedd i fynychu Gŵyl Fwyd Llangollen sy’n cael ei chynnal mewn nifer o leoliadau o amgylch y dref ddydd Sadwrn a dydd Sul Hydref 14 a 15 rhwng 10am a 4pm.
Dywedodd:
Rwyf bob amser yn hapus i hyrwyddo’r digwyddiad poblogaidd hwn sy’n denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o ogledd Cymru ac ar draws y DU.
Bydd gan ŵyl eleni yr holl atyniadau arferol ar gyfer pobl sy’n hoff o fwydydd gyda digon o ddanteithion crefftus Cymreig cynhenid ar gael i’w blasu a’u prynu.
Bydd cerddoriaeth fyw ac adloniant yn cael eu darparu gan fandiau a chorau lleol drwy gydol y ddau ddiwrnod ar sgwâr y dref, gan ei wneud yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan sy’n werth ymweliad.
Ers dros 25 mlynedd, mae Gŵyl Fwyd Llangollen wedi cynnig llwyfan i gynhyrchwyr bwyd o ogledd Cymru a’r Gororau.
O’r cychwyn cyntaf, mae’r trefnwyr wedi cyflwyno cynhyrchwyr bwyd gwych i gynulleidfa lwglyd. Yn ystod un penwythnos bob mis Hydref, maen nhw wedi croesawu gwneuthurwyr caws, cynhyrchwyr pasteiod porc, gwneuthurwyr gwin, gwneuthurwyr siocled a llawer iawn mwy, a dyna pam mae’r ŵyl wedi ei henw ymhlith y 10 gŵyl fwyd orau yn y DU ganThe Guardian. Mae’n cael ei threfnu’n gyfan gwbl gan wirfoddolwyr, sy’n angerddol am fwyd, yn enwedig bwyd sydd wedi’i wneud gan gynhyrchwyr lleol gwych.
Mae Gŵyl Fwyd Llangollen yn cael ei chynnal mewn lleoliadau o amgylch canol y dref gydag dewis eang o fwyd, diod, siopa, adloniant a cherddoriaeth fyw. Y prif leoliadau yw Gorsaf Reilffordd Llangollen, Neuadd y Dref, y Sgwâr Canmlwyddiant a bar gwin Gales.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://llangollenfoodfestival.com/