Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to sign up to make a difference in the community.
North Wales Police are currently accepting applications for Special Constables and Mr Rowlands, a keen supporter of the police, is urging those interested to apply.
He said:
I am a great believer in voluntary work and by becoming a Special Constable you can make a real difference in your community.
It is an exciting and very rewarding job and a wonderful way of spending your free time helping the police to help others.
Apart from learning new skills and gaining confidence it is also a good way of finding out more about a career in the police force.
If you enjoy a challenge, solving problems and would like to contribute to keeping your community safe, whilst developing a wider range of skills, then volunteering in policing could be for you.
You will be expected to volunteer around 200 hours a year, which is approximately 16 hours per month. You’ll need to attend the initial police training course, and once your training is complete, you’ll buddy up with more experienced officers to develop your skills and gain Independent Patrol Status. This means you’ll be competent in the basics of policing and have the same powers as regular police officers.
Joining the Volunteer (Specials) Constabulary opens up a whole new world of opportunities like no other. As a Volunteer Constable, you’ll discover loads about your local community and help make a positive impact. You’ll get involved with local policing initiatives, make new friends, work as a team and develop the skills you already possess.
Applications for the role of Special Constable will close on June 20. For more information and to apply go to https://www.northwales.police.uk/police-forces/north-wales-police/areas/careers/careers/special-constable/
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwad recriwtio am Gwnstabliaid Arbennig yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar ei etholwyr i gofrestru i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Ar hyn o bryd mae Heddlu Gogledd Cymru’n derbyn ceisiadau am Gwnstabliaid Arbennig ac mae Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd yr heddlu, yn annog y rhai sydd â diddordeb i wneud cais.
Meddai:
Rwy’n credu’n gryf mewn gwaith gwirfoddol a thrwy ddod yn Gwnstabl Arbennig gallwch wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned.
Mae’n waith cyffrous a gwerth chweil ac yn ffordd wych o dreulio’ch amser rhydd yn helpu’r heddlu i helpu eraill.
Ar wahân i ddysgu sgiliau newydd a magu hyder, mae’n ffordd dda o ddarganfod mwy am yrfa yn yr heddlu hefyd.
Os ydych chi’n mwynhau her, datrys problemau ac eisiau cyfrannu at gadw’ch cymuned yn ddiogel, wrth ddatblygu mwy o sgiliau amrywiol, yna gallai gwirfoddoli i blismona fod yn addas i chi.
Bydd disgwyl i chi wirfoddoli tua 200 awr y flwyddyn, sef tua 16 awr y mis. Bydd angen i chi fynychu’r cwrs hyfforddi cychwynnol gan yr heddlu, ac unwaith y bydd eich hyfforddiant wedi’i gwblhau, byddwch yn gweithio gyda swyddogion mwy profiadol i ddatblygu’ch sgiliau ac ennill Statws Patrol Annibynnol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gymwys i gyflawni hanfodion plismona a bydd yr un pwerau gennych chi â swyddogion rheolaidd yr heddlu.
Mae ymuno â’r Cwnstabliaid Gwirfoddol (Specials) yn agor byd newydd sbon o gyfleoedd heb eu tebyg. Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn darganfod llawer am eich cymuned leol ac yn helpu i gael effaith gadarnhaol. Byddwch yn cymryd rhan mewn mentrau plismona lleol, gwneud ffrindiau newydd, yn gweithio fel tîm ac yn datblygu’r sgiliau sydd gennych chi eisoes.
Bydd ceisiadau am rôl Cwnstabl Arbennig yn cau ar 20 Mehefin. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i https://www.northwales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-gogledd-cymru/ardaloedd/gyrfaoedd/gyrfaoedd/swyddog-gwirfoddol/