Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says the Welsh Labour Government must be removed as the first step to reviving the Welsh NHS.
Mr Rowlands, was speaking during the Welsh Conservative debate to commemorate 75 years of the National Health Service.
He said:
75 years is a significant milestone for the national health service, and in that period I'm sure every one of us will have had the reason to be grateful for the NHS, and certainly to those working in the health service in particular.
I've shared a number of times in this Chamber that I'm proud that my brother and sister are both nurses in the NHS, and like many others have played their part in helping people in our communities when they're most in need.
Our staff in the NHS are those who do their best to serve patients, to support them and help them in their hour of need, despite at times in very challenging working conditions and also at times working in health boards such as Betsi Cadwaladr University Health Board, which could be described as being dysfunctional.
It's clear that the dedication of the staff is not in question when it comes to the NHS to have today sustained the health service over these 75 years. But as we mark this milestone, my concern is what the health service will look like for the next 75 years, and how well set up the NHS is in Wales to be able to maintain its core principle of being free at the point of need.
We know that in one way or another, the NHS in Wales has been run by a Labour Government for more than 25 years, and whilst the responsibility for the delivery of these services could sit with health boards or with delivery bodies, the accountability sits clearly with the Welsh Government.
One of the most important areas of focus for the Welsh Government should be in relation to point 2 of our motion today, which, and I'll quote, 'Notes the British Medical Association's warning that GP services and the Welsh National Health Service is in crisis and at risk of collapse.'
This is a sobering warning and shows the importance of getting it right, and particularly at a primary care level. The 'risk of collapse', as described by the BMA, has been overseen by a Labour Government here in Wales. It's the same Labour Party, who are the only Government in Britain to cut NHS spending in modern times. And it's this Labour Party who preside over two-year waiting lists of over 30,000, when the number is zero in England.
From founding the national health service to running it into the ground, that is the current legacy of the Labour Party here in Wales. The evidence to me is clear. We all know what the first step in a Welsh NHS revival is, and that's the removal of Labour from office.
Sam Rowlands AS yn beio Llywodraeth Cymru am fethiannau’r GIG yng Nghymru
Dywed Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, bod yn rhaid cael gwared ar Lywodraeth Lafur Cymru fel y cam cyntaf tuag at adfywio GIG Cymru.
Roedd Mr Rowlands yn siarad yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig i goffáu 75 mlynedd o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Meddai:
Mae 75 mlynedd yn garreg filltir bwysig i'r gwasanaeth iechyd gwladol, ac yn y cyfnod hwnnw rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom ni wedi cael rheswm dros fod yn ddiolchgar i’r GIG, ac yn sicr i'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn arbennig.
Rwyf wedi sôn sawl gwaith yn y Siambr hon fy mod yn falch bod fy mrawd a'm chwaer ill dau yn nyrsys yn y GIG, ac fel llawer o bobl eraill maen nhw wedi chwarae eu rhan wrth helpu pobl yn ein cymunedau pan fyddan nhw ei angen fwyaf.
Ein staff yn y GIG yw'r rhai sy'n gwneud eu gorau i wasanaethu cleifion, i'w cefnogi a'u helpu pan mae angen hynny, er gwaethaf amodau gwaith heriol iawn ar adegau. Maen nhw hefyd yn gwneud hynny ar adegau wrth weithio i fyrddau iechyd fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y gellid eu disgrifio fel rhai mewn cyflwr camweithredol.
Mae'n amlwg nad oes amheuaeth ynghylch ymroddiad y staff dan sylw o ran y GIG. Maen nhw wedi cynnal y gwasanaeth iechyd dros y 75 mlynedd. Ond wrth i ni ddathlu'r garreg filltir hon, fy mhryder i yw sut olwg fydd ar y gwasanaeth iechyd am y 75 mlynedd nesaf, a pha mor barod yw'r GIG yng Nghymru i allu cynnal yr egwyddor graidd o fod yn ddi-dâl pan fo angen yn codi.
Rydyn ni'n gwybod, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, fod y GIG yng Nghymru wedi cael ei redeg gan Lywodraeth Lafur ers dros 25 mlynedd, ac er y gallai'r cyfrifoldeb dros ddarparu'r gwasanaethau hyn fod yn nwylo byrddau iechyd neu gyda chyrff cyflenwi, mae'r atebolrwydd yn amlwg ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru.
Mae un o'r meysydd ffocws pwysicaf i Lywodraeth Cymru yn ymwneud â phwynt 2 ein cynnig heddiw, sydd, ac rwy’n dyfynnu, 'Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o fethu.'
Mae hwn yn rhybudd brawychus ac mae'n dangos pwysigrwydd cael pethau'n iawn, ac yn enwedig ar lefel gofal sylfaenol. Mae'r 'risg o fethu’, fel y disgrifiwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain, wedi cael ei oruchwylio gan y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru. Y Blaid Lafur yw'r unig Lywodraeth ym Mhrydain i dorri gwariant ar y GIG yn y cyfnod modern. A'r Blaid Lafur sy'n gyfrifol am restrau aros o dros ddwy flynedd i fwy na 30,000 o bobl, pan nad oes neb yn aros yn Lloegr.
Gwaddol bresennol y Blaid Lafur yng Nghymru yw ei bod wedi mynd o sefydlu'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i'w redeg i'r wal. Mae'r dystiolaeth i mi yn glir. Rydyn ni i gyd yn gwybod beth yw'r cam cyntaf i adfywio’r GIG yng Nghymru - cael gwared ar y Llywodraeth Lafur.