Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to have their say on new signage to help promote a popular tourist town in his region.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and a keen supporter of public participation in council decisions said:
I think it is an excellent idea to let people who live, work and visit Llangollen, to have their say on new signage which is going to be installed in the town as part of a Denbighshire County Council project to improve the 4 Great Highways.
I am delighted to see the project, in the Clwyd South constituency, coming to fruition thanks to funding from Round 1 of the UK Government’s Levelling Up Fund and a joint application for money from Denbighshire County Council and Wrexham County Borough Council.
It is great to see investment in this popular tourist destination which can only enhance and improve the area for local people and visitors alike. It is also good to see how the Levelling Up Fund is delivering for people in North Wales.
The 4 Great Highways project is funded by LUF and aims to enhance the landscape and upgrade accessibility, interpretation, and signage in Llangollen to help improve the resident and visitor experience and encourage people to spend more time in the town.
The tendering process is currently underway to find a contractor to complete the works associated with this project, the deadline for which has been extended to September 13.
The Council is now seeking feedback from the public on the potential design options for the signage that is due to be installed as part of the project.
The public have the opportunity to share views on the design options online via the Council’s County Conversation’s portal as well as by contacting the team direct through emailing [email protected].
There will also be a public display of the design options at Llangollen Library from Wednesday, September 6 until Friday, October 7 where people can drop-in and provide their feedback via questionnaire.
Denbighshire County Council’s County Conversation’s portal can be accessed here: https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/KMS/DMart.aspx
Sam Rowlands AS o blaid cyfranogiad y cyhoedd mewn arwyddion newydd ar gyfer Llangollen
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i ddweud eu dweud ar arwyddion newydd i helpu i hyrwyddo tref dwristaidd boblogaidd yn ei ranbarth.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a chefnogwr brwd o blaid cyfranogiad y cyhoedd ym mhenderfyniadau'r cyngor:
Rwy'n credu ei bod yn syniad gwych gadael i bobl sy'n byw, gweithio ac ymweld â Llangollen ddweud eu dweud ar arwyddion newydd a fydd yn cael eu gosod yn y dref fel rhan o brosiect Cyngor Sir Ddinbych i wella y Pedair Priffordd Fawr.
Rwy'n falch iawn o weld y prosiect, yn etholaeth De Clwyd, yn dwyn ffrwyth diolch i gyllid gan Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a chais ar y cyd am arian gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae'n wych gweld buddsoddiad yn y gyrchfan boblogaidd hon i dwristiaid a fydd yn sicr yn mireinio a gwella'r ardal ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae hefyd yn dda gweld sut mae'r Gronfa Ffyniant Bro yn cyflawni ar gyfer pobl yng Ngogledd Cymru.
Mae'r prosiect Pedair Priffordd Fawr yn cael ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Bro a'i nod yw gwella'r dirwedd ac uwchraddio hygyrchedd, gwaith dehongli ac arwyddion yn Llangollen i helpu i wella profiad preswylwyr ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yn y dref.
Mae'r broses dendro ar y gweill ar hyn o bryd i ddod o hyd i gontractwr i gwblhau'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn, ac mae'r dyddiad cau ar ei gyfer wedi'i ymestyn hyd at 13 Medi.
Mae'r Cyngor nawr yn gofyn am adborth gan y cyhoedd ar yr opsiynau dylunio posibl ar gyfer yr arwyddion sydd i fod i gael eu gosod fel rhan o'r prosiect.
Mae cyfle gan y cyhoedd i rannu barn ar yr opsiynau dylunio ar-lein drwy borth Sgwrs y Sir y Cyngor yn ogystal â thrwy gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol drwy anfon e-bost [email protected].
Bydd hefyd arddangosfa gyhoeddus o'r opsiynau dylunio yn Llyfrgell Llangollen o ddydd Mercher, 6 Medi tan ddydd Gwener, 7 Hydref lle gall pobl alw heibio a rhoi eu hadborth drwy holiadur.
Gellir cyrchu porth Sgwrs y Sir Cyngor Sir Ddinbych yma: https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/KMS/news.aspx?LoggingIn=tempVar&strTab=Home