Sam Rowlands MS for North Wales is calling for communities to be given more powers to protect local services.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was speaking in a Member’s Debate on ‘Empowering Communities’.
He said:
I would like to focus on two key areas that I think are crucial in empowering our local communities before looking to address the two main action points in the motion.
The first point really is the importance and role of our councillors and councils in making this ambition a success. As I have stated time and time again in the Chamber, it is councillors who often know their communities best because they are democratically elected to do so. It's councillors who need to be given the levers and power to deliver the change as needed in the community, to truly empower them and the residents that they represent.
Secondly, when talking about empowering communities, I just want to mention the importance of having pride of place, being proud of where we work and live.
The action points in the motion 'Calls on the Welsh Government to: co-produce a communities strategy to develop an enabling state for community action and explore the legal options for establishing a community right to buy in Wales.
A right to buy is something I certainly support. We have outlined in our recent manifesto as Conservatives, that empowering local communities is really important, and being able to support them in protecting their local services.
We have explored ideas around things like a community ownership fund, which perhaps could be within the thinking of Governments in the future as well.
A community ownership fund would help local communities to buy facilities, such as a local pub, shop or library that needs saving, that perhaps is closing down, and just really empower those communities or groups to get hold of those things that are very important to their village or their town.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cynnig y Senedd i rymuso cymunedau
Mae Sam Rowlands AS ar gyfer Gogledd Cymru yn galw am roi mwy o bwerau i gymunedau er mwyn iddynt amddiffyn gwasanaethau lleol.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn siarad yn ystod Dadl Aelod ar 'Rymuso Cymunedau’.
Meddai:
Hoffwn ganolbwyntio ar ddau faes allweddol sydd, yn fy marn i, yn hanfodol i rymuso ein cymunedau lleol cyn ceisio mynd i'r afael â'r ddau brif bwynt gweithredu yn y cynnig heddiw.
Y pwynt cyntaf mewn gwirionedd yw pwysigrwydd a rôl ein cynghorwyr a'n cynghorau i wneud yr uchelgais hon yn llwyddiant. Fel yr wyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Siambr, cynghorwyr sy'n adnabod eu cymunedau orau yn aml gan eu bod yn cael eu hethol yn ddemocrataidd i wneud hynny. I gynghorwyr y dylid rhoi'r ysgogiadau a'r pŵer i gyflawni newid yn ôl yr angen yn y gymuned, er mwyn eu grymuso hwy a'r trigolion maen nhw’n eu cynrychioli.
Yn ail, wrth sôn am rymuso cymunedau, rwyf am sôn am bwysigrwydd balchder mewn lle, bod yn falch o'r llefydd rydym yn gweithio ac yn byw ynddynt.
Mae'r camau gweithredu yn y cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i: gydweithio i greu strategaeth cymunedau i ddatblygu gwladwriaeth sy'n galluogi gweithredu cymunedol ac archwilio'r opsiynau cyfreithiol ar gyfer sefydlu hawl gymunedol i brynu yng Nghymru’.
Mae hawl i brynu’n rhywbeth rwy'n sicr yn ei chefnogi. Fel yr amlinellwyd gennym yn ein maniffesto diweddar fel Ceidwadwyr, credwn fod grymuso cymunedau lleol yn bwysig iawn, ac mae gallu eu cefnogi i ddiogelu eu gwasanaethau lleol yn bwysig hefyd.
Rydym wedi archwilio ac wedi meddwl am syniadau ynglŷn â phethau fel cronfa perchnogaeth gymunedol, a allai fod yn rhywbeth y gallai Llywodraethau feddwl amdani yn y dyfodol hefyd.
Byddai cronfa perchnogaeth gymunedol yn helpu cymunedau lleol i brynu cyfleusterau, megis tafarn, siop neu lyfrgell leol y mae angen eu hachub ac sy’n cau o bosib, ac yn grymuso'r cymunedau neu'r grwpiau hynny i sicrhau perchnogaeth ar y pethau sy'n bwysig iawn i'w pentref neu i'w tref.