Sam Rowlands, Member of Welsh Parliament for North Wales is calling on his constituents to support a national campaign to eat more lamb.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a very keen supporter of the agriculture industry is backing Love Lamb Week 2023 which runs from September 1-7.
He said:
I am a keen consumer of Welsh lamb and delighted to back this industry-wide initiative. There are some delicious recipes out there for this tasty and nutritious meat so I urge everyone to be adventurous and give them a try.
It is a well- known fact that Welsh lamb is regarded as the best and is exported all over the world.
I am a great supporter of Welsh farmers and the quality of the food they produce and this week gives the industry the opportunity to highlight this delicious meat and encourage more people to buy lamb.
Love Lamb Week 2023, Agriculture and Horticulture Development Board’s, AHDB, lamb marketing campaign, returns for another industry celebration of British lamb.
The campaign aims to highlight on the sustainability of UK sheep production while also reminding consumers of the exceptional taste and quality that UK lamb brings to the dinner table.
Now in its ninth year, Love Lamb Week has grown to become an industry-wide initiative which the NFU has supported along with the National Sheep Association, NSA, AHDB, Red Tractor, the Ulster Farmers’ Union and meat promotion bodies, HCC in Wales, LMC in Northern Ireland and Quality Meat Scotland.
Love Lamb Week started back in 2015 to promote and highlight the passion and dedication farmers give day after day to ensure we have the tastiest lamb on our plates.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Wythnos Caru Cig Oen
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gefnogi ymgyrch genedlaethol i fwyta mwy o gig oen.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chefnogwr brwd iawn i'r diwydiant amaeth yn cefnogi Wythnos Caru Cig Oen 2023 rhwng 1-7 Medi.
Meddai:
Rwyf wrth fy modd yn defnyddio cig oen Cymru ac yn falch iawn o gefnogi'r fenter hon ledled y diwydiant. Mae yna ryseitiau blasus ar gael ar gyfer y cig blasus a maethlon hwn felly rwy'n annog pawb i fentro a rhoi cynnig arnyn nhw.
Mae'n ffaith adnabyddus bod cig oen Cymru yn cael ei ystyried fel y cig oen gorau ac mae’n cael ei allforio bedwar ban byd.
Rwy'n cefnogi ffermwyr Cymru i’r carn ac ansawdd y bwyd maen nhw'n ei gynhyrchu ac mae'r wythnos hon yn gyfle i'r diwydiant dynnu sylw at y cig blasus hwn ac annog mwy o bobl i brynu cig oen.
Mae Wythnos Caru Cig Oen 2023, sef ymgyrch marchnata cig oen y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, yn dychwelyd ar gyfer dathliad arall o ddiwydiant cig oen Prydain.
Nod yr ymgyrch yw tynnu sylw at gynaliadwyedd cynhyrchu defaid yn y DU tra hefyd yn atgoffa defnyddwyr o flas ac ansawdd eithriadol cig oen y DU.
Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae’r Wythnos Caru Cig Oen wedi tyfu i fod yn fenter ledled y diwydiant a gefnogir gan yr NFU ynghyd â'r Gymdeithas Defaid Genedlaethol, NSA, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, Tractor Coch, Undeb Amaethwyr Ulster a chyrff hybu cig, Hybu Cig Cymru, LMC yng Ngogledd Iwerddon a Quality Meat Scotland.
Dechreuodd yr Wythnos Caru Cig Oen yn ôl yn 2015 i hyrwyddo a thynnu sylw at angerdd ac ymroddiad ffermwyr ddydd ar ôl dydd i sicrhau bod gennym ni gig oen blasus ar ein platiau.